Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna, a diolchaf hefyd i Mark Isherwood am dynnu sylw at y diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol ddoe o gyflwr yr wyf yn siŵr nad oedd llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn ymwybodol ohono—ac i weld bod hwn yn gyflwr, o ran eiddilwch, sy'n effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ac mae'n effeithio ar lawer mwy o bobl nag y byddem ni wedi bod yn ymwybodol efallai. Felly, diolchaf i’r Aelod am dynnu ein sylw ato heddiw yn y datganiad busnes.
O ran eich ail bwynt, rydych chi yn llygad eich lle, wrth gwrs, o ran mynd i'r afael â thlodi, bod hwn yn gyfrifoldeb ar draws Llywodraeth Cymru o ran cyfrifoldeb gweinidogol, ond roedd y Swyddfa Gyflwyno yn gwbl gywir, a byddwch yn gweld hyn o gyfrifoldebau portffolio, mai’r Gweinidog arweiniol yw'r Gweinidog dros yr economi a seilwaith. Ond yn amlwg, os ydych chi’n paratoi eich cwestiwn ar faterion sy'n effeithio ar blant neu dlodi plant, byddai'n mynd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Mae'n gwbl eglur bod hyn yn rhywbeth lle ceir cyfrifoldeb a rennir, ond Ken Skates yw’r arweinydd ar gyfer hynny o ran y Cabinet yn ei gyfanrwydd.