Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 11 Hydref 2016.
Pwy all anghytuno â'r dystiolaeth rymus y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei rhoi i ni? Nid oes gennyf unrhyw reswm i beidio â chredu’r hyn a ddywedwyd. Mewn amgylchedd o anobaith, bydd rheibwyr yn ffynnu, ac mae'n ymddangos bod hynny'n wir yn Calais.
Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag aelod etholedig cyfrifol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros ffoaduriaid, Dyfed Edwards, arweinydd Gwynedd, a thrafodwyd rhai o’r materion hyn gennym, gan gynnwys plant heb gwmni. Mae'n wir dweud mai prin yw’r ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru hyd yn hyn, ond siaradodd y ddau ohonom am sut y gallwn helpu awdurdodau lleol i ailsefydlu ffoaduriaid sy'n oedolion yn ogystal â phlant heb gwmni. Wrth gwrs, cytunodd y ddau ohonom i gydweithio hefyd er mwyn gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn teimlo y dylai cyllid ddod o ffynhonnell nas datganolwyd, bod y cyllid hwnnw’n dod o Whitehall. Ond, yn sicr, roedd yn gyfarfod da ac yn pwysleisio, unwaith eto, ein bod ni ein hunain a CLlLC yn sicr eisiau sicrhau bod plant yn cael hafan ddiogel yng Nghymru a’u bod yn gallu symud i ffwrdd yn barhaol oddi wrth y math o gamfanteisio y mae hi wedi ei rannu gyda ni.