Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, y bwriad, wrth gwrs, yw iddo fod ar gyfer pob oed. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn yn y fan yma yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweithio gyda'r bobl hynny sydd eisiau dod yn ôl i'r gwaith. Efallai fod rhai wedi ymddeol. Efallai y byddant yn teimlo eu bod yn gyfforddus yn ariannol. Ac, wrth gwrs, i lawer o bobl sydd wedi ymddeol, nhw yw sail y gwirfoddolwyr sydd gennym ni ledled Cymru. Un o'r materion sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, rwy’n credu, wrth i bobl weithio’n hwy, yw'r posibilrwydd y bydd llai o wirfoddolwyr yn y dyfodol oherwydd bod gan bobl lai o amser ar eu dwylo. Ond, serch hynny, holl bwynt y cynllun pob oed yw gwneud yn siŵr ei fod yn union hynny: pob oed.