Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, bydd yn ceisio sicrhau—os edrychwn ni, er enghraifft, ar broses y cynllun datblygu lleol—bod hynny’n cael ei wneud mewn amser priodol. Bydd yn edrych ar ddatblygiadau penodol ac yn eu cymryd oddi wrth awdurdodau lleol fel y gellir eu hystyried yn gyflymach, nid o ran llai o fanylder ond o’r safbwynt eu bod yn cael eu hystyried yn unol ag amserlen briodol. Hefyd, wrth gwrs, bydd yn sicrhau, cyn belled ag y mae datblygwyr a'r cyhoedd yn y cwestiwn, y bydd gwell dealltwriaeth o sut y mae'r broses gynllunio yn gweithio ac ar ba adeg y mae’n rhaid nodi’r broses gynllunio. Ond, yn y pen draw, mae'n fater o sicrhau nid yn unig bod tir ar gael, ond hefyd bod amryw o wahanol fodelau ar gael o ran y math o ddaliadaeth y mae pobl yn dymuno ei gael pan eu bod yn prynu neu’n rhentu tai.