Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae yna gyfle, wrth gwrs, i awdurdodau lleol greu ffigurau eu hunain, os mae yna dystiolaeth i wneud hynny. So, lle maen nhw’n dweud nad yw’r ffigurau yn iawn, mae fe’n bosib i awdurdodau lleol ddweud, ‘Wel, mae yna ffigurau gyda ni; maen nhw’n ffigurau sydd yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth, ac felly rheini yw’r ffigurau rydym ni’n moyn eu defnyddio.’ Mae’n fater wedyn i’r arolygydd ynglŷn â faint o bwysau fydd yn cael ei roi i’r ffigurau hynny. So, mae fe’n bosib yn barod i awdurdodau lleol ddefnyddio ffigurau gwahanol os mae yna dystiolaeth tu ôl i’r ffigurau hynny.