Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 11 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei diweddariad heddiw? Heb os bydd hi'n gwybod o’i bag post bod cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn bwnc llosg ar gyfer llawer o fy etholwyr yn Nelyn. Nid yn unig y mae hynny'n tynnu sylw at y problemau y mae pobl yn eu cael o ran cael mynediad at y ddarpariaeth a'r darparwr, ond rwy’n meddwl, i mi, mae'n dangos pa mor bell yr ydym wedi symud yn y blynyddoedd diwethaf o ran symud o ystyried band eang cyflym iawn yn rhywbeth moethus i fod yn gyfleustod hanfodol yr ydym yn disgwyl ei gael erbyn hyn, gyda galw yn cynyddu yn unol â hynny. Croesawaf yr ymrwymiad a'r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau yn gallu neu y byddant yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, ond, gan adleisio’r hyn y mae llawer wedi ei ddweud heddiw, rhan o'r broses yw sicrhau bod darparwyr fel BT yn bodloni eu rhwymedigaeth i gartrefi a busnesau a chymunedau ledled Cymru.