Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 11 Hydref 2016.
Felly, hoffwn i danlinellu pwysigrwydd yr hyn a ddywedodd Adam Price am gynnwys mwy o Aelodau o wrthbleidiau mewn swyddogaethau o'r fath. Fel y dywedais yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â’r grŵp ymgynghorol allanol mewn cysylltiad â’r UE, mae'n anffodus nad oes casgliad ehangach o bobl sy'n ymwneud â rhoi’r cyngor hwnnw, ac yn yr un modd o ran y pwyllgor hwn. ‘Cadwch eich gelynion yn agos’, dyna ddywedwn i, oherwydd cewch chi fwy ganddyn nhw drwy wneud hynny.