Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Gorffennaf, bydd yr Aelodau'n cofio i mi gyflwyno drafft Llywodraeth Cymru ar yr ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth traws lywodraethol 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiais y cynllun cyflawni terfynol ddoe i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
Mae cynllun cyflawni 2016-19 yn nodi 10 maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gwasanaeth, gan gynnwys enghreifftiau o draws-weithio gyda meysydd fel tai ac addysg, sy'n dangos sut y dylem fod yn gydgysylltiedig yn ein darpariaeth. Mae hefyd yn dangos sut y byddwn yn parhau i sbarduno rhoi’r strategaeth ar waith. Mae'n nodi camau gweithredu a mesurau perfformiad clir i sicrhau cyflawni, ac mae'r manylion wedi eu llywio gan ddadl y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd gennym ym mis Gorffennaf a’r ymgynghori helaeth â defnyddwyr gwasanaeth ac asiantaethau yn y sector gwirfoddol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o bartneriaid, asiantaethau a rhanddeiliaid.
Ers lansio 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2012, bu cynnydd sylweddol ar draws ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys rhoi Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar waith. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy ac mae angen gwneud mwy, fel y gallwn wneud gwahaniaeth parhaus i bobl y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.
Roedd ein dadl ym mis Gorffennaf yn pwysleisio meysydd sy'n bwysig i bob un ohonom: adeiladu cydnerthedd mewn unigolion a chymunedau i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael pan ei fod yn digwydd; gwell cefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd diogel, amserol ac effeithiol, gydag urddas a pharch ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd y cynllun newydd hwn hefyd yn cyfrannu at gyflawni rhai amcanion allweddol a nodir yn adran iach ac egnïol y rhaglen lywodraethu, gan gynnwys gwaith parhaus ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, gan gyflwyno bond lles newydd yng Nghymru, gyda'r nod o wella iechyd corfforol a meddyliol, a threialu cynllun presgripsiwn cymdeithasol i wella’r gallu i gael gafael ar ffynonellau cefnogaeth yn y gymuned.
Rydym wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o GIG Cymru a chynyddodd cyllid i dros £600 miliwn yn y flwyddyn hon. Dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi dros £22 miliwn o arian newydd ar gyfer ystod o ddarpariaethau newydd ar draws pob oedran. Rydym yn disgwyl i hynny wella hygyrchedd gwasanaethau a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth ymhellach.
Ers rhoi’r ddeddfwriaeth arloesol, y Mesur iechyd meddwl, ar waith, bu gwelliannau gwirioneddol i'r gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn. Yn ganolog i gyflwyno’r Mesur hwn yr oedd ymagwedd gydgynhyrchiol, gan ein bod yn gosod anghenion a llais defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd dylunio gwasanaethau a chynllunio gofal a thriniaeth.
Ers mis Ebrill 2013, mae dros 100,000 o bobl wedi cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a sefydlwyd o dan y Mesur. Mae dros hanner y rheini wedi mynd ymlaen i gael triniaeth yn y gwasanaethau hynny. Mae amseroedd aros am asesiad a thriniaeth mewn gofal sylfaenol wedi parhau i wella ac mae’n rhaid cynnal hynny, wrth gwrs.
Mae camau sylweddol wedi'u cymryd i wella darpariaeth therapïau seicolegol yng Nghymru, gyda buddsoddiad ychwanegol o £3 miliwn yn y gwasanaethau i oedolion a phlant y llynedd a £1.15 miliwn arall eleni yn canolbwyntio ar wasanaethau cleifion mewnol. Rydym yn disgwyl gwelliant pellach mewn therapïau siarad drwy gyfnod y cynllun cyflawni hwn, ac unwaith eto caiff yr ymrwymiad hwnnw ei atgyfnerthu yn ‘Symud Cymru Ymlaen'.
O ran y gweithle, fel Llywodraeth rydym yn cefnogi busnesau a sefydliadau i gydnabod nad yw salwch meddwl o reidrwydd yn rhwystr i weithio’n effeithiol. Mae darparu cyflogaeth a chynnal pobl mewn swyddi da yn ffordd gadarnhaol o gynorthwyo unigolion sy'n gwella ar ôl problemau iechyd meddwl. Mae gwella iechyd meddwl a lles staff yn elfen allweddol o wobrau Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Nod ein safon iechyd corfforaethol a’n gwobrau iechyd gweithleoedd bach yw gwella iechyd a lles y boblogaeth o oedran gweithio a lleihau'r beichiau meddyliol, corfforol ac ariannol sy'n gysylltiedig ag absenoldeb oherwydd salwch.
Mae'r cynllun cyflawni hwn hefyd yn nodi maes blaenoriaeth sydd â'r nod o sicrhau bod plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn gwella yn gynt. Rydym yn gweithio ac yn cefnogi rhaglen ‘Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc' y GIG, sydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau, nid dim ond iechyd, er mwyn ystyried y ffordd orau o fodloni anghenion emosiynol ac iechyd meddwl ein pobl ifanc. Pan fydd pobl ifanc angen gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol, rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol i helpu i wella mynediad amserol.
Mae'r cynllun cyflawni hefyd yn cynnwys nodau er mwyn helpu i sicrhau bod grwpiau sydd mewn mwy o risg o gael problemau iechyd meddwl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt. Rydym yn cydnabod bod beichiogrwydd a chyfnod cynnar bod yn rhiant yn gyfnodau arbennig o heriol, ac rydym yn cynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd. Felly, byddwn yn sicrhau bod rhieni yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, ochr yn ochr â'r £1.5 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cymorth i bobl yng Nghymru sydd â dementia ac i’w teuluoedd. Y llynedd, cyhoeddwyd nifer o feysydd gwaith blaenoriaeth a'r camau y byddem yn eu cymryd i gefnogi pob un o'r rhain. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gwella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y salwch. Mae buddsoddiad a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf eisoes yn dangos rhywfaint o gynnydd yn y maes pwysig hwn. Yn y cynllun cyflawni, rydym yn ail ymrwymo i ddatblygu cynllun strategol dementia er mwyn sicrhau'r sbardun a'r pwyslais angenrheidiol sydd eu hangen ar yr agenda hon. Mae ymgysylltu gydag arbenigwyr yn y maes, gyda gofalwyr, gyda phobl sy'n byw gyda dementia eu hunain, wedi cychwyn. Rwy'n disgwyl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau fel y gallwn ymgynghori'n ffurfiol ar y cynllun dementia ym mis Rhagfyr eleni.
Mae'r cynllun cyflawni yn nodi'r hyn y gall Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, mudiadau gwirfoddol a busnes ei wneud i gyflawni ein nodau cyffredin dros y tair blynedd nesaf. Rydym wedi gweld y trydydd sector yn cymryd rhan hyd yn oed mwy gweithgar yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu llunio a'u darparu yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn helpu i sicrhau’r ethos o gydgynhyrchu wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos, er bod 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn agenda heriol, bod cynnydd gwirioneddol yn bosibl. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn. Mae'r cynllun cyflawni newydd yn uchelgeisiol, ond drwy weithio mewn partneriaeth, rwy’n credu y gallwn ni barhau i wneud cynnydd yn ystod y cam nesaf o ddarparu.