Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi pwysleisio'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i'r gwaith hefyd. Sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y 100,000 o brentisiaethau a addawyd yn ei rhaglen lywodraethu yn cael eu darparu ar sail anghenion yn hytrach nag oedran yr unigolyn yng Nghymru?