Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 11 Hydref 2016.
Yn amlwg rwy’n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi anghytuno ag ef y bu’r cyfnod rhwng 2000 a 2014 rywsut yn llwyddiant economaidd pur i’r rhai hynny ohonom sy'n byw yn y gorllewin a'r Cymoedd. Dewisodd y ffigurau a ddyfynnodd yn ofalus iawn. Gan ein bod yn sôn am raglen Ewropeaidd, os edrychwn ar sefyllfa’r gorllewin a'r Cymoedd o’i chymharu â’r Undeb Ewropeaidd gyfan, maen nhw wedi disgyn o ran gwerth ychwanegol gros y pen: 73 y cant o incwm y pen 27 gwlad yr UE yn 2000, 69 y cant yn 2014, sef y flwyddyn ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar ei chyfer. Wrth gymharu hynny â Gwlad Pwyl, a oedd yn 47 y cant ar ddechrau'r cyfnod hwn, ac erbyn hyn wedi cyrraedd 68 y cant; Sacsoni, 79 y cant ac erbyn hyn wedi codi i 94 y cant—ardaloedd eraill sydd wedi elwa ar, ac wedi defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, mae’n rhaid i mi ddweud, mewn ffordd fwy strategol a llwyddiannus o lawer na'r Llywodraeth hon yn ystod y cyfnod hwn.
Mae gen i nifer o gwestiynau penodol iddo. Yn amlwg, rydym yn byw mewn cyfnod o gynnwrf economaidd. Pa effaith y mae anwadalrwydd y gyfradd gyfnewid yn ei chael ar faint o ddyraniad sydd ar gael? Nodaf yn y cynllun datblygu gwledig fod y gyfradd gyfnewid cynllunio wedi ei diwygio, ond ymddengys ei bod wedi ei diwygio yn anghywir o ran sut y cyfeiriad y mae’r gyfradd gyfnewid yn mynd iddo. Mae'r gyfradd gydgyllido yn y cynllun datblygu gwledig hefyd wedi ei diwygio tuag i lawr—cyfraniad lleol Cymru y DU—o 57 y cant i 47 y cant. Nodaf fod Prif Weinidogion wedi drysu’n lân yn y Siambr hon o'r blaen o ganlyniad i gwestiynau ynglŷn ag ychwanegedd, felly hoffwn iddo ddweud a yw'r newid hwnnw i’r gyfradd gydgyllido hefyd yn berthnasol i'r cronfeydd strwythurol yn ehangach.
Ynglŷn â WEFO, onid y peth pwysig yn awr yw ymrwymo’r arian a sefydlu’r rhaglenni, achos y gwir berygl—y perygl mwyaf difrifol oll—yw ein bod yn colli’r cyllid a dad-ymrwymo’r cyllid oherwydd nad ydym yn newid cyflymder gwneud penderfyniad, sydd yn dal, yn anffodus, yn hynod o araf, hyd y gwelaf i, yn WEFO.
Yn olaf, ynglŷn â’r pwyllgor monitro rhaglenni, a yw'n wir y bydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn cwrdd yn llai aml o hyn ymlaen? Clywais am ‘gyfarfodydd hirach’, ond ’does bosibl mai cyfarfodydd byrrach ac amlach fyddai mewn gwirionedd yn ateb heriau’r cyfnod sydd o’n blaenau yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er fy mod i’n edmygu Julie Morgan, onid ymagwedd Cymru gyfan at gronfeydd strwythurol Ewropeaidd sydd ei hangen arnom, nid ymagwedd Llywodraeth Cymru gyfan. Pam na achubwyd ar y cyfle mewn gwirionedd i benodi aelod o wrthblaid i gadeirio'r pwyllgor pwysig hwnnw, oherwydd ’does bosib na ddylem ni i gyd fod yn gweithio gyda'n gilydd ar y mater hwn, ledled Cymru—[Torri ar draws.] Pam nad eu rhyddhau? Yn hollol. Mae bob amser wedi bod yn Aelod Llafur. Pam oedd Cadeirydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn ddarostyngedig i gydgyfrifoldeb y Cabinet, pan, y tro diwethaf i mi edrych, nid yw yn y Cabinet hyd yn oed?