Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a chroesawu’r cyfle i drafod y mater pwysig hwn? Rwy’n credu bod gennym ger ein bron gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddatblygu seilwaith trafnidiaeth o’r radd flaenaf yng Nghymru. Ynghyd â metro’r de a metro’r gogledd-ddwyrain, masnachfraint newydd Cymru a’r gororau, gwaith gwella ar yr A55, ffordd liniaru’r M4, ailffurfio ein rhwydwaith bysiau a’r llwyfan y mae ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei roi i ni i gyflawni newid moddol, rwy’n credu bod gennym gyfle gwych i greu system drafnidiaeth integredig o safon ryngwladol ledled Cymru.
Mae’r integreiddio hwnnw’n hanfodol. Mae’n hanfodol am fod system drafnidiaeth o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn darparu mynediad at swyddi a gwasanaethau. Yn ei dro, mae’n ganolog i economi sy’n cyflawni ar lefel uchel, ac mae gan ein rhwydwaith rheilffyrdd rôl ganolog i’w chwarae yn hynny. Credaf y bydd cysylltiadau teithio pellter hir effeithlon a datblygu HS2 yn sicrhau manteision sylweddol i ganolbarth a gogledd Cymru fel rhan o rwydwaith rheilffyrdd integredig ar draws y DU. A rhennir y safbwynt hwn yn llwyr gan gyfranogwyr ‘Growth Track 360’, gan gynnwys addysg bellach, awdurdodau lleol, cynghorau yn Lloegr ac wrth gwrs, y sector preifat.
Rwyf am wneud yn siŵr ei fod yn cael integreiddio’n briodol, fodd bynnag, i economi gogledd Cymru. Gellid rhyddhau potensial aruthrol y rhanbarth pe bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyllid i drydaneiddio prif reilffordd arfordir gogledd Cymru rhwng Caergybi a Llandudno i Warrington a Crewe, a datblygu canolfan gwbl integredig yn Crewe. Yn y pen draw, gallai hyn alluogi trenau sy’n teithio i ac o ogledd Cymru i ddefnyddio seilwaith cyflym newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau manteision gorau HS2, ond rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU hyd yn hyn wedi cytuno i ddatganoli cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd a phwerau i gyfarwyddo Network Rail, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddechrau trafodaethau ar y setliad datganoli llawn a argymhellir gan y comisiwn.
Er nad yw cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, rydym wedi defnyddio ein pwerau i fuddsoddi mewn gwelliannau i’r rheilffyrdd, gan gynnwys rheilffordd y Cambrian a rhwng Saltney a Wrecsam. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington i ddatblygu’r achos busnes strategol amlinellol ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd fel na fydd ein seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru yn llithro ymhellach ar ôl yr hyn y mae gweddill Prydain yn ei fwynhau.
Nid yw hanes diweddar yn gadarnhaol, fodd bynnag. Mae data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn dangos mai oddeutu 1 y cant yn unig o fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn gwelliannau i’r seilwaith rheilffyrdd a wariwyd yn ardal y llwybr yng Nghymru rhwng 2011 a 2015. Rwy’n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi ymrwymiad y bydd yn gwario ei chyfran deg o fuddsoddiad ar welliannau i’r rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y cyfnod ariannu nesaf.
Mae angen i’r setliad gydnabod y tanfuddsoddi hanesyddol a welsom yng Nghymru, a’r ffaith fod llwybr Network Rail Cymru yn ymestyn i mewn i Loegr. Nawr, nid wyf yn dymuno rhoi’r gert o flaen y ceffyl, ond rwy’n pwyso ar Lywodraeth y DU yn awr am gadarnhad y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno’n syth ar ôl cwblhau’r trydaneiddio i Gaerdydd yn 2018. Y cynllun i ymestyn i Abertawe yw hwn wrth gwrs. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cadarnhau na fydd Cymru ar ei cholled yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. O arwyddocâd allweddol o ran cyllid ar gyfer darparu metro de Cymru a thrydaneiddio i Aberdaugleddau a Chaergybi, fel sy’n ofynnol erbyn 2030 o dan y rheoliadau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd, rhaid sicrhau bod cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU i gyflawni’r gofynion hyn. Mae ar Gymru ei angen, ac mae ar ein heconomi ei angen.