<p>Diogelwch ar y Ffyrdd yn Sir Benfro</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 11 Hydref 2016

Wrth gwrs, un o’r pethau bydd Deddf Cymru yn ei roi i ni yw’r pŵer dros gyflymdra. Mewn rhai heolydd, byddai’n werth, yn fy marn i, ystyried a ddylai’r cyflymdra ddod lawr er mwyn diogelu seiclwyr. Mae yna risg i seiclo, achos y ffaith nad yw seicl mor fawr â char, ond nid yw hynny’n meddwl y dylai pobl gael risg gormodol. I fi—ac rwy’n gwybod nad yw rhai o’r farn hon—mae’n bwysig hefyd sicrhau bod yna lwybrau sydd ddim ond i seiclwyr. Mae rhai yn dweud—ac rwy’n deall y ddadl hon—y dylai seiclwyr gael yr un hawliau ar yr heol â cheir, rwy’n deall hynny. Ond, i lot o bobl, nid oes ganddyn nhw’r hyder i fynd ar yr heol a chymysgu gyda cheir. I fi, y datblygiad rŷm ni wedi’i weld yn ddiweddar—er enghraifft, ffordd osgoi Pentre’r Eglwys yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae yna lwybr seiclo wedi cael ei ddodi i mewn fel rhywbeth hollol arferol—mae honno’n un ffordd ymlaen er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio beiciau, yn y pen draw, mewn ffordd maen nhw’n credu sy’n saff.