Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel—[Torri ar draws.]—realiti'r sefyllfa, os wyf yn cofio—rwy’n credu fod y Gweinidog wedi ymyrryd yn y fan yna, ond rwyf yn mynd i ateb y cwestiwn. Os wyf yn cofio, byddai'r polisïau yr oedd hi’n eu dilyn ym mis Mai yn golygu y byddai myfyrwyr wedi cael eu cymell i aros yng Nghymru, yn yr ystyr y byddai eu ffioedd wedi cael eu talu pe byddent wedi astudio yng Nghymru, ond nid yn rhywle arall. Nid yw hwnnw'n safbwynt y byddwn yn ei rannu. [Torri ar draws.] O’m safbwynt i, yr hyn yr wyf i eisiau ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n denu myfyrwyr i mewn i Gymru, nid yn unig y rhai sydd o Gymru, ond o’r tu allan i Gymru hefyd, a gwneud yn siŵr bod swyddi medrus yno ar eu cyfer.
I mi, nid yw'n gwestiwn o ba un a ydyn nhw’n gadael, mae'n gwestiwn o’u galluogi i ddychwelyd. Oherwydd nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na fyddai pobl ifanc eisiau gadael, ennill profiad yn rhywle arall, a dod yn ôl a dod â’r profiad hwnnw yn ôl gyda nhw, yn yr un modd ag y gwn y bydd pobl a fydd yn dod i Gaerdydd yn eu hugeiniau ac yna’n dychwelyd i gefn gwlad Cymru pan fyddant yn hŷn. Rwy'n credu eu bod yn mynd â’u profiad yn ôl gyda nhw. I ni, mae'r cwbl yn ymwneud â sicrhau bod y swyddi ar gael yno. Dyna pam mae diweithdra yn 4.1 y cant—is na'r Alban, is na Lloegr, is na Gogledd Iwerddon—a dyna pam rydym ni’n gweld Cymru fel lle da i fuddsoddi ynddo, i ddod â swyddi medrus, ar ran cynifer o gwmnïau rhyngwladol.