– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae'r eitem nesaf ar ein hagenda, felly, yn ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar gyllid yr UE. Galwaf ar Mark Drakeford i gyflwyno'r datganiad.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle hwn i roi diweddariad i’r Aelodau am raglenni’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael eu trafod yn rheolaidd yn y Siambr hon ers 23 Mehefin. Heddiw, byddaf yn canolbwyntio yn hytrach ar y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran dyrannu’r cyllid sydd eisoes wedi’i sicrhau. Byddaf yn edrych yn benodol ar y cyfnod 2014-2020, lle mai rhaglenni Cymru oedd y cyntaf i gael eu cymeradwyo yn y Deyrnas Unedig ac ymysg y rhai cyntaf yn Ewrop. Mae cynnydd cyson wedi cael ei wneud ers i’r rhaglenni gael eu lansio ym mis Rhagfyr 2014. Rydym ni wedi buddsoddi arian o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd mewn cynlluniau ar hyd a lled y wlad. Mae gan y cynlluniau hynny gysylltiad amlwg ag anghenion rhanbarthol a chyfleoedd i dyfu, ac maen nhw’n dangos potensial i greu budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol ar hyd a lled Cymru.
Mae ein busnesau a’n cymunedau a’n bobl wedi elwa’n sylweddol ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ers degawd a mwy, ac maen nhw wedi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu rhagolygon economaidd Cymru. Maen nhw hefyd wedi gosod ein sylfeini ar gyfer llewyrch economaidd mwy cynaliadwy.
So it is, Dirprwy Lywydd, that, since the year 2000, and notwithstanding recent difficult economic times, European Union funding has contributed to marked increases in employment rates, with the largest improvements seen in the west Wales and the Valleys region, up from 64.6 per cent in the year 2000 to 70.7 per cent in June of this year. Over that period, east Wales saw an increase from 71.7 per cent to 72.4 per cent. Levels of economic inactivity in west Wales and the Valleys fell over that time from 30.8 per cent to 25.2 per cent. Since 2004, skill levels across Wales have improved, with the proportion of working-age adults with no qualifications falling from 17 per cent to 9.5 per cent. At the same time, investment in research and innovation has more than doubled and the gap between the GVA of west Wales and the Valleys and the UK average has narrowed.
Since the year 2007, EU structural fund projects alone have helped nearly 73,000 people into work, have helped over 234,000 people to gain qualifications, supported the creation of nearly 12,000 businesses, and helped to create some 37,000 jobs. These achievements, Dirprwy Lywydd, clearly demonstrate the positive impact that EU funds have already made on communities, people and businesses across Wales.
Last week, the First Minister welcomed the UK Government’s further commitment to guarantee expenditure for all European structural and investment fund schemes approved prior to the UK leaving the European Union. This guarantee itself recognises just how important EU funds are to Wales in addressing economic and social disparities. It remains the case, however, that our ability fully to deliver the 2014-20 programmes as originally planned and in line with our agreements with the European Commission is still hugely dependent on the UK Government’s timescale for leaving the European Union. Within the programmes to date, we have already invested £830 million of structural funds—that’s around 43 per cent of the total allocation for the 2014-2020 period—and that puts us favourably ahead when compared to the performance of other UK regions.
Our priority is to continue to make funding decisions as soon as we are able so as to maximise our funding allocation and ensure activities get under way at the earliest opportunities, and I will be making this message clear and discussing this way of doing business with stakeholders and delivery partners at the annual EU fund information event, which will be held in Cardiff next week.
Dirprwy Lywydd, I want to make it clear that this is a pan-Welsh Government effort in which all Ministers and Cabinet Secretaries are involved. Just two weeks ago I was able to announce £4.7 million for the OPUS project working with young people and £11.9 million to build on the very successful SEACAMS project, both of which will take place in north Wales. Today, I’ve been pleased to announce an extra £850,000 of European Union funds to Swansea University to support more research Master’s and engineering doctorates for students who will work alongside companies, including Tata Steel. Last week my colleague Jane Hutt was in Cross Hands in Carmarthenshire announcing EU funds of £2.3 million for the £4 million social business growth programme, offering financial support of up to £150,000 to social businesses across Wales. More funding announcements will be made by other Ministers in the days, weeks, and months ahead.
Through these combined efforts and the tremendous commitment of our partners we hope to have agreements in place covering some 60 per cent of all our funding by the time of the UK Government’s autumn statement in November. We will do so, Dirprwy Lywydd, against the background of the UK Treasury confirmation that, in keeping with the devolution settlement, it will be for the Welsh Government to continue to determine how EU funds are spent in Wales, and we will do so in line with our programme objectives and targets as planned.
These programmes were developed and are being implemented and monitored in partnership between the Welsh Government and organisations across the private, third and public sectors. This partnership approach has been fundamental to the success of our programmes and will continue to be a strong feature of the way we do business here in Wales. The programme monitoring committee for the structural and investment funds in particular will continue to have an important role to play in ensuring we maximise the impact of the EU funds. The PMC will also help to shape the Welsh Government’s strategy for securing the best possible results for Wales as we prepare for our EU transition. I have therefore been particularly pleased to see that Julie Morgan has been appointed by the First Minister as the new PMC chair and will be chairing her first meeting later this year. I wish Julie every success in that very important new role and look forward to working closely with her.
In conclusion, Dirprwy Lywydd, Wales has a strong track record in relation to European funding and the delivery of regional programmes through committed and effective partnerships. Our priority now is to build on those achievements still further to ensure that EU investments continue to make a positive impact in the lives of our fellow citizens, to do that to the fullest possible extent, and over the whole of the period for which funding is available. Thank you very much.
Yn amlwg rwy’n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi anghytuno ag ef y bu’r cyfnod rhwng 2000 a 2014 rywsut yn llwyddiant economaidd pur i’r rhai hynny ohonom sy'n byw yn y gorllewin a'r Cymoedd. Dewisodd y ffigurau a ddyfynnodd yn ofalus iawn. Gan ein bod yn sôn am raglen Ewropeaidd, os edrychwn ar sefyllfa’r gorllewin a'r Cymoedd o’i chymharu â’r Undeb Ewropeaidd gyfan, maen nhw wedi disgyn o ran gwerth ychwanegol gros y pen: 73 y cant o incwm y pen 27 gwlad yr UE yn 2000, 69 y cant yn 2014, sef y flwyddyn ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar ei chyfer. Wrth gymharu hynny â Gwlad Pwyl, a oedd yn 47 y cant ar ddechrau'r cyfnod hwn, ac erbyn hyn wedi cyrraedd 68 y cant; Sacsoni, 79 y cant ac erbyn hyn wedi codi i 94 y cant—ardaloedd eraill sydd wedi elwa ar, ac wedi defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, mae’n rhaid i mi ddweud, mewn ffordd fwy strategol a llwyddiannus o lawer na'r Llywodraeth hon yn ystod y cyfnod hwn.
Mae gen i nifer o gwestiynau penodol iddo. Yn amlwg, rydym yn byw mewn cyfnod o gynnwrf economaidd. Pa effaith y mae anwadalrwydd y gyfradd gyfnewid yn ei chael ar faint o ddyraniad sydd ar gael? Nodaf yn y cynllun datblygu gwledig fod y gyfradd gyfnewid cynllunio wedi ei diwygio, ond ymddengys ei bod wedi ei diwygio yn anghywir o ran sut y cyfeiriad y mae’r gyfradd gyfnewid yn mynd iddo. Mae'r gyfradd gydgyllido yn y cynllun datblygu gwledig hefyd wedi ei diwygio tuag i lawr—cyfraniad lleol Cymru y DU—o 57 y cant i 47 y cant. Nodaf fod Prif Weinidogion wedi drysu’n lân yn y Siambr hon o'r blaen o ganlyniad i gwestiynau ynglŷn ag ychwanegedd, felly hoffwn iddo ddweud a yw'r newid hwnnw i’r gyfradd gydgyllido hefyd yn berthnasol i'r cronfeydd strwythurol yn ehangach.
Ynglŷn â WEFO, onid y peth pwysig yn awr yw ymrwymo’r arian a sefydlu’r rhaglenni, achos y gwir berygl—y perygl mwyaf difrifol oll—yw ein bod yn colli’r cyllid a dad-ymrwymo’r cyllid oherwydd nad ydym yn newid cyflymder gwneud penderfyniad, sydd yn dal, yn anffodus, yn hynod o araf, hyd y gwelaf i, yn WEFO.
Yn olaf, ynglŷn â’r pwyllgor monitro rhaglenni, a yw'n wir y bydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn cwrdd yn llai aml o hyn ymlaen? Clywais am ‘gyfarfodydd hirach’, ond ’does bosibl mai cyfarfodydd byrrach ac amlach fyddai mewn gwirionedd yn ateb heriau’r cyfnod sydd o’n blaenau yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er fy mod i’n edmygu Julie Morgan, onid ymagwedd Cymru gyfan at gronfeydd strwythurol Ewropeaidd sydd ei hangen arnom, nid ymagwedd Llywodraeth Cymru gyfan. Pam na achubwyd ar y cyfle mewn gwirionedd i benodi aelod o wrthblaid i gadeirio'r pwyllgor pwysig hwnnw, oherwydd ’does bosib na ddylem ni i gyd fod yn gweithio gyda'n gilydd ar y mater hwn, ledled Cymru—[Torri ar draws.] Pam nad eu rhyddhau? Yn hollol. Mae bob amser wedi bod yn Aelod Llafur. Pam oedd Cadeirydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn ddarostyngedig i gydgyfrifoldeb y Cabinet, pan, y tro diwethaf i mi edrych, nid yw yn y Cabinet hyd yn oed?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Ni honnais yn fy natganiad o gwbl fod cronfeydd Ewropeaidd wedi bod, i ddyfynnu'r Aelod, yn llwyddiant pur. Fy mhwynt i oedd, bod cyllid Ewropeaidd, yn y cyfnodau anodd yr ydym wedi'u hwynebu, yn elfen hollbwysig o gyflawni rhai gwelliannau sylweddol iawn. Os oedd yr Aelod o’r farn fy mod innau wedi dethol fy enghreifftiau yn ofalus, mae arna i ofn y dylai yntau fod wedi ystyried ei restr ei hun o enghreifftiau penodol y dewisodd dynnu sylw atynt y prynhawn yma.
Aeth ymlaen i godi cyfres o bwyntiau pwysig. Wrth gwrs, y gyfradd gyfnewid—mae ceisio cadw i fyny â’r newidiadau yn y gyfradd gyfnewid yn her arbennig ar hyn o bryd ar gyfer ein holl raglenni cyllid Ewropeaidd. Mae rhan o WEFO, a chysylltiadau uniongyrchol eraill â’r Comisiwn, yn ymwneud â sicrhau ein bod yn ceisio cael cyfraddau cynllunio, cyfraddau cydgyllido a chyfraddau ymyrryd sy'n synhwyrol ac yn gwneud y gorau y gallant o safbwynt Cymru. Ond mae'r darlun yn symud yn gyflym ac nid yw'r penderfyniadau yn gyfan gwbl yn nwylo Cymru. Cânt eu cytuno â'r Comisiwn wrth i’r cyfraddau cynllunio hynny newid. O ran WEFO, rwy’n cytuno yn llwyr mai’r brif dasg i bob un ohonom sy’n rhan o hyn yng Nghymru, yw sicrhau bod cyllid wedi’i ymrwymo, ond yn fwy na hynny—bod rhaglenni yn cyflawni ar lawr gwlad, er mwyn gallu cael gafael ar gyllid yn gyflym at ddibenion pwysig yma yng Nghymru.
Nid wyf yn credu ei bod yn deg i ddweud bod cyflymder gwneud penderfyniadau yn araf tu hwnt. Mae pedwar deg tri y cant o'r holl gronfeydd strwythurol eisoes wedi’i ymrwymo. Bydd hynny yn codi i 60 y cant erbyn 23 Tachwedd, ac mae hynny'n dangos y ffordd yr ydym ni, gyda'n partneriaid, wedi gwneud ein gorau i gyflymu'r broses o gymeradwyo rhaglenni pwysig. Fe ddywedaf hyn, ac rwyf wedi dweud hyn wrth WEFO: rwyf eisiau i’r broses o gymeradwyo rhaglenni gyflymu fel ei bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ni fyddaf yn fodlon ystyried cymeradwyo rhaglenni dim ond er mwyn cael gafael ar y cyllid. Mae’n rhaid i'r rhaglenni fod yn rhai yr ydym yn cytuno y byddant yn gwneud y gwahaniaeth y mae arnom angen iddynt ei wneud yng Nghymru.
Rwy’n deall bod y pwyllgor monitro rhaglenni yn ei gyfarfod diwethaf, wedi trafod y ffordd orau o drefnu ei amser, a'r ffordd orau o weithio. Eu penderfyniad nhw yn llwyr yw gwneud hynny. Rwy’n deall bod yna bosibilrwydd o gynnal llai o gyfarfodydd ond y byddent yn hirach. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, un o sawl awgrym oedd hwnnw, ac nid oedd yn un o reidrwydd a ddenodd fwy o gefnogaeth nag eraill.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn dweud yn eich datganiad bod gwelliannau i gyfraddau cyflogaeth ers 2000 yn un o lwyddiannau mawr y cronfeydd strwythurol. Byddwn i’n cytuno eu bod wedi chwarae eu rhan, ynghyd ag elfennau eraill. Byddwn i’n awgrymu bod polisi economaidd Llywodraeth y DU, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi chwarae rhan hefyd, ynghyd â'r cronfeydd strwythurol hynny. Fodd bynnag, a ydych yn cydnabod, fel y dywedodd Adam Price yn ei sylwadau yn gynharach, er bod cyfraddau diweithdra y gorllewin a'r Cymoedd wedi gwella, diolch byth, bod gan y rhanbarth hwnnw lefel annerbyniol o isel o hyd o werth ychwanegol crynswth, o'i chymharu â gweddill y DU? Mae'n sefyllfa nad yw wedi gwella cymaint ag y dylai yn dilyn cylchoedd olynol o gyllid strwythurol, ac yn sicr, nid yw’n cyflawni proffwydoliaeth Rhodri Morgan, y cyn-Brif Weinidog, a ragfynegodd y byddai un cylch o’r gronfa strwythurol yn ddigon, ac y byddai gennym economi fwy cynaliadwy ledled Cymru yn y dyfodol.
A gaf i ofyn sut yr ydych yn bwriadu defnyddio cronfeydd yr UE sy'n weddill i ddatblygu economi leol fwy cynaliadwy a all gefnogi ei hun yn well yn y Gorllewin a'r Cymoedd, ac, yn wir, yng ngweddill yr ardaloedd a gefnogir? Rwyf innau, fel yr ydych chi, yn croesawu ymrwymiad cadarn Llywodraeth y DU i warantu cyllid ar gyfer yr holl gronfeydd buddsoddi a strwythurol Ewropeaidd a gymeradwywyd cyn i'r DU adael yr UE. Pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â natur y warant honno, ac yn bwysicaf oll, ynglŷn â’i hyd? Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, nad ydych chi, mewn sawl ffordd, yn rheoli hyn—mater i Lywodraeth y DU ydyw. Ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallem gael ryw syniad, cyn gynted â phosibl, o'r math o gymorth a fydd, yn y pen draw, yn disodli cronfeydd yr UE pan fyddwn yn gadael, o ran ateb y DU.
Croesawaf y ffaith bod Trysorlys y DU wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu sut y caiff cyllid yr UE ei wario yng Nghymru. Byddai’n rhyfedd iawn pe na byddai hynny’n wir. Cawsom ddadl yn ddiweddar ar y rhaglen lywodraethu yma, a buom yn siarad am bwysigrwydd cyflawni, felly mae cyflawni, a manteisio i'r eithaf ar yr hyn sy’n weddill o’r cronfeydd Ewropeaidd, hyd at 2020, yn dod yn bwysig iawn.
Gwnaethoch chi sôn am fonitro. A gaf i longyfarch Julie Morgan ar ei phenodiad i’w swydd newydd ar bwyllgor monitro Cymru? Rwy'n gobeithio y cewch chi fwy o lwc nag y cafodd Jenny Rathbone yn ystod ei chyfnod hi mewn swydd debyg. Nid yw'n waith hawdd, Julie, ond yr ydym yn sicr yn cydnabod ei bod yn swydd y mae’n rhaid ei gwneud.
A gaf i adleisio sylwadau cynharach Adam Price gan ddweud y byddai'n dda pe gallai’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd gael gwell gafael ar graffu ar wariant y cronfeydd strwythurol? Clywais y sylwadau a wnaed ynghylch lleihau nifer y cyfarfodydd. Pa un a yw’r cyfarfodydd yn fyrrach, yn hirach neu’n amlach, rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Cynulliad hwn ei hun yn craffu’n fwy ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd hynny, oherwydd yn amlwg, mae swydd bwysig iawn yn cael ei gwneud, a bydd ei phwysigrwydd yn cynyddu wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod 2020 hwn. Felly, byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallech ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu, neu sut yr ydych yn credu y gallem wella prosesau craffu, a pha un a fyddech yn fodlon i ni wneud hynny yma, er fy mod yn gwerthfawrogi ei fod yn un o bwyllgorau Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ac nid yn un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Dau gwestiwn cyflym iawn i gloi. Nid yw Horizon 2020, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cael ei drafod yn uniongyrchol yn y datganiad heddiw, ond serch hynny mae’n agwedd bwysig iawn. Pan oeddwn ar y Pwyllgor Cyllid yn y pedwerydd Cynulliad, gwnaethom edrych ar y gwariant a oedd ynghlwm wrth raglen Horizon 2020. Byddai'n dda pe gallem gael rhywfaint o eglurder o ran sut yr ydych yn rhagweld y bydd hynny’n parhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Ac, yn olaf, pan edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar y cyfleoedd cyllido, roeddem yn credu bod lle i hyrwyddo’r sector creadigol yng Nghymru, ac nid wyf yn credu bod hyn wedi ei grybwyll heddiw. A wnewch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu defnyddio gweddill y cyfnod hwn o gronfeydd strwythurol i gefnogi’r sector creadigol yn well yng Nghymru, gan ei fod yn sector sy’n chwarae rhan bwysig iawn wrth hybu a darparu ar gyfer economi Cymru?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Symudaf yn syth at y cwestiynau a godwyd gan yr Aelod. Ein cynlluniau ar gyfer defnyddio gweddill y cronfeydd Ewropeaidd sydd ar gael i ni yn ystod y rhaglen 2014-20 yw cyflawni'r rhaglen a gytunwyd ar lefel y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Roedd hyn yn cynnwys dysgu’r gwersi o gylch 2007-13. Roedd yn cynnwys sicrhau bod gennym gymysgedd briodol o bartneriaid y sector preifat, sector cyhoeddus a'r trydydd sector a chynlluniau ar y bwrdd. Roedd yn cynnwys sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, oherwydd dyna lle y dangosodd y rhaglen gynharach fod ymyraethau yn arwain at greu’r gwerth mwyaf. Rwy'n hapus i ddweud unwaith eto i mi groesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai'n gwarantu’r cronfeydd strwythurol hyn ar gyfer y cyfnod 2014-20 cyfan. Dyna fesur pwysig i roi hwb i hyder ymhlith ein partneriaid. Trafodais y mater â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ystod fy nghyfarfod ag ef ar 28 Medi. Gwnaethom grybwyll bryd hynny mewn ffordd ragarweiniol iawn sut y bydd y mathau hyn o arian yn cael eu defnyddio ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
A gaf i ddweud o fy safbwynt i y bydd yn bwysig iawn sicrhau ein bod, yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU, yn sefydlu nifer o reolau sylfaenol pwysig? Yn gyntaf, bod cymwyseddau sydd wedi eu lleoli gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, ond sydd wedi eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd, yn dychwelyd i'r Cynulliad hwn pan nad ydym bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Nid ydynt yn mynd i Lundain ac wedyn yn cael eu trosglwyddo. Maen nhw eisoes wedi eu datganoli yma a phan na fyddwn yn eu harfer mwyach drwy'r Undeb Ewropeaidd byddan nhw’n dychwelyd yma i ni eu harfer. Efallai bydd yn synhwyrol mewn rhai achosion i ail-gronni rhai o'r cyfrifoldebau hynny er mwyn i ni eu harfer ar y cyd yn y Deyrnas Unedig. Ond mae hynny'n benderfyniad i ni ei wneud yn hytrach na’i fod yn cael ei ragdybio ar ein rhan. Cyllid yr Undeb Ewropeaidd yw'r unig gyllid sydd gennym yng Nghymru a gawn ar sail yr anghenion sydd gennym yng Nghymru, a chaiff yr anghenion hynny eu cydnabod drwy lyfr rheolau, a hwnnw’n llyfr yr ydym weithiau yn ystyried ei fod braidd yn anhyblyg ac yn anodd ei ddefnyddio, ond serch hynny, mae yna lyfr rheolau a gallwn ddadlau neu gael gafael ar gyllid yn unol â’r rheolau hynny. A bydd angen system reolau arnom o ran sut yr ydym yn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn pan fyddant yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Felly, mae’r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr angen i gael y mathau hyn o drafodaethau ac i drefnu’r materion hynny, oherwydd byddant yn bwysig iawn yn y dyfodol.
O ran cyfarfodydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, gadewch i mi ddweud unwaith eto: nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru o gwbl o ran sut y mae'r Pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau. Nid yw’r rhaglen fonitro wedi'i sefydlu ar gais Llywodraeth Cymru. Mae'n ofyniad y cyllid strwythurol yn rhan o'n cytundeb â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gweithredu, unwaith eto, yn unol â’r llyfr rheolau hwnnw. Rwy'n falch iawn o allu gwneud datganiad heddiw er mwyn i Aelodau allu gofyn cwestiynau a chraffu ar sut y caiff y cyfrifoldebau hyn eu cyflawni.
Mae'r pwyntiau terfynol y gofynnodd Nick Ramsay yn eu cylch yn ymwneud â Horizon 2020. Maen nhw’n cael eu cynnwys o dan yr un gwarantu a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos neu ddwy yn ôl. Mae Cymru yn elwa’n dda iawn ar Horizon 2020. Erbyn mis Mehefin eleni, bu 93 o geisiadau o Gymru i Horizon 2020, a sicrhaodd gwerth £36 miliwn o gyllid ar gyfer ymchwil yng Nghymru. Felly, mae croeso mawr i’r warant honno. Mae'r sector creadigol yn chwarae ei ran mewn ystod o wahanol raglenni Ewropeaidd ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau wedi clywed yr hyn a ddywedwyd am ei bwysigrwydd yn y cyfnod sy'n weddill gennym i wneud defnydd o'r cronfeydd hynny.
Fel pawb arall, croesawaf y datganiad cyn belled ag y mae'n mynd, ac nid yw hynny’n bell iawn. Credaf fod cytundeb eang ymhlith y bobl yma a bod y cwestiynau pwysig eisoes wedi eu gofyn. Rwy’n cefnogi’r hyn a ddywedodd Adam Price a Nick Ramsay. Mae'r datganiad yn hunan-longyfarchol iawn, wrth gwrs, ac yn mynegi i ba raddau y mae’r cronfeydd hyn wedi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu llewyrch economaidd Cymru, yng ngeiriau'r datganiad. Ond, fel y nodais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, mae’r cynnydd hwn mewn cyflogaeth wedi mynd law yn llaw â gostyngiad cymharol i gyflogau o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Roedd gen i ddiddordeb mawr i glywed yr hyn a ddywedodd Adam Price am werth ychwanegol gros o’i gymharu â rhannau eraill o Ewrop sydd mewn cyflwr tebyg i’r gorllewin a'r Cymoedd. Ymddengys i mi nad yw'r rhaglen hon mewn gwirionedd wedi perfformio cystal ag y gallai fod wedi’i wneud.
Rwyf yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwarantu’r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud ac a fydd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod ariannu hwn, ac yn sicr rwy’n cefnogi'r hyn y mae Mr Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud am ddychwelyd cymhwysedd i'r Siambr hon ac i Lywodraeth Cymru, ar ôl i ni adael yr UE, o ran materion amrywiol na allwn eu rheoli ar hyn o bryd. Yn amlwg, am y tro, mae'r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE, ond mae'n rhaid i ni gofio mai arian trethdalwyr Prydain yw’r cyfan, yn y bôn, er ei fod yn dod trwy brism yr UE. Pan fyddwn yn gadael yr UE, gennym ni a ni yn unig fydd y cyfle i benderfynu ar ein blaenoriaethau ac i wneud ein rheolau ein hunain ynghylch sut i wario’r arian hwn, yn amodol, wrth gwrs, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ni drwy fformiwla Barnett, rhywbeth arall y credaf y bydd yn rhaid i ni ei drafod eto, o ystyried perthynoledd yr incwm a nodais yn gynharach heddiw, ac a nodwyd gan Adam Price.
Felly, nid oes gennyf lawer iawn i’w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes. O ran y pwyllgor monitro rhaglenni, wrth gwrs, rwyf wrth fy modd yn croesawu Julie Morgan i’w gadeirio. Wrth i ni weld dyrchafiad anhygoel cyn-Brif Foneddiges arall yr ochr draw i’r Iwerydd, pwy a ŵyr lle y gallai ei gyrfa wleidyddol ei harwain o fan hyn? Gallai Cymru, maes o law, gael menyw yn Brif Weinidog a gorau po gyntaf, ddywedwn i, yn hynny o beth.
Credaf fod y datganiad braidd yn angharedig trwy beidio â thalu teyrnged i Jenny Rathbone am ei hymrwymiad cydwybodol i'r swydd pan oedd hithau’n gadeirydd ar y pwyllgor hwn, a thybed a yw hynny oherwydd ei datganiad ei bod wedi ei diswyddo o ganlyniad i ddiwylliant ar frig Llywodraeth Cymru nad yw'n caniatáu am ddadl neu fyfyrio trwyadl ar y defnydd gorau o arian cyhoeddus.
A gawn ni gadw at y datganiad? Mae'n ddrwg gennyf. A gawn ni gadw at y datganiad, os gwelwch yn dda? A wnewch chi holi'r Gweinidog ynglŷn â’r datganiad?
Ie, wel, hwn yw’r cwestiwn. Rwy'n gofyn—
Na, rwy’n credu ein bod wedi cael ychydig o rethreg yn flaenorol, felly os gallwn ddod i'r cwestiynau ar y datganiad, os gwelwch yn dda, byddwn i’n ddiolchgar.
Felly, hoffwn i danlinellu pwysigrwydd yr hyn a ddywedodd Adam Price am gynnwys mwy o Aelodau o wrthbleidiau mewn swyddogaethau o'r fath. Fel y dywedais yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â’r grŵp ymgynghorol allanol mewn cysylltiad â’r UE, mae'n anffodus nad oes casgliad ehangach o bobl sy'n ymwneud â rhoi’r cyngor hwnnw, ac yn yr un modd o ran y pwyllgor hwn. ‘Cadwch eich gelynion yn agos’, dyna ddywedwn i, oherwydd cewch chi fwy ganddyn nhw drwy wneud hynny.
Rwy'n credu y clywais i ddau gwestiwn yng nghanol hynny, Ddirprwy Lywydd. Gadewch i mi gadarnhau i’r Aelod: gofynnodd pa un a fyddai penderfyniadau gwariant a wneir tra byddwn yn parhau yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwneud mewn ffordd sy'n gyson â'r ymrwymiadau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth yr aelodaeth; yr ateb i hynny yw ‘byddant’. Gofynnodd wedyn pa un a fyddai polisi rhanbarthol yn y dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi mwy o ryddid i ni wneud penderfyniadau i ddylunio’r polisi hwnnw yma yng Nghymru; yr ateb i hynny hefyd yw ‘byddai’.
A gaf i groesawu'r datganiad a chroesawu penodiad fy nghydaelod Julie Morgan i'r swydd bwysig hon? A gaf i nodi yn syml, er efallai y byddwn yn anghytuno ar gyfradd y cynnydd, ni allwn anwybyddu'r ffaith bod y cymunedau y mae Adam a minnau yn eu cynrychioli, wedi bod trwy bob lefel o uffern yn ystod y genhedlaeth hon, ac wedi cyrraedd y gwaelod o ran gofid cymdeithasol ac economaidd, a’n bod ni wedi gorfod tynnu ein hunain allan o’r sefyllfa honno, ond ein bod yn teithio i’r cyfeiriad cywir? Rwy'n falch o weld yr ymrwymiad cyllid, gyda hyd at 43 y cant o'r cronfeydd strwythurol wedi’i ddyrannu erbyn hyn, a’r cynnydd pellach a fydd yn cael ei wneud yn fuan iawn. Rwyf wedi gweld fy etholaeth fy hun yn elwa ar Twf Swyddi Cymru, cynlluniau prentisiaeth gyda’r coleg lleol, Choleg Penybont lleol a chyflogwyr lleol, a buddsoddiad uniongyrchol mewn diogelu a chynyddu cyflogaeth yn fy nghymuned. Ond, nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, yng nghanol ei ddatganiad,
‘Mae’n parhau i fod yn wir, fodd bynnag, bod ein gallu i gyflawni rhaglenni 2014-20 yn llawn fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac yn unol â'n cytundebau â'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dal i fod yn ddibynnol iawn ar amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.’
Ac fel y gwyddom, Ddirprwy Lywydd, mae hynny yn dal i fod yn ddryswch. Felly, a gaf i ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: onid yw hyn yn gwbl hanfodol, bod angen i Lywodraeth y DU wrando yn awr ar gyflogwyr, colegau, Llywodraeth Cymru a phobl Cymru i lunio cyflymder a ffurf yr ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd? Mae hynny'n hanfodol, neu fel arall ni, y bobl sy'n fwyaf dibynnol ar hyn i gyfrannu at ein hadfywiad economaidd a chymdeithasol, fydd y rhai a fydd yn teimlo’r effaith waethaf yn sgil y penderfyniadau a wneir ar ben arall yr M4.
Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddweud cymaint yr wyf yn cytuno â'r ddau bwynt y mae’r Aelod wedi’u gwneud? Rwy’n pwysleisio yn fy natganiad yr amserlen ar gyfer gadael a phwysigrwydd hynny o ran y cylch cyfredol o gronfeydd strwythurol, ond mae'r Aelod yn pwysleisio nid yn unig y cyflymder ond ffurf yr ymadael—ei natur. Ac er ein bod yn parhau â thrafodaethau agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cyfleu iddynt a bod dealltwriaeth lawn ohonynt, mae hefyd yn parhau i fod yn wir nad oes unrhyw gynllun cyfrinachol ganddynt sy'n cael ei ddatgelu i ni yn raddol. Rydym yn parhau i drafod â San Steffan a Whitehall lle mae'r ymladd mewnol, y diffyg eglurder, a’r amhosibilrwydd, yn ôl pob tebyg, o geisio cyrraedd safbwynt unigol, a fyddai'n rheoli cyflymder, maint a natur yr ymadawiad, yn parhau i fod yn broblem enfawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, o’r diwedd, gydnabod nad oes y fath beth ag arian yr UE? Mae’r arian yn arian trethdalwyr y DU, a dyna beth a fu erioed. Pe bai trethdalwr Prydeinig yn rhoi papur £10 i’r UE, byddai’n cael papur £5 yn ôl. Nid arian yr UE mohoni, ac ni fu erioed yn arian yr UE. A wnewch chi gydnabod hynny os gwelwch yn dda?
Hefyd, dywedasoch yn eich datganiad bod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd arian yr UE i Gymru wrth fynd i'r afael ag anghyfartaledd economaidd a chymdeithasol. Mewn gwirionedd, rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod cymaint y mae angen adolygiad ar unwaith o fformiwla Barnett i sefydlu model cyllid tecach a mwy cadarn i Gymru, i sicrhau nad yw'n cael ei gadael ar ei hôl hi o ran y budd a dddaw yn sgil Brexit. Felly, beth am i ni beidio â chael Brexit i frecwast yn unig, gadewch i ni ei gael i ginio a swper, hefyd. Felly, a wnewch chi gytuno â mi bod angen adolygiad o fformiwla Barnett er mwyn sicrhau mwy parhaus i anghenion cyllid Cymru?
Gadewch i mi ddechrau drwy anghytuno â Nathan Gill. Pan fyddaf i’n talu fy nhanysgrifiad i Glwb Criced Morgannwg bob blwyddyn, nid wyf i wedyn yn troi a dweud bob tro yr af i ‘Gyda llaw, fy arian yw hynny, nid eich arian chi’. Mae'n dod yn arian Clwb Criced Morgannwg, ac maen nhw yn ei ddefnyddio er adloniant imi. [Torri ar draws.] Neu ddim, yn ôl y digwydd. [Chwerthin.]
O ran ei ail bwynt, pa un a fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r newidiadau cyllido a ddaw yn sgil hynny, yn arwain at adolygiad ehangach o sut y mae cyllid yn llifo i Gymru, gan gynnwys fformiwla Barnett, wel, yn hynny o beth, rwyf yn cytuno ag ef.
Diolch yn fawr iawn. Does gen i ddim siaradwyr eraill; diolch.