Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 11 Hydref 2016.
Yn sicr. Pwynt y Ddeddf teithio llesol, wrth gwrs, yw annog mwy o ddiogelwch, mae cymaint â hynny yn amlwg, ond hefyd, wrth gwrs, sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn ystyried cerdded a beicio fel ffurfiau o hamdden yn unig, ond fel math o drafnidiaeth, felly y gellir temtio mwy o bobl allan o'u ceir. Wrth gwrs, mae hynny o fudd nid yn unig i draffig ond iddyn nhw eu hunain, fel unigolion, o ran eu hiechyd. Roedd wrth wraidd y Ddeddf teithio llesol—mae John Griffiths, wrth gwrs, yno; mae’n rhywun sy’n frwdfrydig iawn am y Ddeddf, ac rydym ni eisiau gweld awdurdodau lleol yn sicrhau, yn y dyfodol, yr ystyrir beicio a cherdded yn 'normal', fel y byddent yn ei roi—yn fathau arferol o drafnidiaeth ochr yn ochr â dulliau eraill mwy traddodiadol.