Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 11 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am y datganiad derbyniol heddiw a'r ffaith bod y prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella faint o fand eang ffibr sydd ar gael ar draws Cymru, gan roi budd i drigolion a busnesau fel ei gilydd yn y maes ymyrraeth. Felly, dylai fod croeso i hynny.
Er bod llawer o ddatblygiadau yng nghysylltedd Cymru o ganlyniad i'r prosiect Cyflymu Cymru, mae'r gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y rhaglen yn amlygu rhai methiannau allweddol y prosiect i dargedu'r ardaloedd yng Nghymru sydd fwyaf angen gwell cysylltedd. Mae Dai Lloyd wedi crybwyll Ceredigion a Phowys ac, wrth gwrs, rwy'n byw ym Mhowys fy hun ac rwy’n gwerthfawrogi’r Gweinidog yn darparu’r enghreifftiau hynny yn ei datganiad heddiw, ond mae gennyf ddigon o enghreifftiau o etholwyr sydd wedi cael profiadau gwahanol. Ond, rwy’n gwerthfawrogi y bydd y Gweinidog yn derbyn hynny ac y bydd hi’n ymwybodol ohono. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch eich bod wedi ymrwymo i'r ffrwd ariannu newydd i dargedu safleoedd nad ydynt yn rhan o'r broses o gyflwyno. Mae hynny i'w groesawu hefyd.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau. Yn gyntaf, a ydych chi’n dal yn ffyddiog y bydd BT yn cyflawni ei rwymedigaethau cytundebol, neu a ydych chi’n disgwyl ailfuddsoddi arian adfachu yn sgil y methiant i fodloni’r rhwymedigaethau cytundebol neu'r targedau? Yn eich datganiad, pan glywais y dyddiad 31 Rhagfyr, 2017, roeddwn wedi fy nychryn braidd gan hynny, ond hoffwn gael rhywfaint o gadarnhad ei fod yn ymwneud â'r elfennau a adeiladwyd i mewn yr ydych yn parhau i weithio drwyddynt, ac nad yw hynny'n unrhyw esgus dros unrhyw lithriad o'r dyddiad Mehefin 2017. Rwy'n siŵr mai dyma yw'r sefyllfa, ond byddai'n ddefnyddiol cael y cadarnhad hwnnw.
Roedd yr adolygiad marchnad agored gwreiddiol a gynhaliwyd gan Mott MacDonald yn nodi 45,000 o safleoedd yng Nghymru na fyddai'n elwa ar y prosiect. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod nifer o fusnesau yn gwneud penderfyniadau busnes hollbwysig wedi'u seilio ar ragdybiaethau y byddant yn cael cysylltiad band eang cyflym, dibynadwy erbyn dyddiad penodol. Felly, a gaf i ofyn, a ydych chi mewn sefyllfa i ddarparu'r nifer amcanol diwygiedig a chanran yr aelwydydd a busnesau, yn ôl ardal awdurdod lleol, a fydd y tu allan i gwmpas y prosiect? Ac a ydych yn rhagweithiol yn gallu rhoi manylion am yr aelwydydd a’r busnesau hynny a fydd yn bendant ar eu colled, er mwyn iddynt allu gwneud y cynlluniau wrth gefn hynny ac y gallant wneud trefniadau eraill trwy, wrth gwrs, Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun talebau cysylltedd gwibgyswllt?
Rydych hefyd wedi siarad am brosiect ymgysylltu yn ogystal, ynglŷn â manteisio, ond a gaf i eich holi am eich bodlonrwydd, os mynnwch chi, i gael prosiect o ymgysylltu â’r cymunedau hynny sy'n cael eu siomi, ac i egluro'r cynlluniau yr wyf wedi sôn amdanynt, ac yr ydych chithau wedi sôn amdanynt yn eich datganiad hefyd? Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech nodi yn fanwl faes yr oeddwn yn siomedig nad oedd yn y rhaglen lywodraethu, ynghylch sut y gallech fod yn gweithio i ddiwygio'r system gynllunio ar gyfer telathrebu a gwella mynediad y diwydiant telathrebu at asedau sector cyhoeddus i gefnogi buddsoddiad seilwaith pellach a defnyddio rhwydwaith. Rwy’n gwerthfawrogi bod elfennau nad ydynt wedi'u datganoli, ond mae elfennau sydd wedi'u datganoli y mae’r sbardun iddynt gennych chi.
Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech esbonio ychydig am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wella'r sefyllfa o ran marchnata a chyfathrebu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl. Mae miloedd o bobl eisiau atebion. Rwy'n cael cannoedd o bobl yn cysylltu â mi dros gyfnod o fisoedd. Roeddwn ychydig yn bryderus pan wnaethoch chi’r elfen farchnata yn fewnol. Rwy’n gwybod, Weinidog, eich bod wedi ysgrifennu ataf yn fanwl ar y pwynt hwn, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny, ond efallai y gallech egluro, pan gawsoch yr estyniad i'r contract, pam nad oedd elfen i mewn yno i sicrhau bod disgwyl i Cyflymu Cymru ymdrin â’r gweithredu marchnata hwnnw, neu’r elfen farchnata, os mynnwch chi. Rwyf yn gwerthfawrogi atebion i fy llythyrau, Weinidog, a phan fyddaf yn ysgrifennu atoch, mae ymateb gweddol gyflym o ran gohebiaeth gweinidogol—wythnos neu ddwy—ond roeddwn yn cael ymateb cyflymach o'r blaen, pan oeddwn yn siarad yn uniongyrchol â BT. Felly, dyna'r elfen yr hoffwn ichi roi sylw iddi.
Yn olaf, mae eich cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar ysgogi galw ac y bydd yn lansio rhaglen ymgysylltu gyfathrebu o amgylch hynny i'w groesawu’n fawr iawn. Credaf ei bod yn siomedig nad oedd y gyllideb ysgogi galw ond yn cyfateb i tua 0.5 y cant o gyllideb y rhaglen yn gyffredinol. Felly, nawr bod y gwaith o gyflwyno'r prosiect Cyflymu Cymru yn cyrraedd y camau olaf, rwy’n credu ei bod yn hanfodol, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'r seilwaith yn cael ei adael yn segur—rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â hynny— ond yn cyrraedd ei botensial llawn ar gyfer cwsmeriaid domestig a busnes. Rydych chi, Weinidog, wedi siarad o'r blaen am yr angen i'r diwydiant wella cyfraddau manteisio, ac rwy’n cytuno â chi ar hynny, ond hefyd, wrth gwrs, mae’n iawn bod Llywodraeth Cymru yn elwa ar y nifer sy'n manteisio, yn ogystal, ac rwy’n meddwl y dylech fod yn hyrwyddo manteisio yn frwdfrydig oherwydd mae’n rhaid i ni weld y budd hwnnw yn cael ei ryddhau ar fuddsoddiad y trethdalwyr a sicrhau bod cyfraddau manteisio yn rhagori ar y targed braidd yn gymedrol—byddwn i’n ddweud—o 50 y cant erbyn 2024.
Yn olaf, hoffwn gael diffiniad—