Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, mae hynny yn fy siomi, Brif Weinidog, gan fod TAN 8 wedi bod mewn lle heb adolygiad sylweddol ers 2005. Mewn ffordd, mae wedi methu o ran ei brif amcan, sef cynllunio ar gyfer ynni adnewyddol, tuag at y targed yr oedd y Llywodraeth wedi’i osod. Rydym yn bell i ffwrdd o’r targed hwnnw. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod grymoedd newydd dros ynni yn dod i’r Llywodraeth, hyd at 350 MW, sy’n cynnwys yr holl ddatblygiadau ynni ar y tir a hefyd pethau diddorol fel morlynnoedd hefyd. Onid yw’n briodol, erbyn hyn, i adolygu TAN 8 a chael rhyw fath o drefn gynllunio gorfodol sy’n fwy cywir yn ei lle ar gyfer yr amcanion newid hinsawdd, a hefyd i roi pwysau ar y Grid Cenedlaethol i gryfhau’r grid yn y llefydd lle mae angen gwneud hynny?