2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro? OAQ(5)0188(FM)
Mae’r fframwaith diogelwch ar y ffyrdd i Gymru yn amlinellu’r camau gweithredu y byddwn ni a’n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau ar gyfer lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffordd. Bydd y fframwaith yn cael ei adolygu unwaith eto unwaith y bydd y ffigurau ar gyfer y rheini a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn 2016 gael eu cyhoeddi.
Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn broblem i gerddwyr yng nghwm Abergwaun, ac er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Weinidogion blaenorol, ac er bod astudiaeth dichonoldeb wedi cymryd lle yn 2012-13, mae’r Gweinidog presennol wedi gofyn am astudiaeth arall i adeiladu pont droed. Rwy’n siŵr eich bod chi’n gyfarwydd â’r rhan yna o’r dref a’i bod hi’n bwysig i wella diogelwch yn y rhan yna. Felly, pa sicrwydd y gall eich Llywodraeth chi ei roi i bobl yn yr ardal yna y bydd pont droed mewn gwirionedd yn cael ei hadeiladu i’r gymuned leol yn ystod y Cynulliad hwn, yn hytrach na chael ymrwymiadau i astudiaethau dichonoldeb diddiwedd, a pha gyllid a fydd ar gael i brojectau fel hyn?
Mae’r Aelod yn sôn am Gwm Gwaun—nid wyf yn gwybod am unrhyw lwybr yng Nghwm Gwaun. Rwy’n gwybod fod yna broblem ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, os mai dyna beth mae’n sôn amdano. Ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, mae’r gwaith yn symud ymlaen ar hynny. Ynglŷn a’r mater mae wedi ei godi, a gaf i felly ysgrifennu ato fe gyda mwy o fanylion er mwyn ei fod yn gallu sicrhau bod y manylion ar gael i’w etholwyr?
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb ar hynny. Roeddwn i eisiau ehangu hyn rhyw fymryn i faterion diogelwch ar y ffyrdd sy’n sicr wedi cael eu codi gyda mi, a chyda llawer o Aelodau eraill rwy’n siŵr, yn enwedig o ran diogelwch o amgylch ysgolion. Mae'n aml yn wir, hyd yn oed gyda’r ddarpariaeth o groesfannau sebra a phelican, bod diogelwch plant sy'n teithio i ysgolion ac yn ôl adref yn peri pryder. Yn ddelfrydol, byddai'r cyngor yn cyflogi staff patrôl croesfannau ysgol mewn ysgolion, ond, gan fod cost hynny’n amlwg yn grocbris, mae angen i gynghorau barhau i flaenoriaethu eu gwariant heb y ddarpariaeth hon. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, yn rhan o'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, bod cyfle i awdurdodau lleol, wrth baratoi eu mapiau, feddwl yn rhagweithiol am fynd i'r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd yn yr ysgolion sydd yn eu hardaloedd hwy?
Yn sicr. Pwynt y Ddeddf teithio llesol, wrth gwrs, yw annog mwy o ddiogelwch, mae cymaint â hynny yn amlwg, ond hefyd, wrth gwrs, sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn ystyried cerdded a beicio fel ffurfiau o hamdden yn unig, ond fel math o drafnidiaeth, felly y gellir temtio mwy o bobl allan o'u ceir. Wrth gwrs, mae hynny o fudd nid yn unig i draffig ond iddyn nhw eu hunain, fel unigolion, o ran eu hiechyd. Roedd wrth wraidd y Ddeddf teithio llesol—mae John Griffiths, wrth gwrs, yno; mae’n rhywun sy’n frwdfrydig iawn am y Ddeddf, ac rydym ni eisiau gweld awdurdodau lleol yn sicrhau, yn y dyfodol, yr ystyrir beicio a cherdded yn 'normal', fel y byddent yn ei roi—yn fathau arferol o drafnidiaeth ochr yn ochr â dulliau eraill mwy traddodiadol.
Mae’n anodd cyrraedd y normalrwydd rŷch chi’n sôn amdano, Brif Weinidog, pan fo seiclo yn golygu 1 y cant o’r holl deithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru a sir Benfro, ac mae cael eich lladd neu’ch anafu’n ddifrifol ar feisicl yn 33 y cant. Felly, mae yna ‘mismatch’ eithriadol fanna rhwng yr hyn sy’n cael eu cymryd ar gefn beic a’r hyn sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol. Mae hynny’n arbennig o wir am bobl ifanc, lle mae gennych chi darged o ostyngiad o 40 y cant, ac rydych chi ond wedi gostwng y nifer o bobl ifanc sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o 28 y cant. Mae’n ostyngiad, ond nid yw wedi cyrraedd y targed. Pa gamau pellach ydych chi’n mynd i’w cymryd i ddiogelu ffyrdd yn sir Benfro a thu hwnt, yn arbennig ar gyfer seiclwyr a phobl ifanc sy’n gorfod defnyddio’r ffordd?
Wrth gwrs, un o’r pethau bydd Deddf Cymru yn ei roi i ni yw’r pŵer dros gyflymdra. Mewn rhai heolydd, byddai’n werth, yn fy marn i, ystyried a ddylai’r cyflymdra ddod lawr er mwyn diogelu seiclwyr. Mae yna risg i seiclo, achos y ffaith nad yw seicl mor fawr â char, ond nid yw hynny’n meddwl y dylai pobl gael risg gormodol. I fi—ac rwy’n gwybod nad yw rhai o’r farn hon—mae’n bwysig hefyd sicrhau bod yna lwybrau sydd ddim ond i seiclwyr. Mae rhai yn dweud—ac rwy’n deall y ddadl hon—y dylai seiclwyr gael yr un hawliau ar yr heol â cheir, rwy’n deall hynny. Ond, i lot o bobl, nid oes ganddyn nhw’r hyder i fynd ar yr heol a chymysgu gyda cheir. I fi, y datblygiad rŷm ni wedi’i weld yn ddiweddar—er enghraifft, ffordd osgoi Pentre’r Eglwys yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae yna lwybr seiclo wedi cael ei ddodi i mewn fel rhywbeth hollol arferol—mae honno’n un ffordd ymlaen er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio beiciau, yn y pen draw, mewn ffordd maen nhw’n credu sy’n saff.