Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 11 Hydref 2016.
Iawn, Lywydd, mi wnaf ymatal rhag egluro eto, ond rwyf wedi ei esbonio sawl gwaith yn barod.
Felly, nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud. Y peth olaf a ddywedodd, fodd bynnag, yr wyf yn ei dderbyn yn llawn: mae wedi mynd o fod yn rhywbeth moethus i fod yn hanfodol, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn addo ei gael i bawb. Yr hyn a ddywedais am fand eang ffibr oedd na fyddai pawb yn cael cebl. Dywedais y byddai pawb yn cael band eang cyflym a dibynadwy, ond na fyddai o reidrwydd trwy gebl ffibr, ac mae hynny oherwydd bod technolegau eraill wedi datblygu’n gyflym iawn dros y tair blynedd diwethaf. Soniais am un mewn etholaeth Aelod arall, ac, os byddai Darren Millar yn dymuno fy ngwahodd i'w etholaeth i siarad â’i etholwyr am yr hyn sydd ar gael, byddwn yn hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.