Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 11 Hydref 2016.
Weinidog, rwy'n ofni bod llawer o bobl ledled Cymru wedi cael llond bol ar aros am hyn. Rydych chi mewn Llywodraeth sydd wedi goraddo am fand eang cyflym iawn ac wedi methu yn llwyr â chyflawni. Roedd hyn yn eich rhaglen lywodraethu [Torri ar draws.] Yr oedd yn eich rhaglen lywodraethu yn ôl yn 2011 y byddech yn cyflwyno band eang cyflym iawn i bob cartref a busnes preswyl yng Nghymru. Rydych chi wedi methu ar hynny, a gallwch feio BT Openreach gymaint ag y dymunwch, ond chi yw'r rhai a roddodd y contract iddynt, chi yw'r rhai sydd wedi newid yr amserlen ddwywaith erbyn hyn o ran cyflawni yn erbyn y contract hwnnw, a chi yw’r bobl sy'n siomi pobl a busnesau Cymru.
A dweud y gwir, Weinidog, nid wyf yn argyhoeddedig, hyd yn oed erbyn diwedd y cyfnod hwn o Llywodraeth glymblaid, eich bod chi'n mynd i gyflawni eich nod, ychwaith. Rydych eisoes wedi dweud yn glir iawn yn eich datganiad heddiw nad ydych yn gallu darparu cysylltedd ffibr ar unrhyw gost, gan fod angen i chi ddarparu gwerth am arian. Rwy’n derbyn bod angen i chi ddarparu gwerth am arian, ond mae hefyd angen i chi roi'r gorau i addo pethau yr ydych chi’n methu â’u cyflawni. Rydych wedi methu cyflawni yn y tymor diwethaf, ac rwy’n amau eich bod yn mynd i fethu eto.
Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r pethau hynny a addawyd. Yn eich rhaglen lywodraethu yn ôl yn 2011, sydd, rwy’n sylwi, Lywydd, wedi ei dileu o wefan Llywodraeth Cymru, dywedasoch y byddai pob cartref a busnes yn derbyn band eang cyflym iawn erbyn diwedd 2015. Yna newidiwyd yr amserlen i 2016, yna fe’i symudwyd i ddiwedd 2017. Erbyn hyn, dylai fod o leiaf 655,000 o gartrefi ac adeiladau busnes ynghlwm i fand eang cyflym iawn, ond nid yw hynny wedi digwydd. Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad heddiw nad oes ond 610,000 ohonynt. Felly, yr hyn yr ydych wedi ei wneud yw eich bod wedi newid yr amserlen ymhellach ac ymhellach i’r dyfodol; rwy’n amau y byddwch yn eu symud y tu hwnt i’r etholiad nesaf hefyd, oherwydd nad ydych eisiau i’r etholwyr eich dwyn i gyfrif am y methiannau hyn, ychwaith.
Yr hyn y mae fy etholwyr eisiau ei wybod yw, os nad ydynt yn mynd i gael band eang ffibr, sut ar y ddaear ydych chi’n mynd i fynd i'r afael â'u hanghenion? Pam y dylai fy etholwyr yn rhan uchaf Bae Colwyn ac yn rhannau gwledig Sir Ddinbych ac mewn rhannau eraill o Gonwy, pam y dylent ddioddef methu â chael mynediad at y pethau hyn, sy'n hanfodol ar gyfer yr aelwydydd hynny heddiw os ydynt eisiau cael y fargen orau ar eu biliau cyfleustodau, os ydynt eisiau eu pobl ifanc i wneud eu gwaith cartref a gwneud yr ymchwil sydd ei hangen arnynt i gefnogi eu haddysg? Nid yw’n dderbyniol; mae angen i chi roi eich meddwl ar waith a datrys hyn.