8. 7. Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb — Cynnydd a Heriau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 5:27, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yng Nghymru ar drechu troseddau casineb a'r heriau presennol.

Atgoffaf yr Aelodau fy mod wedi cyhoeddi diweddariad blynyddol yn 2016-17 a chynllun cyflawni ym mis Gorffennaf sy'n amlygu'r camau ar draws y Llywodraeth.

Hoffwn droi at y gwelliant ar yr adeg hon. Rwy’n hapus i Aelodau nodi’r prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan. Bydd y ddadl hon heddiw yn dangos sut yr ydym ni wedi defnyddio'r argymhellion allweddol o’r adroddiad hwn a gwaith ymchwil cysylltiedig arall i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, a chynyddu hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am droseddau casineb. Mae hyn yn wir, er enghraifft, mewn cysylltiad â dulliau adferol ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Er bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater sydd heb ei ddatganoli, mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, sy'n rheoli ein canolfan cenedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, wrthi'n gweithio gyda'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol i greu rhaglen cyfiawnder adferol ac addysg troseddau casineb ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Felly, rwy’n cefnogi'r gwelliant a osodir heddiw.

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb. Mae'n gyfnod allweddol i'n partneriaid yn y trydydd sector a'r pedwar heddlu. Rwyf unwaith eto wedi darparu cyllid i'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu i gefnogi gweithgareddau yn ystod yr wythnos, gyda phwyslais ar godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu cymunedol ledled Cymru.

Yn 2014, lansiwyd ‘Mynd i'r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’, sy'n nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i newid gelyniaeth a rhagfarn ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. Mae ein fframwaith yn cynnwys amcanion ar atal, cefnogi a gwella’r ymateb amlasiantaeth. Cyhoeddais gynllun cyflenwi wedi’i ddiweddaru, fel y dywedais, ym mis Gorffennaf. Ers 2014, rydym wedi darparu cyllid i Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i weithredu’r ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, ac rydw i wedi cytuno'n ddiweddar i ariannu canolfan adrodd cenedlaethol am dair blynedd arall. Mae'r gwasanaeth hwn, sydd allan i dendr ar hyn o bryd, yn hanfodol er mwyn darparu eiriolaeth a chefnogaeth annibynnol i ddioddefwyr.

Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gydag ystod o asiantaethau cyfiawnder troseddol drwy'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, a’n grŵp cynghori annibynnol, sy'n helpu i fonitro cynnydd o lawr gwlad i fyny.

Felly, pa gynnydd yr ydym ni wedi'i wneud? Rydym ni wedi gweld cynnydd o 20 y cant mewn adroddiadau am droseddau casineb yn 2015-16 a gellir priodoli hyn i raddau helaeth i fwy o ymwybyddiaeth, hyder ymysg dioddefwyr a chofnodi mwy cywir. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod hyd at 50 y cant o ddioddefwyr yn dal i beidio ag adrodd, felly mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau dioddefwyr ei bod yn bwysig ac yn werth chweil i adrodd am yr hyn y maent wedi ei ddioddef.

Rydym wedi cymryd camau anferth a gallwn fod yn falch iawn bod Cymru yn arwain y ffordd, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod rhan o'r cynnydd yn yr achosion a adroddwyd yn adlewyrchu twf sydyn iawn iawn mewn troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE, na'r realiti bod rhai grwpiau yn ein cymunedau yn fwy ofnus yn dilyn y bleidlais honno. Mae heriau sylweddol o'n blaenau i dawelu meddwl y mwyafrif a herio’r ychydig sydd am annog casineb. Rydym yn barod ar gyfer yr heriau hynny. Mae'r ganolfan adrodd genedlaethol wedi darparu hyfforddiant troseddau casineb i staff rheng flaen a phartneriaid cymunedol allweddol. Mae cyfanswm o 2,390 o bobl wedi elwa ar yr hyfforddiant hwn.

Mae'n rhaid i ni wrando ar y pryderon y mae cymunedau wedi eu lleisio yn dilyn y refferendwm ac mae’n rhaid i ni hefyd fod yn glir iawn iawn nad yw’r bleidlais—ac ni fydd hi—yn rhoi unrhyw sail dderbyniol i gasineb neu gam-drin tuag at bobl o leiafrifoedd ethnig a gwladolion nad ydynt yn Brydeinig. Mae llawer o bobl wedi dweud eu bod wedi byw yng Nghymru ers cenhedlaeth, ond wedi profi casineb am y tro cyntaf yn ystod y misoedd diwethaf; ni fydd hyn yn cael ei oddef. Rwyf wedi siarad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i fonitro a chefnogi’r sefyllfa a'r dioddefwyr.

Fel Aelodau o'r Cynulliad, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl ledled ein cymunedau ac etholaethau ac yn gwrando arnynt. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi i bobl adrodd am droseddau. Mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i droseddau casineb sy’n seiliedig ar amrywiaeth o nodweddion, gan gynnwys anabledd. Er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi'i wneud, er enghraifft ynghylch y Gemau Paralympaidd, mae pobl anabl yn dal i gael eu gwaradwyddo ac yn dioddef cam-driniaeth a chasineb. Er ein bod wedi gweld bod pethau’n gwella, gan gynnwys cynnydd yn y niferoedd sy’n adrodd, mae'n rhaid i ni barhau i gryfhau’r sefydliadau a’r cymunedau anabledd ledled Cymru, a chreu cysylltiadau â nhw.

Yn yr un modd, mae angen i ni fod yn ymwybodol o droseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a chadw pwyslais clir ar hynny. Yn wir, ledled Cymru, troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol oedd y troseddau casineb a gofnodwyd amlaf ond un. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â phob math o homoffobia yn ein hysgolion, yn y gweithle ac yn ein cymunedau. Yng Nghymru, roedd y lefelau adrodd ar eu hisaf ar gyfer troseddau casineb trawsrywiol yn ystod 2015 a 2016, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hyn drwy ein cynllun gweithredu trawsrywiol a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru.

Mae'n amlwg bod addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â chasineb. Mae angen amgylchedd dysgu cynhwysol i blant a phobl ifanc sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, ac yn datblygu goddefgarwch a dealltwriaeth. Pan fydd achosion yn digwydd, mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch eu trefniadau i herio geiriau ac ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys hiliaeth, a chefnogi'r plant dan sylw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ers 2013 i ddatblygu adnoddau i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr i fynd i'r afael â hiliaeth yn y sector addysg. Rydym wedi cymeradwyo gwaith pellach a fydd yn helpu arfogi a grymuso ein hathrawon â’r hyder i fynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu yn ein hystafelloedd dosbarth.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan sylweddol ym mywydau’r rhan fwyaf ohonom, ac yn y maes hwn ceir heriau sylweddol y mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i’w hwynebu. Gallwn weld bob dydd sut mae'r cyfryngau a rhwydweithiau cymdeithasol yn effeithio ar ein barn ar y byd. Mae’r ymatebion i'r digwyddiadau diweddar yn y byd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n mynegi anoddefgarwch hiliol a chrefyddol ar-lein. Mae hyn yn gwbl annerbyniol a byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i'r afael ag ef. Yr wythnos hon, rydym yn cyhoeddi canllawiau ar droseddau casineb ar-lein ar gyfer ymarferwyr, y cyhoedd a phobl ifanc.

Edrychaf ymlaen at y sylwadau y bydd yr Aelodau yn eu nodi heddiw ar y diwrnod pwysig iawn hwn, sy’n nodi wythnos troseddau casineb.