Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 11 Hydref 2016.
Gadewch i mi ddechrau drwy anghytuno â Nathan Gill. Pan fyddaf i’n talu fy nhanysgrifiad i Glwb Criced Morgannwg bob blwyddyn, nid wyf i wedyn yn troi a dweud bob tro yr af i ‘Gyda llaw, fy arian yw hynny, nid eich arian chi’. Mae'n dod yn arian Clwb Criced Morgannwg, ac maen nhw yn ei ddefnyddio er adloniant imi. [Torri ar draws.] Neu ddim, yn ôl y digwydd. [Chwerthin.]
O ran ei ail bwynt, pa un a fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r newidiadau cyllido a ddaw yn sgil hynny, yn arwain at adolygiad ehangach o sut y mae cyllid yn llifo i Gymru, gan gynnwys fformiwla Barnett, wel, yn hynny o beth, rwyf yn cytuno ag ef.