Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae'n bwynt pwysig y mae’r Aelod yn ei godi. Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried ar hyn o bryd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd gan y Cynulliad bwerau bellach i graffu ar y BBC—nid yw wedi digwydd o'r blaen, wrth gwrs—i alw arno i ymddangos gerbron y Cynulliad a’i ddwyn i gyfrif yn uniongyrchol, sy'n ei wneud yn gyfartal â Senedd y DU.
O ran y mater y mae'r Aelod yn ei godi, mae'n rhywbeth sy’n dal, fel y dywedais, yn destun trafodaeth o ran gallu a swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o'r broses honno.