<p>Adolygu TAN 8</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 11 Hydref 2016

Wel, nid wyf yn credu taw’r broblem yw’r TAN. Y broblem oedd y ffiniau a oedd yn eu lle, sef y ffaith nad oeddem yn gallu delio â dim byd yn fwy na 50 MW—ac ar y môr, wrth gwrs, dim byd yn fwy nag 1 MW. Felly, wrth gwrs, nid oedd TAN 8 yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried gan Weinidogion yn Llundain. Felly, nid y TAN yw’r broblem, ond y ffiniau a oedd yno i ddechrau. Rwy’n croesawu, wrth gwrs, y ffaith mai 350 MW fydd y ffin yn y pen draw. Nid oes unrhyw reswm synhwyrol am y ffigur hwnnw. Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod fy marn i—a bydd ei farn e yr un peth—sef y dylem ni gael yr un pwerau ynglŷn â’r grid â’r hynny sydd gan yr Alban. Felly, y pwerau yw’r broblem, ac nid y TAN, yn fy marn i.