Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, rwy'n credu mai ‘hwb’ yw’r gair sy'n cael ei ddefnyddio nawr. Maen nhw’n awyddus i roi hwb i gwmnïau i’r cyfeiriad hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn fel Llywodraeth, yw nad ydym ni’n mynd i wneud hynny, ac ni fydd unrhyw un o'r cyrff yr ydym ni’n eu noddi yn gwneud hynny ychwaith. Yn y pen draw, mater i gwmnïau yw pwy maen nhw’n eu cyflogi. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol cael rhestrau o bobl a fyddai'n cael eu defnyddio yn erbyn y busnesau hynny am lawer iawn o resymau: yn gyntaf, oherwydd yr hyn yr wyf yn credu yw ochr sinistr y mater, sef awgrymu os nad oes gan bobl basbort y DU, yna eu bod nhw rywsut yn dwyllwyr yn y swyddi sydd ganddynt, sef y neges y byddai’n ei chyfleu mewn gwirionedd; ac yn ail, ni allaf feddwl am unrhyw wrthanogaeth mwy pwerus i fuddsoddwr na dweud wrtho, 'Os byddwch chi’n dod i Gymru, neu’n dod i'r DU, bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym faint o weithwyr o'r tu allan i'r DU y byddwch yn eu cyflogi '. Nid oes rhaid iddynt wneud hynny mewn gwledydd eraill, ac mae hynny'n rhwystr arall i fuddsoddiad cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Fel finnau, gwn iddi rannu'r un farn yn gyflym iawn ac yn gyhoeddus iawn pan wnaed y cyhoeddiad. Nid wyf yn credu mai creu rhestrau o bobl o'r tu allan i'r DU gyda’r nod o ddefnyddio’r bobl hynny yn erbyn y cwmnïau sy'n eu cyflogi yw'r ffordd iawn ymlaen i Gymru nac i Brydain.