– Senedd Cymru am 3:54 pm ar 11 Hydref 2016.
Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, o'r enw 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Gorffennaf, bydd yr Aelodau'n cofio i mi gyflwyno drafft Llywodraeth Cymru ar yr ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth traws lywodraethol 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiais y cynllun cyflawni terfynol ddoe i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
Mae cynllun cyflawni 2016-19 yn nodi 10 maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gwasanaeth, gan gynnwys enghreifftiau o draws-weithio gyda meysydd fel tai ac addysg, sy'n dangos sut y dylem fod yn gydgysylltiedig yn ein darpariaeth. Mae hefyd yn dangos sut y byddwn yn parhau i sbarduno rhoi’r strategaeth ar waith. Mae'n nodi camau gweithredu a mesurau perfformiad clir i sicrhau cyflawni, ac mae'r manylion wedi eu llywio gan ddadl y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd gennym ym mis Gorffennaf a’r ymgynghori helaeth â defnyddwyr gwasanaeth ac asiantaethau yn y sector gwirfoddol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o bartneriaid, asiantaethau a rhanddeiliaid.
Ers lansio 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2012, bu cynnydd sylweddol ar draws ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys rhoi Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar waith. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy ac mae angen gwneud mwy, fel y gallwn wneud gwahaniaeth parhaus i bobl y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.
Roedd ein dadl ym mis Gorffennaf yn pwysleisio meysydd sy'n bwysig i bob un ohonom: adeiladu cydnerthedd mewn unigolion a chymunedau i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael pan ei fod yn digwydd; gwell cefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd diogel, amserol ac effeithiol, gydag urddas a pharch ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd y cynllun newydd hwn hefyd yn cyfrannu at gyflawni rhai amcanion allweddol a nodir yn adran iach ac egnïol y rhaglen lywodraethu, gan gynnwys gwaith parhaus ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, gan gyflwyno bond lles newydd yng Nghymru, gyda'r nod o wella iechyd corfforol a meddyliol, a threialu cynllun presgripsiwn cymdeithasol i wella’r gallu i gael gafael ar ffynonellau cefnogaeth yn y gymuned.
Rydym wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o GIG Cymru a chynyddodd cyllid i dros £600 miliwn yn y flwyddyn hon. Dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi dros £22 miliwn o arian newydd ar gyfer ystod o ddarpariaethau newydd ar draws pob oedran. Rydym yn disgwyl i hynny wella hygyrchedd gwasanaethau a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth ymhellach.
Ers rhoi’r ddeddfwriaeth arloesol, y Mesur iechyd meddwl, ar waith, bu gwelliannau gwirioneddol i'r gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn. Yn ganolog i gyflwyno’r Mesur hwn yr oedd ymagwedd gydgynhyrchiol, gan ein bod yn gosod anghenion a llais defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd dylunio gwasanaethau a chynllunio gofal a thriniaeth.
Ers mis Ebrill 2013, mae dros 100,000 o bobl wedi cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a sefydlwyd o dan y Mesur. Mae dros hanner y rheini wedi mynd ymlaen i gael triniaeth yn y gwasanaethau hynny. Mae amseroedd aros am asesiad a thriniaeth mewn gofal sylfaenol wedi parhau i wella ac mae’n rhaid cynnal hynny, wrth gwrs.
Mae camau sylweddol wedi'u cymryd i wella darpariaeth therapïau seicolegol yng Nghymru, gyda buddsoddiad ychwanegol o £3 miliwn yn y gwasanaethau i oedolion a phlant y llynedd a £1.15 miliwn arall eleni yn canolbwyntio ar wasanaethau cleifion mewnol. Rydym yn disgwyl gwelliant pellach mewn therapïau siarad drwy gyfnod y cynllun cyflawni hwn, ac unwaith eto caiff yr ymrwymiad hwnnw ei atgyfnerthu yn ‘Symud Cymru Ymlaen'.
O ran y gweithle, fel Llywodraeth rydym yn cefnogi busnesau a sefydliadau i gydnabod nad yw salwch meddwl o reidrwydd yn rhwystr i weithio’n effeithiol. Mae darparu cyflogaeth a chynnal pobl mewn swyddi da yn ffordd gadarnhaol o gynorthwyo unigolion sy'n gwella ar ôl problemau iechyd meddwl. Mae gwella iechyd meddwl a lles staff yn elfen allweddol o wobrau Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Nod ein safon iechyd corfforaethol a’n gwobrau iechyd gweithleoedd bach yw gwella iechyd a lles y boblogaeth o oedran gweithio a lleihau'r beichiau meddyliol, corfforol ac ariannol sy'n gysylltiedig ag absenoldeb oherwydd salwch.
Mae'r cynllun cyflawni hwn hefyd yn nodi maes blaenoriaeth sydd â'r nod o sicrhau bod plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn gwella yn gynt. Rydym yn gweithio ac yn cefnogi rhaglen ‘Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc' y GIG, sydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau, nid dim ond iechyd, er mwyn ystyried y ffordd orau o fodloni anghenion emosiynol ac iechyd meddwl ein pobl ifanc. Pan fydd pobl ifanc angen gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol, rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol i helpu i wella mynediad amserol.
Mae'r cynllun cyflawni hefyd yn cynnwys nodau er mwyn helpu i sicrhau bod grwpiau sydd mewn mwy o risg o gael problemau iechyd meddwl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt. Rydym yn cydnabod bod beichiogrwydd a chyfnod cynnar bod yn rhiant yn gyfnodau arbennig o heriol, ac rydym yn cynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd. Felly, byddwn yn sicrhau bod rhieni yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, ochr yn ochr â'r £1.5 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cymorth i bobl yng Nghymru sydd â dementia ac i’w teuluoedd. Y llynedd, cyhoeddwyd nifer o feysydd gwaith blaenoriaeth a'r camau y byddem yn eu cymryd i gefnogi pob un o'r rhain. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gwella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y salwch. Mae buddsoddiad a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf eisoes yn dangos rhywfaint o gynnydd yn y maes pwysig hwn. Yn y cynllun cyflawni, rydym yn ail ymrwymo i ddatblygu cynllun strategol dementia er mwyn sicrhau'r sbardun a'r pwyslais angenrheidiol sydd eu hangen ar yr agenda hon. Mae ymgysylltu gydag arbenigwyr yn y maes, gyda gofalwyr, gyda phobl sy'n byw gyda dementia eu hunain, wedi cychwyn. Rwy'n disgwyl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau fel y gallwn ymgynghori'n ffurfiol ar y cynllun dementia ym mis Rhagfyr eleni.
Mae'r cynllun cyflawni yn nodi'r hyn y gall Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, mudiadau gwirfoddol a busnes ei wneud i gyflawni ein nodau cyffredin dros y tair blynedd nesaf. Rydym wedi gweld y trydydd sector yn cymryd rhan hyd yn oed mwy gweithgar yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu llunio a'u darparu yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn helpu i sicrhau’r ethos o gydgynhyrchu wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos, er bod 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn agenda heriol, bod cynnydd gwirioneddol yn bosibl. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn. Mae'r cynllun cyflawni newydd yn uchelgeisiol, ond drwy weithio mewn partneriaeth, rwy’n credu y gallwn ni barhau i wneud cynnydd yn ystod y cam nesaf o ddarparu.
Diolch yn fawr iawn. Mae nifer o siaradwyr sy’n dymuno siarad. Dadl hanner awr yw hon, felly a gaf i ofyn am gyfraniadau byr ac atebion byr hefyd? Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y datganiad ac am y cynllun strategol a gafodd ei gyhoeddi ddoe? Rwy’n cydnabod, yn sicr, y camau ymlaen sydd wedi bod ers lansio cynllun 2012, ond mae’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi cydnabod gymaint sydd ar ôl i’w wneud, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddadl brynhawn fory yn y Siambr hefyd, lle y cawn ni drafod rhai o’r gwendidau—gwendidau sylfaenol o hyd mewn rhai meysydd—sydd yna yn y ddarpariaeth.
Tri chwestiwn sydd gen i, yn gyntaf ynglŷn â gofalwyr. Nid ydy’r datganiad ddim yn crybwyll gofalwyr y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl ar wahân i ddweud y byddan nhw’n cael eu cynnwys yn y strategaeth ddementia. Mae edrych ar ôl aelod o’r teulu sydd â phroblem iechyd meddwl hefyd yn gallu effeithio ar iechyd meddwl y gofalwr. Felly, pa fath o strwythurau cefnogaeth sydd yn mynd i gael eu rhoi mewn lle, yn enwedig gan ystyried bod gofalu am rywun sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cynnig set wahanol iawn o heriau i ofalu am rywun sydd â phroblem gorfforol?
Yn ail, nid ydy’r datganiad ddim yn sôn am y staff sydd eu hangen er mwyn delifro gwelliannau i’r gwasanaeth, sef yr angen am gynnydd yn nifer therapyddion a hefyd sicrhau bod yna ddigon o amser ar gael ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaol. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod yna lawer o therapyddion yn gweithio yn y sector breifat. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i dynnu’r rheini i mewn i’r NHS, hyd yn oed os dim ond yn rhan amser, er mwyn cynyddu capasiti?
Ac yn drydydd, un o’r problemau gwirioneddol yn aml iawn o ran y rheini sydd angen gofal brys er mwyn atal hunananafu neu hunanladdiad ydy un ai eu bod nhw ddim yn hysbys i’r gwasanaeth neu eu bod nhw rhywsut wedi llithro drwy y rhwyd—bod yna ddim galwadau ‘follow-up’, os liciwch chi, wedi bod i ofyn pam na wnaethon nhw droi i fyny ar gyfer apwyntiadau ac ati. Mi wnaeth awdit o achosion rhai yn eu harddegau yn ddiweddar ddangos bod llawer o’r rheini a oedd wedi cymryd eu bywydau eu hunain ddim yn hysbys i CAMHS neu ddim wedi cael eu monitro, felly yr union broblem rwy’n sôn amdani. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn bod natur y problemau y mae rhai o’r unigolion yma yn eu hwynebu yn golygu nad oes ganddyn nhw’r cymhelliad yn aml—yr un ‘motivation’—i droi i fyny ar gyfer apwyntiad, yn enwedig, o bosib, apwyntiadau yn gynnar yn y bore os mai un o sgileffeithiau y cyflwr sydd arnyn nhw ydy methiant i godi yn y bore ac ati? A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet, yn y cyd-destun hwnnw, yn derbyn bod angen, yn aml iawn, bod yn llawer mwy rhagweithiol wrth helpu yr unigolion yma sydd angen ein cymorth ni?
Diolch am y tri chwestiwn. Rwyf yn hapus i ymateb. Rwyf am ateb yn gyntaf eich cwestiwn am ofalwyr. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, rydym yn sôn am ofalwyr ym mhob rhan o’n gwahanol strategaethau ac nid dim ond yn yr un yma ychwaith. Maen nhw’n cael eu crybwyll yn benodol yn rhan o faes blaenoriaeth 4, ond nid dyna'r unig un o'r 10 maes blaenoriaeth lle mae gofalwyr yn berthnasol. Byddwn yn cyfeirio yn ôl at y ffaith fod gan ofalwyr hawl statudol i gael asesu a diwallu eu hanghenion gofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â gweld y strategaeth ar ei phen ei hun a dweud nad oes digon o sôn am ofalwyr, oherwydd ein bod yn cydnabod, ym mhob rhan o hyn, er mwyn trin y defnyddiwr gwasanaeth unigol gydag urddas a pharch, mae angen i chi hefyd ddeall y cyd-destun y mae’r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu ynddo. Mae'r teulu a’r ffrindiau sy'n darparu’r gofal anffurfiol neu ffurfiol o'u hamgylch yn rhan o hynny. Felly, mae eu hanghenion gofal a chefnogaeth hefyd yn rhan o'r hyn y mae angen i ni eu hystyried. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhan o ble yr ydym yn gweld hyn. Nid yw'n fater bod gofalwyr wedi eu hanghofio—dim o gwbl.
Rwyf am ymdrin â'r pwynt a wnewch am hunanladdiad, oherwydd, wrth gwrs, lansiwyd ail gam 'Beth am Siarad â Fi 2: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2015-2020' ym mis Gorffennaf 2015, ac mae'n cymryd ymagwedd wedi'i thargedu’n fwy na'r strategaeth flaenorol. Felly, yn arbennig, rydym yn ceisio nodi grwpiau penodol o bobl agored i niwed. Felly, ar gyfer rhywun nad yw'n mynychu apwyntiadau, mae pwyntiau risg yn hynny o beth sy’n cael eu codi mewn gwirionedd. Yr her yw rhywun sydd ddim wir yn hysbys i'r gwasanaethau—mae'n wirioneddol anodd. Mae hynny wir yn anodd ei atal. Yr her yn y fan yma yw deall y bobl hynny sydd wir o bosibl yn agored i niwed, a ddylai fod yn flaenoriaeth uwch a sut i helpu i gefnogi'r rheini. Mae hynny'n benodol yn rhan o'r strategaeth 'Beth am Siarad â Fi 2'. Roeddwn yn falch iawn, ddoe, o gael cyfle i drafod hynny gyda Samariaid Cymru, pan siaradais yn lansiad eu hadroddiad effaith yng Nghymru. Ceir llif cadarnhaol iawn o waith ac rydym mewn gwirionedd yn gweld hunanladdiadau yn lleihau yng Nghymru, nad yw'n duedd yr ydym yn ei gweld ym mhob rhan arall o'r DU. Ond does dim hunanfodlonrwydd ynglŷn â ble yr ydym ni a dyna pam mae gennym strategaeth benodol yn y maes hwn i fod yn fwy rhagweithiol o ran deall pwy sydd mewn perygl.
Yn olaf, ar eich pwynt ynglŷn â staff, mae pwynt teg yn y fan yma ynghylch cydnabod pwy yr ydym eu hangen ar gyfer gweithlu’r dyfodol i gyflawni'r amcanion sydd gennym mewn gwirionedd, a gweledigaeth yr wyf yn meddwl y byddai pobl o amgylch y Siambr hon yn credu ynddi. Mae'n ymwneud wedyn â sut yr ydym yn ei chyflawni. Ond er fy mod wedi trafod a nodi’r ystod o arian parod yr ydym yn ei wario a’r buddsoddiad ychwanegol yr ydym wedi ei wneud, y galw mwyaf ar yr adnodd hwnnw mewn gwirionedd yw cyflogau. Arian ydyw—a’r aelodau staff y mae’r arian hwnnw yn eu caffael. Felly, pan fyddwch yn gweld y cam ymlaen a wnaed yn y gwasanaeth cyn-filwyr GIG Cymru, mae hynny oherwydd bod gennym mewn gwirionedd fwy o staff i ddarparu'r gwasanaeth a dyna pam y mae amseroedd aros yn sylweddol well na rhannau eraill o'r DU sydd â gwasanaeth tebyg. Pan fyddwn yn sôn am CAMHS, mae bron y cyfan o hynny yn mynd ar gyfer staff, a dyna ble yr ydym yn gweld o'r diwedd amseroedd aros yn lleihau, oherwydd ein bod wedi cael yr adnodd o staff ar waith sydd mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r heriau o fewn y gwasanaeth.
Felly, mae llawer yn ymwneud â chael y staff cywir wedi’u sefydlu. Rydym yn cydnabod bod bylchau yn dal i fod o ran ble yr ydym eisiau bod. Mae'n un o'r ychydig feysydd a gaiff ei herio, er enghraifft, mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y meant gennym erbyn hyn, lle mae arian yn dynnach, ond mae galw yn dal i fod am fwy o staff yn y GIG mewn gwahanol arbenigeddau. Ein her ni bob amser fydd sut yr ydym yn cyfateb yr hyn yr ydym ei angen a'r hyn yr ydym ei eisiau gyda’r staff sydd ar gael a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio yn y model cywir o ofal ac yn gweld y bobl iawn ar yr adeg iawn.
Weinidog, diolch ichi am y datganiad heddiw ac am gyhoeddi'r cynllun cyflawni ddoe ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae gennyf nifer o gwestiynau yr wyf eisiau eu gofyn i chi am hyn. Gan fynd yn ôl at gwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog, yn eich datganiad, yn y man lle mae gennych chi eich tri phwynt bwled, rydych yn sôn am bwysleisio'r meysydd sy'n bwysig i ni ac roeddech yn siarad yn arbennig am adeiladu cydnerthedd mewn unigolion a chymunedau i fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles gwael pan fydd yn digwydd. Rydych hefyd yn mynd ymlaen i sôn am dreialu cynllun presgripsiwn cymdeithasol. Codais bryderon y bore yma gyda'r Prif Weinidog, felly hoffwn ofyn i chi yn uniongyrchol: a allwch chi ddweud wrthym faint o gydberthynas oedd rhwng y cynllun cyflawni iechyd meddwl hwn a Deddfau eraill Llywodraeth Cymru, yn enwedig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)? Rwy'n credu bod rhai tensiynau rhwng y cynllun cyflawni hwn a’r Ddeddf honno, o ran cael rhywun yn cyfnerthu ac yn annog unigolion i wneud pethau a bod yn gyfrifol amdanynt hwy eu hunain, ac eto mae'r rhagnodi cymdeithasol a'r sylwadau am unigolion a chymunedau yn siarad i raddau helaeth iawn am ddibynnu ar eich cymuned a chymryd rhan yn eich cymuned. Cyfeiriais at un maes penodol, ond mae'n ymwneud â phan fod gennych sefydliadau neu grwpiau cymunedol sy'n cael eu cau o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd bod pobl yn cael eu gorchymyn i fod wedi eu grymuso ac i gymryd cyfrifoldeb eu hunain, ac eto mae’r cynllun cyflawni iechyd meddwl hwn yn ymwneud i raddau helaeth â sut yr ydym yn integreiddio pobl ag iechyd meddwl, sut yr ydym yn eu cynnwys mewn cymunedau a sut yr ydym yn eu cynnal ac yn eu cefnogi. Felly, hoffwn ddeall y gydberthynas rhwng gwahanol amcanion y Llywodraeth.
Gan symud ymlaen yn gyflym, cwestiwn byr iawn: rwy’n meddwl bod gwobrau Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru yn syniad cwbl ardderchog. Roeddwn eisiau deall os oeddech chi’n gallu cynnig cyllid ar gyfer arweiniad a mentora i'r gweithleoedd bach i sicrhau bod y stigma iechyd meddwl yn cael ei waredu mewn gwirionedd, gan fod hwn yn swnio’n syniad gwych, ond mae angen i ni fynd â mudiadau bach yn ogystal â chorfforaethau mawr gyda ni yn hyn o beth.
Rwyf yn olaf am droi at faes gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Rwyf wir yn croesawu'r ffaith eich bod yn dweud yn y fan yma,
Pan fydd pobl ifanc angen gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol, rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn yn flynyddol mewn CAMHS arbenigol.
Rydych hefyd yn siarad am y ffaith eich bod yn llunio cynllun sy'n gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau i ystyried orau sut i fodloni gofynion emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Mae CAMHS yn wasanaeth gwych. Rwy'n falch eich bod yn rhoi mwy o arian i mewn iddo, ond y broblem yw bod cymaint o fwlch rhwng y gwasanaethau y gellir eu cynnig gan lywodraeth leol, gan sefydliadau partner a gan fyrddau iechyd a'r mathau o wasanaethau neu gyflyrau y mae angen i berson ifanc eu cael er mwyn cael mynediad at CAMHS. Brif Weinidog—. Rwy'n mynnu eich galw yn 'Brif Weinidog'. Mae’n rhaid fy mod i’n cael rhagwelediad ynglŷn â hyn. [Torri ar draws.] Dyna ydyw. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau neu roi barn ynghylch pa un a ydych yn credu bod hyn yn ddigon i geisio cau'r bwlch hwnnw, gan fod angen i bobl ifanc gael amrywiaeth anhygoel o eang o gyflyrau er mwyn gallu cael mynediad at CAMHS? Yr hyn sy'n digwydd yw bod nifer fawr o bobl ifanc gyda thueddiadau hunanladdol, sy'n hunan-niweidio neu sydd â chyflyrau lluosog neu anableddau lluosog gyda chyflyrau yn cael eu gwrthod rhag cael mynediad at CAMHS am nad ydynt yn cyd-fynd â’r meini prawf caeth hynny. Ni allaf weld yn y cynllun gweithredu iechyd meddwl y byddwch yn gallu mewn gwirionedd gau'r bwlch hwnnw mewn modd mor dda â hynny.
Yn olaf, Lywydd, oherwydd gwn fy mod i newydd ddweud 'yn olaf'. [Torri ar draws.] Mi wnes i. Dyma fy ‘olaf ' terfynol. Yn y cynllun yr ydych yn siarad llawer iawn am fesur canlyniadau, sef rhywbeth sy'n agos iawn at galon Ceidwadwr. Yr hyn sy'n llai clir yw sut yr ydych yn mynd i fesur y canlyniadau hynny. Rydych yn sôn am ofyn am farn pobl. Does dim llawer o eglurder ynghylch a yw'n ymchwil meintiol neu ymchwil ansoddol. Ar lawer iawn o'r canlyniadau, lle yr ydych yn mynd i wneud y mesuriadau, nid ydych yn nodi beth mae pobl yn mynd i gael eu mesur yn ei erbyn a beth yw eu llinellau sylfaen. Felly, hoffwn eich barn ar ba mor dda yr ydym yn credu y gallwn ni wir fonitro'r cynllun hwn i sicrhau ei fod yn cyflawni dros bobl Cymru.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am geisio mynd drwyddynt yn fyr ac yn gyflym, gan gadw mewn cof y gyfarwyddeb a gawsom yn gynharach. O ran y pwynt am adeiladu cydnerthedd a rhagnodi cymdeithasol, nid wyf yn credu bod unrhyw wrthdaro rhwng y cynllun cyflawni hwn a thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwy’n credu y gallai fod her o ran y ffordd y mae pobl yn dewis gweithredu hynny a'r blaenoriaethau y maent mewn gwirionedd yn eu llunio, ond nid oes unrhyw beth yn y cynllun cyflawni hwn a thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sy’n torri ar draws ac a ddylai atal gweithio effeithiol rhwng asiantaethau i geisio gwella llais y defnyddiwr gwasanaeth. Byddai gennyf wir ddiddordeb, efallai, pe byddech yn ysgrifennu ataf neu’n siarad â mi ynglŷn â'r enghraifft benodol yr ydych wedi ei chodi, gyda'r Prif Weinidog a minnau, am y cyfleusterau cymunedol yr ydych yn dweud sydd wedi cael eu cau oherwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), oherwydd byddwn i'n synnu'n fawr iawn os oedd rheidrwydd statudol gwirioneddol i gau'r gwasanaeth y cyfeiriasoch ato.
Ceir bob amser yr her ynglŷn ag arian, ac rydych yn gwybod ein bod yn byw mewn cyfnod o gyni. Mae llai o arian ar gael i rai gwasanaethau, y byddem i gyd yn eu gwerthfawrogi ym mhob plaid, ond maent yn annhebygol o gael yr arian hwnnw i barhau i symud ymlaen. Mae bob amser ddewis o ran y bobl sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny, pa un a ydynt yn wirfoddolwyr neu’n weithwyr cyflogedig. Yn yr un modd, ceir y safbwynt a gymerwyd genym o ran y bobl sy’n comisiynu’r gwasanaethau hynny, boed hynny y GIG neu lywodraeth leol, am ddiben y gwasanaeth hwnnw, am ddiben y bobl sy'n ei ddarparu yn y trydydd sector neu fel arall, a’r ansawdd y mae’n ei ddarparu wedyn hefyd. Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gennych fel y gallaf roi, efallai, ymateb mwy defnyddiol neu benodol i’r mater penodol a godwyd gennych.
O ran y gwobrau Cymru Iach ar Waith, cyflwynais nifer o’r gwobrau hyn yn y gorffennol, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld y ffordd y mae busnesau—busnesau bach, canolig a mawr—wedi ymateb mewn gwirionedd. Mae iechyd meddwl a lles wedi bod yn rhan bwysig iawn o'r meini prawf sy'n cael eu defnyddio. Ym mhob un o'r byrddau stori yr ydym yn deall y daith y mae busnes wedi mynd arni. Maen nhw wedi dysgu llawer iawn eu hunain am ofalu am les eu gweithwyr a chefnogi pobl i ddod yn ôl i'r gweithle. Felly, rwy'n fodlon, yn y broses sydd gennym yn edrych ar sut y mae gweithleoedd bach yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu, fod unrhyw weithle bach sy'n awyddus i gymryd rhan yn y wobr hon yn canfod cefnogaeth ragweithiol gan y Llywodraeth a'n hasiantaethau a'n partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i geisio ymgysylltu ac i ddeall gwir werth cefnogi eu gweithwyr cyn bod ganddynt broblemau iechyd meddwl, yn ystod y cyfnod hwnnw, a, gobeithio, eu helpu yn ôl i mewn i'r gweithle hefyd.
O ran CAMHS, yr £8 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn ein rhaglen 'Gyda'n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc', mae gennym y GIG; mae'n cael ei arwain gan y GIG. Mae gennym y trydydd sector. Mae gennym ystod o blant a phobl ifanc eu hunain yn cymryd rhan fel rhanddeiliaid. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn fodd cadarnhaol iawn o bobl yn gweithio gyda'i gilydd a chydnabod eu bod, o rannu gyda'i gilydd, mewn gwirionedd yn gallu deall yr heriau a'r ystod o broblemau a'r atebion hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch am y gwahaniaeth rhwng y gwasanaeth arbenigol, lle mae wir gan bobl anghenion lefel uchel iawn, iawn, a phobl sydd yn ddealladwy ag angen nad yw'n cael ei ddatrys ar hyn o bryd mewn ffordd sy'n cyd-fynd ag anghenion y person ifanc unigol a'u cyd-destun teuluol lle mae'n cael ei weld. Dyna ran o her y gwaith y mae angen inni ei wneud gyda phartneriaid—dyna hefyd pam y mae’r Mesur iechyd meddwl wedi bod yn bwysig—ynghylch sicrhau bod gwasanaethau lleol ar gael. Felly, mae'n gweld y sbectrwm cyfan o iechyd a lles—dyweder, ar gyfer plentyn o oedran ifanc, yr hyn sy'n digwydd o fewn eu lleoliad addysg a rhannau eraill o'u bywydau, ac yna beth fydd yn digwydd os oes angen cymorth ychwanegol yn ogystal. Felly, rwy’n cydnabod nad yw’n ddarlun cyflawn fel yr ydym ar hyn o bryd, ac ni fyddwn yn ceisio dweud ei fod. Ond mae'n rhan bwysig iawn o’r blaenoriaethau sydd gennym yn y cynllun cyflawni hwn.
Yn olaf, o ran canlyniadau, rydym wedi gweithio i edrych ar ganlyniadau iechyd y cyhoedd ac wedi benthyca yn helaeth oddi wrthynt i gael ymagwedd am sut yr ydym yn deall pa un a yw canlyniadau yn gwella. Yn yr un modd, mae wedi bod yn rhan o'r hyn yr oedd y gynghrair trydydd sector â diddordeb mawr iawn ynddo, am y modd y mae’r gwaith hwn wedi gwella. Mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar waith, ac mae mwy sy'n cael ei ddatblygu gyda'r trydydd sector i ddeall canlyniadau o werth gwirioneddol, fel y gallant mewn gwirionedd gredu ynddynt ac y gallant ddeall eu hunain sut y mae hynny’n edrych. Byddaf yn fwy na hapus i gael sgwrs gyda chi a llefarwyr a chydweithwyr eraill yn y Siambr am sut yr ydym yn datblygu’r gwaith hwnnw a sut y byddwn wedyn yn gallu asesu bob blwyddyn, yr ail a'r drydedd flwyddyn, y canlyniadau yr ydym yn eu cyflawni i bobl ledled Cymru.
Diolch i chi am roi’r wybodaeth ddiweddaraf hon i ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu'r cynllun cyflawni terfynol ddoe. Pan y gwnaethom drafod y cynllun drafft ym mis Gorffennaf, codais fater mynediad at therapïau seicolegol. Profwyd bod mynediad cynnar at therapïau siarad, megis therapi gwybyddol ymddygiadol, yn gwella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt. Felly, rwy’n croesawu'r ymrwymiad i wella mynediad at therapïau seicolegol a manylion y cyllid. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau amseroedd aros ar gyfer therapi gwybyddol ymddygiadol yng Nghymru. Diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymrwymiad i wella'r gwasanaeth CAMHS. Bydd yn newyddion i'w croesawu na fydd pobl ifanc yn aros mwy na 48 awr am atgyfeiriad brys neu fwy na 28 diwrnod am apwyntiad arferol. Fodd bynnag, rwy’n dal yn bryderus am leoli plant a phobl ifanc y tu allan i'r ardal. Croesawaf yr ymrwymiad i leihau nifer y lleoliadau y tu allan i'r ardal a hyd lleoliadau o'r fath. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na fydd y gostyngiad ond yn 10 y cant o linell sylfaen 2013-14? Siawns y gallwn fod yn fwy uchelgeisiol na hynny. Oni ddylem ni fod â’r nod o gael gwared ar y rhan fwyaf o leoliadau y tu allan i'r ardal, o ystyried yr effaith amlwg mae hyn yn ei chael ar iechyd meddwl y bobl ifanc hynny a'u teuluoedd?
Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am sut y bydd y bond lles newydd yn gweithio'n ymarferol ac am fanylion y cynllun rhagnodi cymdeithasol arbrofol. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gynlluniau cymorth cymunedol megis y ganolfan Sandfields ragorol neu wasanaeth cynghori Tŷ Elis o fewn fy rhanbarth i. A fydd y cynllun rhagnodi cymdeithasol yn ariannu atgyfeiriadau at gynlluniau cymorth cymunedol fel y rhain? Ar hyn o bryd nid ydynt yn cael unrhyw gyllid gan y GIG, er gwaethaf y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaethau gwerthfawr iddynt. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu cynllun strategol dementia. Mae gofal dementia a gofal iechyd meddwl yr henoed yn anffodus yn llusgo y tu ôl i lefel y gofal yr ydym yn ei ddisgwyl. Hefyd, i ddatgan rhywbeth tebyg i Rhun, mewn gwirionedd, mae lles ein gofalwyr, pa un a ydynt yn cael eu talu neu nad ydynt yn cael eu talu, yn hollbwysig, wrth sicrhau eu bod yn cymryd eu seibiannau pan y dylent, a hefyd eu gwyliau, gan fod angen iddynt fod yn gwbl ffit ar gyfer darparu'r gwasanaethau hyn. Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth o’r rhan sydd gan y trydydd sector i'w chwarae wrth gyflwyno'r cynllun hwn. Mae gan y sector gwirfoddol a phob un ohonom ran bwysig iawn i'w chwarae, nid yn unig o ran gwella gofal iechyd meddwl, ond hefyd wrth fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl, a sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cefnogi’r gwaith pwysig iawn a wnaed gan Amser i Newid Cymru? Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad; rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau gwelliannau i iechyd meddwl pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Byddaf yn cadw at ymdrin â'r cwestiynau. Mae eich cwestiwn am therapïau seicolegol—nodais yn fy natganiad ac yn rhannol wrth ateb Rhun ap Iorwerth a'i gyfres o gwestiynau, wrth gwrs, fod yr arian yr ydym yn sôn amdano yn mynd i gael ei fuddsoddi yn bennaf mewn staff i ddarparu'r therapïau, a dyna'r pwynt ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno gweld gwelliant yn ansawdd y gofal ac yn yr amseroedd aros eu hunain hefyd. Rydym yn gwybod bod angen mwy o gapasiti. Ac ar yr un pryd, fodd bynnag, nid yn unig drwy ehangu'r capasiti sydd gennym, mae angen i ni edrych—ac mae hyn yn rhan o'r cwestiwn yn CAMHS yn ogystal—a hefyd gwneud yn siŵr bod y llwybr cywir yn bodoli fel bod gan y bobl nad ydynt angen y gofal arbenigol hwnnw ffurf briodol o ofal mewn rhan arall o'r system, fel bod hynny’n golygu y gall ac y bydd pobl sydd wir angen mynediad at gymorth therapiwtig arbenigol yn ei dderbyn. Dyma pam hefyd yr ydym wedi newid safonau ein hamseroedd aros. Mae ein safonau amseroedd aros bellach yn llymach nag mewn rhannau eraill o'r DU. Rydym wedi haneru'r amser y mae'n ei gymryd mewn gwirionedd i gael gweld rhywun i gael asesiad, ac yna'r amser y mae'n ei gymryd i ddechrau ymyrraeth therapiwtig hefyd. Felly, rydym mewn gwirionedd yn symud i gael system fwy heriol, gan gydnabod bod cael gafael ar therapi pan fo rhywun angen hynny, yn aml yn fwy pwysig ac, mewn gwirionedd, rydych yn aml yn cael gwell canlyniad y cynharaf y bydd y mynediad hwnnw yn cael ei ddarparu, a dyna pam yr ydym yn gwneud y buddsoddiad sylweddol yr wyf wedi’i amlinellu eisoes.
O ran lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant, rydym yn glir iawn bod gennym uchelgais i weld nifer y lleoliadau—nid yn unig ar gyfer plant ond hefyd ar gyfer oedolion, yn ogystal, ond roeddech yn gofyn yn benodol am blant—yn gwella, felly mae angen i ni wneud llai o ddefnydd o’r lleoliadau preswyl hyn i blant. Rydym eisiau gweld mwy a mwy o’r gofal hwnnw’n cael ei ddarparu mewn lleoliad lleol, mewn lleoliad cymunedol, ac, yn aml, bydd y canlyniadau yn well. Mae mewn gwirionedd yn fater o pan fo gan rywun anghenion lefel uchel penodol iawn yn golygu y byddent angen lleoliad y tu allan i'r ardal, a bydd hynny’n rhan o'r gwaith y mae angen i ni ei wneud, er mwyn deall pwy sydd angen cael y lleoliad hwnnw mewn gwirionedd ac wedyn gwneud yn siŵr bod lle addas ar gael ar eu cyfer. Ac weithiau efallai na fydd hwnnw yng Nghymru—gall hynny fod y peth iawn i’r person hwnnw ei wneud, ond nid dyna'r dewis a ffefrir gennym ni nac yr un y mae gwasanaethau yn ei gydnabod y byddent yn dymuno ei gael.
O ran eich pwyntiau am y bond lles a rhagnodi cymdeithasol, bydd y Gweinidog iechyd y cyhoedd a minnau yn rhoi mwy o fanylion i Aelodau pan fydd gennym fwy o ddata i’w rhoi i chi, ac yn arbennig, ar y bond lles, sut y gallai hwnnw edrych, yr hyn y bydd yn ei olygu i gymunedau, ac, o ran rhagnodi cymdeithasol, hefyd, mae'n mynd ar draws cyfrifoldebau’r ddau ohonom, oherwydd mae llawer o hyn sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd a sut yr ydym yn cael pobl i fod yn egniol ac i ymgysylltu, a chydnabod bod llawer o hyn yn ymwneud ag ymdeimlad cyffredinol unigolyn o les, a gall rhagnodi cymdeithasol helpu hynny a helpu canlyniadau iechyd corfforol hefyd, mewn gwirionedd.
Mae gan y gymuned meddygon teulu ledled Cymru diddordeb gwirioneddol yn hyn, ac mae Dr Richard Lewis, gynt o’r BMA, sydd bellach yn arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, yn arwain darn o waith ar hyn, ac rwy'n wirioneddol ffyddiog y bydd pobl nid yn unig yn cytuno â’r syniad, ond wedyn yn cytuno, gobeithio, â ffordd symlach o ddeall beth yw rhagnodi cymdeithasol a sut i wireddu hynny i ddinasyddion unigol a’r meddygon teulu eu hunain.
Ac, yn olaf, ynghylch Amser i Newid Cymru, mae'n mwynhau cefnogaeth drawsbleidiol. Rydym wedi parhau i'w ariannu. Byddwn yn adolygu cyflwyno Amser i Newid Cymru, yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, a byddwn wedyn yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud nesaf, gan fod yr ymgyrch i roi terfyn ar stigma a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag iechyd meddwl—rydym wedi gwneud camau gwirioneddol ar sail drawsbleidiol yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt, ond ni ddylai neb gymryd arno bod hyn wedi ei gwblhau. Mae mwy i ni ei wneud o hyd, felly byddwn yn parhau i fod angen ymgysylltu â’r trydydd sector a'r cyhoedd yn gyffredinol am yr hyn y mae angen i ni ei wneud i newid y naratif ar iechyd meddwl sydd yn rhan arferol o fywyd bob dydd.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Os caf ddechrau gyda CAMHS, rwy’n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i CAMHS, ac rwy'n falch iawn ein bod yn dechrau gweld rhywfaint o gynnydd, ond, fel y gwyddoch eich hun, mae rhestrau aros yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Roedd yn rhywbeth y tynnodd y comisiynydd plant sylw ato gerbron pwyllgor y plant yr wythnos diwethaf, ac rydym hefyd yn gwybod bod meysydd o amrywiad rhanbarthol sydd yn broblemus. A gaf i ofyn—rydym ran o'r ffordd drwy'r rhaglen erbyn hyn—sut yn union mae Llywodraeth Cymru yn monitro hyn a hefyd yn monitro unrhyw amrywiadau rhanbarthol?
Yn ystod lansiad effaith y Samariaid ddoe, dysgwyd am eu rhaglen ysgolion arbrofol, DEAL, darparu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando mewn ysgolion, sy'n ffordd o geisio gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc mewn lleoliad ysgol, ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun i edrych ar fentrau o’r fath. Ai dyna’r math o fenter y byddech yn gobeithio ei chyflwyno ledled Cymru, ac a fyddwch yn gallu trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld a allai hynny fod yn bosibl?
Os caf symud ymlaen at ddementia, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn hyrwyddwr o'r angen am strategaeth dementia gydag adnoddau llawn ar gyfer Cymru. Dementia, rwy’n credu, yw’r her fwyaf y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ei hwynebu ar hyn o bryd yng Nghymru, ac rwy’n credu y dylai fod ar yr un lefel â chyflyrau fel canser. Rwy'n falch iawn bod yr ymrwymiad i gynllun strategol dementia yn parhau i fod yn y cynllun a gyhoeddwyd gennych ddoe.
Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau, fodd bynnag. Un o'r meysydd o bryder yr wyf wedi’i nodi o'r blaen yw y bydd y mater gweithwyr cymorth, er mor dderbyniol yr ydynt, yn cael ei wneud ar sail y clystyrau meddyg teulu—lleiafrif o un gweithiwr cymorth dementia fesul dau glwstwr meddygon teulu yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu cyfanswm o ddim ond 32 ledled Cymru. Hyd yn oed ar sail ein cyfraddau diagnosis presennol, er mwyn i bawb gael gweithiwr cymorth dementia byddai angen tua 370 ohonynt. Felly, hoffwn ofyn a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn fodlon parhau i’w adolygu, ac a yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn edrych arno ymhellach pan fydd y cynllun hwn yn mynd allan i ymgynghoriad.
Yn yr un modd â chyfraddau diagnosis, maen nhw ar hyn o bryd yn 43 y cant yng Nghymru, sef y gyfradd isaf yn y DU ar hyn o bryd. Y targed ar gyfer 2016 yw 50 y cant. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn credu y dylai'r ffigur fod yn nes at 75 y cant. Byddai y tu hwnt i amgyffred pe byddai 50 y cant o bobl gyda chanser yng Nghymru ddim yn cael diagnosis. Felly, a yw hynny hefyd yn rhywbeth y byddwch yn parhau i’w adolygu'n gyson, ac yn ceisio cyflwyno targedau mwy uchelgeisiol ar ei gyfer wrth i amser fynd yn ei flaen?
Yn olaf, nid yw unrhyw gynllun ond cystal â’r modd y’i gweithredir mewn gwirionedd ar lawr gwlad. Mae'r cynllun cyflawni canser wedi cael ei sbarduno gan Lywodraeth Cymru gyda llwyddiant sylweddol. A wnewch chi edrych ar ba fecanweithiau y gallwn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y cynllun dementia yn cael ei sbarduno ar lefel uwch gan Lywodraeth Cymru? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Dechreuaf gyda CAMHS. Rwy’n cydnabod ein bod wedi cael gwelliant o tua 21 y cant mewn amseroedd aros ar gyfer pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r nifer yn dal yn rhy uchel, ac mae llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Mae hyn yn mynd yn ôl o hyd at wneud yn siŵr bod gan bobl nad ydynt angen y gwasanaeth arbenigol lwybr gwahanol ar gyfer cymorth gwahanol, gan fod bron yn sicr angen cymorth, ond efallai nad CAMHS yw’r lle priodol ar ei gyfer. Dylai'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud mewn staff helpu gyda hynny, hefyd. Felly, mae angen gwneud y ddau beth.
Felly, rwy’n cydnabod bod mwy i'w wneud, ac, yn wir, o ran CAMHS mae'n rhan o'r mater y byddaf yn ei godi gydag is-gadeiryddion. Yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gydag is-gadeiryddion rwyf wedi ei gwneud yn glir y bydd hyn yn rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato bob tro y byddwn yn eistedd i lawr. Maen nhw’n gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw ddweud wrthyf ble y maen nhw a pha un a ydynt wedi gwella o ble yr oeddent o'r blaen. Felly, bydd hyn yn rhan o'r atebolrwydd uniongyrchol y byddant yn ei gael gennyf i fel Ysgrifennydd y Cabinet, felly nid yw'n mynd i ddisgyn oddi ar yr agenda. Hyd yn oed pan fyddwn yn cyrraedd sefyllfa lle gallwn ddweud ein bod yn gyfforddus, bydd angen i hynny gael ei gynnal hefyd. Felly, nid wyf yn credu y bydd hyn yn disgyn oddi ar fy agenda benodol, na’u hagenda hwythau, am beth amser i ddod.
O ran y pwyntiau a wnaethoch, byddaf yn hapus i gael trafodaethau pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am swyddogaeth cymorth mewn ac o amgylch ysgolion, cynradd ac uwchradd. Rwy'n siŵr eich bod chi a llawer o bobl eraill wedi ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau a gweld y gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion sy'n bodoli, a’ch bod yn cydnabod y gwerth y mae athrawon a phenaethiaid yn benodol yn ei roi ar y gwasanaeth hwnnw, a'r gwahaniaeth y maent yn credu ei fod wedi ei wneud o ran ymddygiad a chanlyniadau ar gyfer y gymuned ysgol gyfan. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym eisiau ei weld yn cael ei gynnal, ac mae cyfeiriad strategol clir i gefnogi gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Felly, rwy'n fwy na pharod i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i ddeall beth sy'n gweithio orau, a sut mae pobl yn rhannu arfer, a beth sy’n wasanaeth cwnsela mewn ysgolion effeithiol ar gyfer cymuned ysgol arbennig neu ar draws ardal fwy.
O ran eich cyfres olaf o gwestiynau ar y strategaeth dementia, y gwaith sy’n arwain at ymgynghoriad—mae’r rhanddeiliaid wedi cymryd rhan, maent yn cynrychioli gwahanol rannau o'r gymuned, felly nid yw’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar ei phen ei hun, ac mae hynny’n bwysig. Mae hefyd yn bwysig bod y prif swyddog meddygol yn rhan o'r grŵp hwnnw, hefyd, felly mae rhywfaint o arweinyddiaeth uwch gan Lywodraeth Cymru yn ailadrodd pwysigrwydd y strategaeth benodol hon i’r Llywodraeth. Rwy’n gobeithio, pan fyddwch yn gweld yr ymgynghoriad yn dod i mewn y byddwch yn gweld ei fod o ddifrif ac yn ystyrlon.
Wrth gwrs, mi wnaf adolygu'r pwyntiau a wnaethoch am nifer y gweithwyr cymorth, eu rhan a'u swyddogaeth. Mi wnaf adolygu'r pwyntiau am gyfraddau diagnosis. Rwyf eisiau i ni gyrraedd ein targed presennol o 50 y cant, ac yna dylai fod yn ymwneud â, 'A beth felly ydym ni’n mynd i’w wneud nesaf?' Rwy’n disgwyl, yn yr ymgynghoriad, y byddwn yn clywed digon gan bobl am y ddau bwynt hynny, a byddwn yn disgwyl i hynny ddigwydd, ac rwyf yn annog pobl i gael barn ar yr hyn sydd yn yr ymgynghoriad a beth mae pobl yn ei ystyried sy’n bwysig, gan gynnwys os nad yw yno.
Mae hynny'n mynd at eich pwynt olaf ynglŷn â chyflawni. Byddwn, mi fyddwn yn meddwl o ddifrif am gyflawni a sut yr ydym yn gwneud yn siŵr bod goruchwylio uwch a rhesymeg glir ynghylch sut y bydd yr adrodd hwnnw wedyn yn cael ei wneud ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud, a pha un a ydym yn gwneud y math o gynnydd yr ydym wirioneddol eisiau ei wneud ac yr oeddem yn bwriadu ei wneud o’r dechrau.
Rydym ymhell dros amser yn y datganiad hwn, ond mae gennyf sawl Aelod nad ydynt wedi eu galw hyd yma. Os gallaf gael cwestiynau byr iawn gan bob Aelod ac atebion byr gan y Gweinidog, yna byddaf yn galw ychydig mwy o siaradwyr ac yn ymestyn yr amser. Felly, un cwestiwn yr un, os gwelwch yn dda. Joyce Watson.
Roeddwn i'n meddwl eich bod yn edrych arnaf i. Iawn, byddaf yn gryno iawn ac rwy’n diolch i chi am ymestyn. Brif Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, rwyf innau wedi ei wneud nawr. Rwyf wedi rhoi dyrchafiad i chi nawr. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi—fe fydd yn gwestiwn cryno—pa un a ydych chi'n cytuno bod y pwysigrwydd o fynd i'r afael yn uniongyrchol ag iechyd meddwl wir yn dechrau yn y gweithle? Ydych chi’n croesawu'r ffaith bod y Cynulliad ddoe—y Comisiwn—wedi llofnodi dealltwriaeth o'r enw yr addewid Amser i Newid, sy'n nodi'n glir ein gweledigaeth y byddwn yn cefnogi unrhyw un, pwy bynnag ydyn nhw, os ydyn nhw angen cael gafael ar gymorth yn y gweithle oherwydd lles eu hiechyd meddwl eu hunain, ac y byddwn bob amser yno i’w helpu?
Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad a'r Comisiwn yn dangos arweiniad yn y maes hwn hefyd, nid yn unig drwy ymrwymo i'r addewid Amser i Newid Cymru, ond drwy gydnabod bod gallu mynd yn ôl i'r gwaith, a gallu aros mewn gwaith, yn wirioneddol bwysig ar gyfer cynnal ymdeimlad pobl o hunanwerth a lles. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn cael rhywfaint o fwynhad o fod yn y gweithle mewn gwirionedd. I lawer o bobl, gall fod yn rhan bwysig iawn o gadw'n iach ac yna gwella hefyd. Felly, rwy’n falch iawn o glywed bod y Comisiwn yn dangos arweiniad yn y maes hwn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Un o'r pethau a nodais yn yr adroddiad ac yr wyf yn ei groesawu’n fawr iawn yw pwyslais cynyddol ar atal ac iechyd cyffredinol, iechyd meddwl a lles. Tybed i ba raddau yr ydych wedi ystyried y cyfleoedd i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i’n hysgolion ledled Cymru. Byddwch yn ymwybodol y bu brosiect gwych, sy'n cael ei arwain gan ysgol Pen y Bryn yn fy etholaeth fy hun yn nhref Bae Colwyn, lle y maent wedi bod yn defnyddio ymwybyddiaeth fyfyriol yn yr ysgol honno. Mae'n meithrin cydnerthedd aruthrol ymhlith y disgyblion yno i allu ymdopi â phwysau bywyd yr ysgol o ddydd i ddydd ac, yn wir, yn rhoi’r cydnerthedd, y gallant wedyn ei ddefnyddio yn eu haddysg ysgol uwchradd a hyd yn oed ar ôl hynny. Nodaf fod cyfeiriad at ymwybyddiaeth fyfyriol yn y cynllun. Rwy'n falch iawn o weld hynny. Dyma'r tro cyntaf iddo ymddangos. Ond, tybed i ba raddau y mae hynny'n mynd i gael ei ddarparu a sut mae'n mynd i gael ei ddarparu i bobl o bob oed. Rydym wedi clywed am y pwysau ar CAMHS yn arbennig. Mae hyn, yn fy marn i, yn gyfle i ni achub ar y cyfle a gwneud rhywbeth yn ymwneud ag ymwybyddiaeth fyfyriol, yn arbennig, yn ein hysgolion.
Diolch am y sylwadau. Cyfarfûm â Chris Ruane beth amser yn ôl ynghylch y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn y grŵp trawsbleidiol yn San Steffan. Roedd consensws yno am ymagwedd ehangach, ac mae'r gwleidyddion eu hunain wedi canfod defnyddioldeb ymagwedd ymwybyddiaeth fyfyriol. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod ei fod yn cael ei grybwyll yn ffurfiol yn y cynllun cyflawni hefyd. Yr her bob amser fydd: beth yw'r llwybr mwyaf effeithiol i gefnogi pobl i gael yr atal hwnnw a’r cydnerthedd hwnnw? Byddwn yn hapus iawn i chi ysgrifennu ataf gyda manylion y prosiect a grybwyllwyd gennych yn eich etholaeth chi a sut mae'r ysgol yn credu eu bod wedi gweld gwelliant. Gallai hynny wedyn helpu i lywio ein hymagwedd ninnau hefyd. Mae'n rhywbeth y mae gennym feddwl agored ynglŷn ag ef, os mynnwch.
Diolch i chi am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am lansiad y strategaeth ddoe. Roedd yn ddiwrnod prysur i chi ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2016 gyda digwyddiadau yn Hafal, y Samariaid ac eraill. Byddwch wedi clywed, hefyd, yr araith ysbrydoledig gan Nigel Owens, yn siarad am gael gwared ar y stigma a siarad yn agored am faterion iechyd meddwl, y mae angen i ni i gyd ei wneud. A gaf fi ofyn iddo, o ran cydnerthedd cymunedol, pa ran a chwaraeir gan fentrau megis Maesteg yn dod yn dref sy’n ystyriol o ddementia, plwyf Mynydd Cynffig a rhai o'r eglwysi yn ymuno â'i gilydd i ddod yn blwyfi sy’n ystyriol o ddementia, y mudiad siediau dynion— roedd yr un gyntaf yn y DU yn Nhondu yn fy etholaeth i, ond mae nawr ym Maesteg ac yn lledaenu ledled y wlad—a gwaith hyrwyddwyr ym maes iechyd meddwl, fel Mark Williams ym Mro Ogwr, sy’n hyrwyddo iechyd meddwl amenedigol, a grybwyllir yn y strategaeth hon, a hefyd iechyd meddwl dynion yn ogystal? Onid yw’n iawn y bydd y bobl hyn a'r sefydliadau hyn yn tanategu llwyddiant y strategaeth hon?
Ie. Rwy'n hapus iawn i gydnabod y gyfres o gyfeiriadau a wnaethoch at eich etholaeth, lle mae gwaith gwirioneddol yn cael ei wneud. Byddwch yn cydnabod bod gennym uchelgais i Gymru fod yn genedl sy’n gyffredinol ystyriol o ddementia, ac mae hynny'n golygu mwy o gymunedau ystyriol o ddementia ac ymagwedd ehangach y mae angen inni ei chymryd fel cymdeithas. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chydnabod bod nifer o'r problemau sy'n wynebu dynion yn ymwneud â'u hanallu neu eu hamharodrwydd i siarad neu i fod yn agored am heriau, sy'n cael eu mewnoli ac yna yn y pen draw yn mynd yn broblem fwy nag y dylai fod fel arall. Rwy'n hynod o falch o gydnabod y mudiadau gwirfoddol sy'n digwydd, gan annog dynion yn arbennig i ddod o hyd i'r lle i gael y sgwrs honno, i fod yn fwy agored ac mewn gwirionedd i gael ffordd well o ymdrin â'r heriau y bydd llawer ohonom yn eu hwynebu ar wahanol adegau yn ein bywyd.
Rwy'n falch iawn o ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych ynglŷn â stigma, ac nid dim ond Nigel Owens—mae pwynt ehangach yma am y byd chwaraeon, lle mae cyfle mewn gwirionedd i estyn allan, nid yn unig at ddynion, ac i gydnabod pobl sy'n cyflawni ar lefel uchel a'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, ac iddynt fod yn agored i siarad am eu profiadau eu hunain, ac am sut y gall hynny fwydo i mewn i chwaraeon yn y gymuned ar gyfer dynion a menywod, hefyd. Felly, mae llawer i ni fod yn gyffrous amdano, ac i harneisio’r manteision y gallwn eu cael ar gyfer yr holl wahanol rannau hynny o'n cymuned a'r cyrhaeddiad gwahanol sydd gan wahanol bobl, oherwydd weithiau nid yw'r neges yn cael ei chyflwyno'n fwyaf effeithiol gan wleidydd.
Yn olaf, Nathan Gill.
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet—am nawr—siaradodd Nigel Owens OBE ddoe am yr angen i siarad am faterion iechyd meddwl, ac roedd hefyd yn siarad am hunanladdiad fel y lladdwr mwyaf ar gyfer dynion dan 45 oed. Hoffwn weld gwasanaethau cwnsela ym mhob ysgol yng Nghymru, ac rwy’n meddwl y byddai yn mynd yn bell tuag at feddygaeth ataliol, sy'n rhywbeth yr ydych wedi sôn amdano gryn dipyn yn yr adroddiad hwn. Byddai hefyd yn annog pobl, yn enwedig dynion, i siarad am eu teimladau o oedran iau. A ydych chi’n cytuno â hynny, ac a ydych chi’n credu ei bod yn bosibl i ni fel cenedl allu cael cwnselwyr ym mhob ysgol yng Nghymru?
Ydw. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar gwnsela mewn ysgolion, mewn gwirionedd, ac rwy'n falch o weld bod rhywfaint o gydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd a chefnogaeth ar gyfer y dewisiadau anodd y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a phenaethiaid eu gwneud am eu llinellau cyllideb, wrth i ni wynebu her sylweddol o ran gwariant cyhoeddus yn gyffredinol. Ond, rydych yn gwneud pwynt pwysig am ddynion canol oed yn arbennig a risg hunanladdiad, a cheir y pwynt hwn eto am wahanol actorion yn barod i sefyll a dweud eu bod yn wynebu heriau eu hunain ac i ddisgrifio sut y maent wedi dod drwyddynt. Beth sydd wedi bod yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, yw nid yn unig cyn-filwyr yn siarad am y peth, ond yn aml personél gwasanaethau brys sy’n gwasanaethu hefyd, sydd wedi siarad am yr heriau y maent wedi eu hwynebu a sut y maent wedi dod drwyddynt. Felly, mae amrywiaeth eang o wahanol bobl sy'n cydnabod bod ganddynt ran mewn gwelliant ar draws y wlad. Mae gennym gyfrifoldeb fel y Llywodraeth, ac mae gan y GIG hefyd, ond mewn gwirionedd bydd mwy o actorion yn cymryd rhan mewn herio stigma a gwahaniaethu hefyd yn helpu, rwy’n credu, i wella canlyniadau pobl sydd wir yn estyn allan am gymorth pan fyddant fwyaf ei angen.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.