Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch. Ar y pwynt olaf, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, mae angen i BT gyrraedd cynifer o safleoedd ag sy'n bosibl mor gyflym â phosibl i gyflawni ei ofynion cytundebol, ac rwy’n gwybod ei fod wedi cynnal adolygiad o'r cypyrddau yr oedd yn eu cynnig yn flaenorol i weld a ellir cynyddu’r capasiti ar hynny. Ac os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf eto am gwpwrdd 16, sef yr un yr wyf yn cymryd yn ganiataol yr ydych yn siarad amdano—mae’r Aelod hefyd yn ohebydd toreithiog —rwy’n hapus i gael golwg ar hynny gydag ef eto yn ein cyfarfodydd chwarterol .
O ran contract Airband, ie, yn hollol, byddwn yn ymestyn y marchnata i sicrhau bod busnesau yn ymwybodol ac ar gael a'r holl bethau a grybwyllais wrth David Rowlands yn gynharach, er mwyn iddynt ddeall yr hyn y gall y manteisio ei gael atynt ; byddwn yn gwneud hynny.
Ni allaf warantu mewn gwirionedd yr union funud hon na fydd unrhyw safleoedd diwydiannol yn cael eu hepgor, ond rydym, fel y dywedais, yn edrych ar adolygiad marchnad agored arall yn yr hydref, a dyna fydd y gyfran olaf. Felly, os oes unrhyw rai wedi eu hepgor allan yna, ac rwy’n gobeithio nad oes, byddan nhw'n cael eu cynnwys yn yr adolygiad marchnad agored olaf hwnnw.