<p>Darlledwyr sy’n Derbyn Arian Cyhoeddus</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:06, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae'r siarter drafft hwn yn cynnig cyfle i graffu ar y BBC ymhellach, gan gynnwys penodiad cyfarwyddwr anweithredol i'w gytuno gan Lywodraethau’r DU a Chymru. Ymhlith pryderon na fydd yr un pwysigrwydd, fodd bynnag, yn cael ei neilltuo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru â Thŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, pa sylwadau ydych chi’n eu gwneud ar ran y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn rhan o’r broses honno o wneud penderfyniadau o ran penodi cyfarwyddwr anweithredol yn ogystal â gweithrediadau pellach y BBC?