<p>Masnach Rhwng Cymru ac Iwerddon</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:17, 11 Hydref 2016

Yn fy etholaeth i, Ynys Môn, mae’r cwestiwn o ffiniau efo Iwerddon yn un o’r cwestiynau mwyaf allweddol o ran y drafodaeth am adael yr Undeb Ewropeaidd. Os oes ffin i gael ei gosod o gwmpas ynys Iwerddon, fel sy’n cael ei hawgrymu—ac mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon wedi dweud ei fod am gryfhau rheolaeth ffiniau ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon—beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith debygol hynny ar y man croesi pwysicaf o ran masnach rhwng Prydain ac Iwerddon, sef, yn fy etholaeth i, porthladd Caergybi?