Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch ichi am y gyfres o gwestiynau a sylwadau, Russell George. Nid yw diwrnod yn gyflawn yn fy swyddfa weinidogol i heb lythyr oddi wrthych chi ar Cyflymu Cymru; felly, rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich diddordeb ar ran eich etholwyr yn y mater hwn. Byddaf yn ceisio rhoi sylw i bob un ohonynt. Y pwynt rhwymedigaethau cytundebol: nid ydym yn dibynnu ar adfachu o ganlyniad i fethiant BT i gael yr arian yr ydym yn sôn amdano. Mae cyfran o’r enillion wedi’i ysgrifennu yn y contract. Felly, os yw cyfraddau manteisio mewn unrhyw ardal lle mae Cyflymu Cymru wedi cyrraedd yn fwy na 21 y cant, rydym yn cael cyfran o’r elw yn ôl o hynny. Felly, dyna’r arian yr ydym yn dibynnu arno. Rwy’n disgwyl i BT fodloni ei rwymedigaethau cytundebol oherwydd bod y contract yn cario cosbau ariannol trwm iddyn nhw os na fyddant yn gwneud hynny. Felly, ni fyddai’n fanteisiol o gwbl iddyn nhw fod yn y sefyllfa honno. Nid yw'r arian yr wyf wedi'i grybwyll yn dod o adfachu, fel yr ydych yn ei alw; mae'n dod o gyfran o enillion sydd wedi’i ysgrifennu yn y contract. Felly, rydym eisoes yn siarad â BT ynghylch y defnydd o’r gyfran o enillion honno a sut y gallwn gyrraedd y safleoedd nad ydynt wedi eu cynnwys ynddi o ganlyniad.
Yn fy natganiad, fe wnes i sôn am adolygiad marchnad agored arall, y byddwn yn ei wneud yn yr hydref, oherwydd, unwaith eto, mae'n ymyrraeth yn y farchnad, felly mae'n rhaid i mi wneud yn siwr nad wyf yn mynd i unrhyw le lle bydd cyflwyno masnachol. Felly, y ffordd orau o wneud hynny yw gofyn i'r cwmnïau masnachol am eu dadansoddiad terfynol o ble y maent yn mynd i fynd iddo, fel y gallwn fynd i'r mannau na all gweithredwyr masnachol eraill eu cyrraedd. Mae'n ddrwg gennyf, roedd yn rhaid i mi ddweud hynna. Rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo i gyrraedd yno.
O safbwynt nodi’r safleoedd hynny yn gynnar, bydd yn gwybod fy mod wedi bod yn gwthio BT am gyfnod sylweddol iawn o amser i ddweud wrthym pa safleoedd y maen nhw’n gwybod yn bendant na fyddant yn eu cyrraedd. Rydym bellach wedi cael tua 1 y cant o'r rheini, ac mae'r wefan yn newid yn araf dros yr wythnos hon a'r wythnos nesaf i adlewyrchu hynny. Bydd rhai o'ch etholwyr, wrth fewngofnodi ar y wefan, yn awr yn cael y neges 'allan o gwmpas'. Byddant hefyd wedyn yn cael rhywbeth i ddweud beth yr ydym yn mynd i'w wneud drostynt. Mewn rhai ffyrdd, nhw yw’r rhai lwcus oherwydd mae'n golygu y gallwn gael atyn nhw yn gyflym, tra bydd y bobl sy'n dal i fod 'o fewn y cwmpas', ond heb unrhyw ddyddiad adeiladu yn gorfod aros tan fis Mehefin 2017 er mwyn i ni weld a fydd BT yn cyrraedd yno. Y rheswm am hynny yw hyn: rydym yn cynnal y prosiect hwn fel prosiect Cymru gyfan. Gall BT fynd i unrhyw safle yng Nghymru y maent yn dymuno a’i gael i 30 Mbps neu fwy, a byddwn yn eu talu am hynny. Felly, nid ydym yn rheoli ble maen nhw’n mynd. Maen nhw’n mynd i ble y gallant gael ato. Mae'n amlwg er eu budd i gyrraedd cynifer o safleoedd ag sy'n bosibl mor gyflym â phosibl oherwydd dyna beth sy’n rhoi eu hincwm iddyn nhw. Felly, fel y mae’r dechnoleg yn newid—ac, yn wir, mae wedi newid dros ddilyniant y contract hwn—. Er enghraifft, mae ailgapasiteiddio—os yw hwnnw’n air—y cypyrddau sydd eisoes yn llawn yn un ffordd iddyn nhw gael mwy o safleoedd yn ymgysylltu hyd at 30 Mbps. Fel yr wyf yn dweud, mae'n bwysig i'r Aelodau sylweddoli pa mor llym yr ydym ynghylch hynny. Nid ydyn nhw’n ei hawlio ac rydym ni’n eu talu. Rydym yn edrych ar y cyflymder ar sail safleoedd sydd wedi’u pasio, a dyna sut y maent yn cael eu talu. Felly, mae'n llym iawn, ac rydym yn ei fonitro'n ofalus iawn, iawn.
O ran y materion cynllunio a symudol, nid yw symudol, fel y gwyddoch, wedi ei ddatganoli i Gymru. [Torri ar draws.] Ydym. Mae aelod y Cabinet dros gynllunio a minnau eisoes wedi cyfarfod a thrafod y materion hyn. Mae gennym swyddogion yn gwneud darn o waith i ni ar yr hyn y gellir ei gyflawni o ran y datblygu a ganiateir, yr hyn y gellir ei gyflawni mewn ymgynghoriad â phethau fel awdurdodau'r parciau cenedlaethol, er enghraifft, ac yn y blaen. Mae cyfyngiadau y bydd pobl eisiau eu gweld. Ond fel bob tro gyda’r pethau hyn, mae'n gyfaddawd: ydych chi eisiau cysylltedd symudol uchel iawn yn eich parc cenedlaethol, neu ydych chi eisiau dim mastiau? Rwy'n ofni na allwch chi gael y ddau beth hynny, felly mater i bobl leol fydd gwneud y dewisiadau hynny. Mater iddyn nhw yw pa un o'r dewisiadau hynny y maent yn dymuno ei wneud, a gallwn ni hwyluso’r dewis hwnnw ar eu cyfer.
O ran cael i bob man â pha gyflymder, bydd yr Aelod yn gwybod bod gan Lywodraeth y DU Fil digidol yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd a bod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ynddo. Mae’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol hwnnw ar hyn o bryd yn 10 Mbps, sy'n sylweddol iawn yn is na ble yr ydym ni eisiau bod. Rydym yn pwyso arnyn nhw i godi hynny ac i roi sbardun i mewn iddo. Nid yw’n glir ychwaith pa mor gyffredinol fydd y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â sut mae hynny'n gweithio, er enghraifft, gyda ffonau. Mae swm o arian y bydd y gweithredwr ffôn yn ei dalu i’ch cysylltu chi i linell dir, ac ar ôl hynny disgwylir i chi dalu’r gweddill eich hun. Yn amlwg, nid ydym yn hapus â hynny oherwydd ei fod yn creu anfantais i bobl mewn cymunedau gwledig sydd ymhell oddi wrth unrhyw beth. Felly, rydym yn gwneud llawer o waith i ddeall ganddyn nhw beth yn union y maen nhw’n ei olygu, sut bydd y marciau torri i ffwrdd yn edrych, a’r hyn y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ei wneud i lenwi'r bylchau i bobl. Bydd y bobl sy’n cael eu gadael allan o’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol hwnnw yn amlwg o dan anfantais oni bai ein bod yn gallu llenwi'r bylchau hynny, a dyna i raddau helaeth yr hyn y mae'r arian cyfran o enillion ar ei gyfer.
Yn olaf, o ran eu hymateb, dim ond newydd ddod â hynny yn fewnol yr ydym ni, ac rwy'n ofni bod y tîm yn cymryd ychydig o amser i gael trefn arno. Ond rwy’n eich sicrhau y bydd y cyflymder ymateb yn ôl i fyny i normal—yr wythnos hon rwy’n gobeithio, ond yn fuan iawn. O ran marchnata, fe’i gwnaethom yn fewnol oherwydd ein bod yn awyddus i’w dargedu yn benodol at ardaloedd sydd â chyfraddau manteisio uchel ac at fusnesau sy'n hanfodol i'n heconomi. Roeddem eisiau i'r Aelodau Cynulliad lleol a rhanbarthol fod yn rhan o’r ymgyrch farchnata honno. Oherwydd fel y dywedais, po fwyaf fydd y niferoedd sy'n manteisio, y mwyaf fydd y gyfran o enillion a mwyaf fydd yr arian sydd gennym i ailfuddsoddi yn y rhaglen.