Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 5 Hydref 2016.
Ar gyfer y cofnod, roeddwn wedi gweld lle i’r HS2 gefnogi economi Rochester a Stroud ar yr adeg yr addawyd cysylltiad ar draws Llundain i fynd â threnau uniongyrchol o Ebbsfleet i Manceinion a Birmingham. Tynnwyd hynny allan o’r prosiect wedyn, a thynnais fy nghefnogaeth yn ôl a chytuno gyda fy nghyd-Aelod na fyddai o fudd i economi Cymru.