Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 11 Hydref 2016.
Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddweud cymaint yr wyf yn cytuno â'r ddau bwynt y mae’r Aelod wedi’u gwneud? Rwy’n pwysleisio yn fy natganiad yr amserlen ar gyfer gadael a phwysigrwydd hynny o ran y cylch cyfredol o gronfeydd strwythurol, ond mae'r Aelod yn pwysleisio nid yn unig y cyflymder ond ffurf yr ymadael—ei natur. Ac er ein bod yn parhau â thrafodaethau agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cyfleu iddynt a bod dealltwriaeth lawn ohonynt, mae hefyd yn parhau i fod yn wir nad oes unrhyw gynllun cyfrinachol ganddynt sy'n cael ei ddatgelu i ni yn raddol. Rydym yn parhau i drafod â San Steffan a Whitehall lle mae'r ymladd mewnol, y diffyg eglurder, a’r amhosibilrwydd, yn ôl pob tebyg, o geisio cyrraedd safbwynt unigol, a fyddai'n rheoli cyflymder, maint a natur yr ymadawiad, yn parhau i fod yn broblem enfawr.