8. 7. Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb — Cynnydd a Heriau

– Senedd Cymru ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:27, 11 Hydref 2016

Rydym ni’n symud ymlaen i eitem 7, y ddadl ar fynd i’r afael â throseddau casineb, ac i wneud y cynnig, yr Ysgrifennydd Cabinet—Carl Sargeant.

Cynnig NDM6113 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb.

2. Cydnabod, yn sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau casineb.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 5:27, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yng Nghymru ar drechu troseddau casineb a'r heriau presennol.

Atgoffaf yr Aelodau fy mod wedi cyhoeddi diweddariad blynyddol yn 2016-17 a chynllun cyflawni ym mis Gorffennaf sy'n amlygu'r camau ar draws y Llywodraeth.

Hoffwn droi at y gwelliant ar yr adeg hon. Rwy’n hapus i Aelodau nodi’r prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan. Bydd y ddadl hon heddiw yn dangos sut yr ydym ni wedi defnyddio'r argymhellion allweddol o’r adroddiad hwn a gwaith ymchwil cysylltiedig arall i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, a chynyddu hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am droseddau casineb. Mae hyn yn wir, er enghraifft, mewn cysylltiad â dulliau adferol ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Er bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater sydd heb ei ddatganoli, mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, sy'n rheoli ein canolfan cenedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, wrthi'n gweithio gyda'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol i greu rhaglen cyfiawnder adferol ac addysg troseddau casineb ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Felly, rwy’n cefnogi'r gwelliant a osodir heddiw.

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb. Mae'n gyfnod allweddol i'n partneriaid yn y trydydd sector a'r pedwar heddlu. Rwyf unwaith eto wedi darparu cyllid i'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu i gefnogi gweithgareddau yn ystod yr wythnos, gyda phwyslais ar godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu cymunedol ledled Cymru.

Yn 2014, lansiwyd ‘Mynd i'r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’, sy'n nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i newid gelyniaeth a rhagfarn ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. Mae ein fframwaith yn cynnwys amcanion ar atal, cefnogi a gwella’r ymateb amlasiantaeth. Cyhoeddais gynllun cyflenwi wedi’i ddiweddaru, fel y dywedais, ym mis Gorffennaf. Ers 2014, rydym wedi darparu cyllid i Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i weithredu’r ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, ac rydw i wedi cytuno'n ddiweddar i ariannu canolfan adrodd cenedlaethol am dair blynedd arall. Mae'r gwasanaeth hwn, sydd allan i dendr ar hyn o bryd, yn hanfodol er mwyn darparu eiriolaeth a chefnogaeth annibynnol i ddioddefwyr.

Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gydag ystod o asiantaethau cyfiawnder troseddol drwy'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, a’n grŵp cynghori annibynnol, sy'n helpu i fonitro cynnydd o lawr gwlad i fyny.

Felly, pa gynnydd yr ydym ni wedi'i wneud? Rydym ni wedi gweld cynnydd o 20 y cant mewn adroddiadau am droseddau casineb yn 2015-16 a gellir priodoli hyn i raddau helaeth i fwy o ymwybyddiaeth, hyder ymysg dioddefwyr a chofnodi mwy cywir. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod hyd at 50 y cant o ddioddefwyr yn dal i beidio ag adrodd, felly mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau dioddefwyr ei bod yn bwysig ac yn werth chweil i adrodd am yr hyn y maent wedi ei ddioddef.

Rydym wedi cymryd camau anferth a gallwn fod yn falch iawn bod Cymru yn arwain y ffordd, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod rhan o'r cynnydd yn yr achosion a adroddwyd yn adlewyrchu twf sydyn iawn iawn mewn troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE, na'r realiti bod rhai grwpiau yn ein cymunedau yn fwy ofnus yn dilyn y bleidlais honno. Mae heriau sylweddol o'n blaenau i dawelu meddwl y mwyafrif a herio’r ychydig sydd am annog casineb. Rydym yn barod ar gyfer yr heriau hynny. Mae'r ganolfan adrodd genedlaethol wedi darparu hyfforddiant troseddau casineb i staff rheng flaen a phartneriaid cymunedol allweddol. Mae cyfanswm o 2,390 o bobl wedi elwa ar yr hyfforddiant hwn.

Mae'n rhaid i ni wrando ar y pryderon y mae cymunedau wedi eu lleisio yn dilyn y refferendwm ac mae’n rhaid i ni hefyd fod yn glir iawn iawn nad yw’r bleidlais—ac ni fydd hi—yn rhoi unrhyw sail dderbyniol i gasineb neu gam-drin tuag at bobl o leiafrifoedd ethnig a gwladolion nad ydynt yn Brydeinig. Mae llawer o bobl wedi dweud eu bod wedi byw yng Nghymru ers cenhedlaeth, ond wedi profi casineb am y tro cyntaf yn ystod y misoedd diwethaf; ni fydd hyn yn cael ei oddef. Rwyf wedi siarad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i fonitro a chefnogi’r sefyllfa a'r dioddefwyr.

Fel Aelodau o'r Cynulliad, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl ledled ein cymunedau ac etholaethau ac yn gwrando arnynt. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi i bobl adrodd am droseddau. Mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i droseddau casineb sy’n seiliedig ar amrywiaeth o nodweddion, gan gynnwys anabledd. Er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi'i wneud, er enghraifft ynghylch y Gemau Paralympaidd, mae pobl anabl yn dal i gael eu gwaradwyddo ac yn dioddef cam-driniaeth a chasineb. Er ein bod wedi gweld bod pethau’n gwella, gan gynnwys cynnydd yn y niferoedd sy’n adrodd, mae'n rhaid i ni barhau i gryfhau’r sefydliadau a’r cymunedau anabledd ledled Cymru, a chreu cysylltiadau â nhw.

Yn yr un modd, mae angen i ni fod yn ymwybodol o droseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a chadw pwyslais clir ar hynny. Yn wir, ledled Cymru, troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol oedd y troseddau casineb a gofnodwyd amlaf ond un. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â phob math o homoffobia yn ein hysgolion, yn y gweithle ac yn ein cymunedau. Yng Nghymru, roedd y lefelau adrodd ar eu hisaf ar gyfer troseddau casineb trawsrywiol yn ystod 2015 a 2016, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hyn drwy ein cynllun gweithredu trawsrywiol a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru.

Mae'n amlwg bod addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â chasineb. Mae angen amgylchedd dysgu cynhwysol i blant a phobl ifanc sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, ac yn datblygu goddefgarwch a dealltwriaeth. Pan fydd achosion yn digwydd, mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch eu trefniadau i herio geiriau ac ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys hiliaeth, a chefnogi'r plant dan sylw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ers 2013 i ddatblygu adnoddau i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr i fynd i'r afael â hiliaeth yn y sector addysg. Rydym wedi cymeradwyo gwaith pellach a fydd yn helpu arfogi a grymuso ein hathrawon â’r hyder i fynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu yn ein hystafelloedd dosbarth.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan sylweddol ym mywydau’r rhan fwyaf ohonom, ac yn y maes hwn ceir heriau sylweddol y mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i’w hwynebu. Gallwn weld bob dydd sut mae'r cyfryngau a rhwydweithiau cymdeithasol yn effeithio ar ein barn ar y byd. Mae’r ymatebion i'r digwyddiadau diweddar yn y byd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n mynegi anoddefgarwch hiliol a chrefyddol ar-lein. Mae hyn yn gwbl annerbyniol a byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i'r afael ag ef. Yr wythnos hon, rydym yn cyhoeddi canllawiau ar droseddau casineb ar-lein ar gyfer ymarferwyr, y cyhoedd a phobl ifanc.

Edrychaf ymlaen at y sylwadau y bydd yr Aelodau yn eu nodi heddiw ar y diwrnod pwysig iawn hwn, sy’n nodi wythnos troseddau casineb.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:34, 11 Hydref 2016

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys:

a) bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r peth iawn i'w wneud; a

b) dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:34, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Fel y mae Heddlu Gogledd Cymru yn nodi, achos o drosedd casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr o’r farn ei fod wedi'i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Er bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi dweud bod nifer y troseddau casineb a gofnodwyd wedi cynyddu yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, nid yw’r broblem hon yn unigryw i'r cyfnod ar ôl refferendwm yr UE. Bu ychydig o ostyngiad yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan Heddlu De Cymru ar gyfer y pythefnos hyd at ddiwedd mis Mehefin, ond cynyddodd ychydig yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf, o’i chymharu â'r un wythnosau yn 2015. Cynyddodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru fwy nag 20 y cant yn ystod 2014-15, a chafodd bron i 75 y cant ohonynt eu dosbarthu yn droseddau casineb hiliol—cynnydd o 19 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ar yr adeg honno, dywedodd ymgyrchwyr bod llawer o'r cynnydd wedi digwydd o ganlyniad i welliannau yn y cyfraddau adrodd a chymunedau yn teimlo'n fwy cadarnhaol am ddod ymlaen i adrodd am ddigwyddiadau, fel y dywedodd y Gweinidog.

Dylid annog pobl i roi gwybod am droseddau casineb, a dyna pam y mae ein gwelliant 1 yn nodi argymhellion allweddol y prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan y mae fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb yn seiliedig arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

angen gwneud mwy i gynyddu hyder dioddefwyr a thystion i adrodd am ddigwyddiadau casineb ac i hybu’r farn mai adrodd am gasineb yw'r "peth cywir i'w wneud".

Mae angen gwneud mwy. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod dioddefwyr yn teimlo bod achosion yn rhy ddibwys i roi gwybod amdanynt neu nad oedd yr heddlu yn gallu gwneud unrhyw beth, ac mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth sicrhau bod dulliau adrodd trydydd parti hygyrch ar waith ar gyfer dioddefwyr nad ydynt yn dymuno adrodd yn uniongyrchol i'r heddlu.

Fel y dywedodd y Gweinidog, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb swyddogol i Gymru. Roeddwn i’n bresennol hefyd yn lansiad canolfan gymorth dioddefwyr gogledd Cymru y llynedd—partneriaeth rhwng Cymorth i Ddioddefwyr, comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a gwasanaethau lleol y trydydd sector, sy’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr ar gyfer pobl sydd wedi dioddef troseddau o bob math. Mae ganddynt weithiwr achos iechyd meddwl a llesiant a gweithiwr achos troseddau casineb penodedig. Mae eu harwyddair yn datgan y byddant yn sicrhau y bydd anghenion dioddefwyr wrth wraidd popeth a wnânt.

Gwnes i hefyd noddi digwyddiad lansio Rainbow Bridge yma yn adeilad y Pierhead y llynedd, pan gafodd Cymorth i Ddioddefwyr ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr i redeg gwasanaeth cam-drin domestig arbenigol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a/neu drawsrywiol. Gan ddyfynnu’r prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan, mae ein gwelliant hefyd yn datgan y

'dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl sy’n cyflawni troseddau casineb yn cael eu trin yn effeithiol a dylai fod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.'

Mae'n parhau: mae’r ymchwil yn dangos

'mai awydd pennaf dioddefwyr yw i'r digwyddiadau casineb beidio â digwydd iddynt.’

Maen nhw hefyd yn dymuno i’r cosbau fod yn berthnasol i'r drosedd a gyflawnwyd ac i’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd gydnabod effaith ei weithredoedd. Pwysleisiodd llawer o'r ymatebwyr bwysigrwydd addysg, gan nodi y dylai dulliau adferol gael eu defnyddio yn fwy eang a chyson. Mae'n bryder, felly, mae'n dweud, i ganfod mai ychydig iawn o arfer adferol a weithredir yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod problem gynyddol o bobl hŷn yn cael eu targedu'n benodol gan droseddwyr oherwydd y tybir eu bod yn agored i niwed. Er gwaethaf hyn, maent yn dweud, mae bwlch yn parhau i fod yn y gyfraith nad yw'n cydnabod bod y troseddau hyn, a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran, yn droseddau casineb, ond mae troseddau a gyflawnir yn erbyn rhywun oherwydd ei anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd, cred neu gyfeiriadedd rhywiol yn cael eu cydnabod mewn deddfwriaeth yn droseddau casineb oherwydd eu ffactorau ysgogol ac, o ganlyniad i hynny ystyrir cosbau ychwanegol ar eu cyfer.

Mae troseddau casineb yn drosedd ddifrifol a all gael effeithiau dinistriol sy’n para am amser hir ar unigolion a chymunedau ledled Cymru. Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb Cenedlaethol, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â throseddau casineb drwy godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw troseddau casineb a sut i ymateb iddynt, gan annog pobl i roi gwybod i’r heddlu amdanynt a hybu gwasanaethau ac adnoddau cymorth lleol. Fel y mae Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yn nodi, mae'n credu mewn creu

‘cymdeithas barchus, heddychlon ac iach drwy ddeall y diwylliannau amrywiol sy'n bodoli yng Nghymru heddiw’.

Ac, fel y dywedodd y Elie Wiesel, a oroesodd yr holocost,

‘fe wnes i dyngu i beidio byth â bod yn dawel pryd bynnag... y mae bodau dynol yn wynebu dioddefaint ac yn cael eu cywilyddu. Mae'n rhaid i ni gymryd ochrau bob amser. Mae niwtraliaeth yn helpu'r gormeswr, byth y dioddefwr. Mae distawrwydd yn annog y poenydiwr, byth y sawl sy’n cael ei boenydio.’

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 5:39, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y ddadl hon heddiw. Mae Plaid Cymru yn amlwg yn llwyr wrthwynebu troseddau casineb, a’r hyn yr hoffwn i ei ddweud ar y dechrau yw fy mod yn credu bod targed troseddau casineb yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth ac o gymuned i gymuned. Rwy'n dweud hyn am fod fy mam yn dod o Belfast, o ogledd Iwerddon, ac rwy’n cofio’n bendant, pan oeddem yn cerdded i lawr y stryd—yn anffodus, mewn cymuned yn y Cymoedd, ond dydw i ddim yn brandio pawb y ffordd honno—a daeth gwraig ati a’i chlywed yn siarad a dweud, ‘Pam nad ewch chi adref?’ Dywedodd fy mam, ‘Wel, hwn yw fy nghartref, a does gen i unman arall i fynd’. Felly, rwy’n credu weithiau—rwy’n cofio hynny a dim ond tua saith mlwydd oed oeddwn i—mae’r pethau yr ydych yn eu cofio â modd amlwg o siapio eich bywyd. Dyna pam rwy’n credu ei bod mor bwysig, hyd yn oed os oes pobl sy'n dod i'n gwlad am wahanol resymau, y dylem bob amser ddechrau o safbwynt o oddefgarwch. Mae gan bawb eu straeon eu hunain i'w hadrodd. Mae gan bawb eu cefndiroedd eu hunain i’w sefyllfaoedd eu hunain, waeth beth fo'u hethnigrwydd, eu rhywioldeb neu eu rhyw. Felly, rwy’n credu weithiau, yn yr holl ddadl hon, ie, efallai bod yna bobl sy'n dod yma am y rhesymau anghywir, ond nid ydym yn gwybod hynny hyd nes y byddwn yn siarad â nhw mewn difrif calon. Rwy’n credu bod llawer o bobl—y cyfryngau a phleidiau gwleidyddol—yn brandio ethnigau neu grwpiau o bobl penodol—heb hyd yn oed ystyried y boenedigaeth y maent wedi’i dioddef i gyrraedd y wlad hon yn y lle cyntaf.

Rydym ni i gyd yn gwybod bod troseddau casineb wedi cynyddu o ganlyniad i Brexit. Nid wyf yn gwybod a yw'n uniongyrchol gysylltiedig neu a oedd yn rhywbeth a wnaeth i bobl wedyn feddwl ei bod yn dderbyniol i arddangos rhai mathau o ymddygiad ymfflamychol. Pan gawsom y briff cymunedau a diwylliant gydag amryw sefydliadau yn ddiweddar, clywsom pobl yn dweud ei bod yn mynd yn waeth yn ein hysgolion, lle mae plant eraill yn dweud, oherwydd lliw eu croen, na ddylent fod yn bresennol yn amgylchedd yr ysgol bellach. Rwy'n credu bod hynny'n peri pryder mawr iawn, os ystyrir bod y math hwn o agwedd yn dderbyniol.

Y penwythnos diwethaf, cawsom yr ymgyrch #NiYwCymru yn y cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn dangos awydd i frwydro yn erbyn y math hwn o elyniaeth. Mae pobl eisiau byw mewn cymunedau cryf, hapus a chynhwysol. Mae'r egwyddor o drin pawb â pharch, waeth pwy ydynt neu beth yw eu cefndir, o dan fygythiad, ac mae angen inni amddiffyn hynny.

Gwyddom fod adroddiad Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai'r cynnydd mewn troseddau casineb a gofnodir gael ei weld fel arwydd cadarnhaol, yn debyg iawn, o bosibl, i bobl yn adrodd am drais yn y cartref, sef bod pobl yn dod ymlaen i roi gwybod i’r heddlu am hynny mwy oherwydd eu bod yn teimlo eu bod wedi'n grymuso mwy i allu gwneud hynny. Felly, gallai hynny fod yn ddangosydd da, ac eto gallai ddangos hefyd bod mwy o broblemau yn ein cymunedau y mae angen gwirioneddol i ni fynd i'r afael â nhw. Felly, byddwn yn galw am ymagwedd fwy synhwyrol a rhesymegol i'r ddadl gyhoeddus ar fewnfudo, yn hytrach na chodi bwganod, sy'n achosi rhaniadau yn ein cymunedau.

Mae angen i ni gael trafodaeth wybodus. Efallai y bydd pobl o wahanol bleidiau gwleidyddol sydd mor euog â’i gilydd yn hyn i gyd. Honnodd Rachel Reeves yng nghynhadledd flynyddol ei phlaid ym mis Medi y gallai tensiynau ynglŷn â mewnfudo ffrwydro yn derfysgoedd os nad yw'r mater yn cael ei reoli. Mae defnyddio'r gair ‘terfysgoedd’—mae'n air eithaf cryf pan feddyliwch chi am y modd y gallai hyn effeithio ar ein cymunedau.

Mae angen i ni fynd i'r afael ag ofnau pobl yn ein cymunedau â chamau ymarferol, fel deddfwriaeth i atal cyflogwyr rhag talu cyflogau sy’n rhy isel i’r gweithlu domestig, ac nid â rhethreg ddi-hid. Mae llawer o bryderon pobl yn deillio o broblemau a achoswyd gan agenda cyni dinistriol Llywodraeth Dorïaidd y DU. Yn hytrach na chydnabod hyn a dwyn y Torïaid i gyfrif, rydym yn gweld, unwaith eto, cymunedau yn troi yn erbyn cymunedau eraill ac yna'n cynyddu’r ofn hwnnw yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Nid yw wedi bod o fudd—. Gwyliais 'Question Time' neithiwr. Doeddwn i ddim yma i'w weld yn wreiddiol, ddydd Iau. Rwyf o’r farn bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid yn unig yn ymosod ar ein plaid ein hun ond yn gwyrdroi hanes drwy bardduo ac ensynio, hefyd yn dangos gwleidyddion mewn modd negyddol iawn. Credaf fod angen iddo gyfiawnhau yr hyn a ddywedodd, ac os yw'n cysylltu plaid wleidyddol â'r hyn a ddywedodd ar y rhaglen honno, yna mae angen iddo gyfiawnhau pam a sut, a rhoi tystiolaeth i ni o ran sut y daeth i'r casgliad hwnnw.

Rydym ni i gyd yn awyddus i gael ein trin â pharch ymysg ei gilydd yn y lle hwn. Rydym i gyd am i hynny ddigwydd. Ie, byddwn ni’n dadlau a thrafod, ond gallwn fynd y tu allan i'r Siambr hon a gallwn siarad â'n gilydd mewn modd sifil. Rwy’n credu weithiau, os ydym yn ystyried sut y byddem yn hoffi cael eu trin fel bodau dynol, yna efallai y gallwn fframio ein dadl wleidyddol mewn ffordd fwy cadarnhaol ac adeiladol.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:44, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r cynnig penodol hwn, sy’n amserol iawn yn fy marn i, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni yr wythnos hon? Mae'n siŵr y bydd cyfran dda o'r hyn yr ydym yn mynd i’w glywed heddiw yn gysylltiedig â throseddau casineb ar ôl Brexit. Rydym wedi clywed rhywfaint o hynny yn barod. Ond ni ddylem anghofio bod troseddau casineb yn cynnwys ymosodiadau—fel yr ydym eisoes wedi’i glywed—yn seiliedig ar ryw, homoffobia, anabledd a rhywedd. Fel y mae ffigurau a thystiolaeth anecdotaidd yn dangos, nid yn unig y mae cynnydd mewn troseddau casineb hiliol, ond yn yr holl feysydd eraill hyn hefyd. Er yr awgrymwyd y gallai Brexit fod yn gyfrifol am hyn, rwy’n credu ei bod yn ormod o gyd-ddigwyddiad ein bod ni, ar ôl Brexit, wedi gweld cynnydd o'r fath mewn meysydd eraill. Mae bron fel pe bai Brexit ei hun wedi rhoi’r hawl i bobl—wel, rhai pobl—fynegi eu rhagfarnau ffiaidd, a chyfeirio eu casineb at unrhyw un y maent yn ei ystyried yn wahanol iddyn nhw eu hunain.

Lywydd, heddiw, roeddwn i eisiau ymdrin yn benodol ag ymosodiadau ar bobl anabl. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud, roedd y ffigurau yn dangos y bu cynnydd o 20 y cant yn yr holl droseddau casineb, a bod 9 y cant yn ymwneud ag anabledd, yn ystod 2014-15. Ond yr hyn sy’n peri mwy o bryder i mi yw'r awgrym na chaiff o leiaf 50 y cant o'r holl droseddau casineb eu hadrodd o gwbl. Byddaf yn synnu os na fydd ffigurau 2015-16 yr ydym ar fin eu gweld—byddant yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon—yn dangos bod y ffigur hwnnw wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'r sefyllfa ar ôl Brexit.

Ond wrth gyfeirio at y cynnydd mewn achosion o droseddau casineb a adroddwyd sy'n gysylltiedig ag anabledd, dylem gofio edrych y tu ôl i'r ffigurau bob amser. Fel y dywedwyd, gallai’r cynnydd mewn achosion a adroddwyd, wrth gwrs, olygu bod gan fwy o bobl yr hyder i roi gwybod am droseddau o'r fath, gan wybod y byddant yn cael eu credu a'u cefnogi, ac y bydd awdurdodau’n cymryd camau, â’r egni priodol, yn erbyn y tramgwyddwr. Felly, efallai ei bod yn fwy arwyddocaol i gael dadansoddiad o nifer yr erlyniadau dros yr un cyfnod, ac nid oes gennym yr wybodaeth honno ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae perygl bob amser wrth ganolbwyntio ar ystadegau yn unig. Ni ddylem byth golli golwg ar y ffaith bod dioddefwyr, ar gyfer pob achos o droseddau casineb sy'n gysylltiedig ag anabledd, pa un a yw’n cael ei adrodd i’r heddlu ai peidio, a pha un a oes erlyniad o ganlyniad i hynny ai peidio,—dioddefwyr sydd eisoes o bosibl ymhlith y bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, mae'n rhaid i ni bob amser fod yn ymwybodol o'u hanghenion a’r modd gorau i ni, fel cymdeithas, allu eu cefnogi. Er mwyn dechrau mynd i'r afael â hyn, mae'n rhaid i ni gael strategaeth atal sydd wedi’i datblygu'n llawn. Mae’n rhaid i addysg fod yn rhan o hynny, fel y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio ato, ac addygu nid dim ond plant, ond y gymdeithas gyfan. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig yw bod pawb yn gwerthfawrogi na ddylid dim ond derbyn amrywiaeth, dylid ei groesawu a'i feithrin. Am y rheswm hwn, Lywydd, rwy’n croesawu cynllun cyflawni fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru. Rwy'n arbennig o falch o weld mentrau penodol wedi’u nodi yn y cynllun cyflawni ym meysydd anabledd: y grant cydraddoldeb a chynhwysiant sy’n cefnogi gwaith theatr Taking Flight gyda phobl ifanc; y gwaith gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i recriwtio a hyfforddi mwy o hyfforddwyr ac arweinwyr sy'n anabl; cefnogaeth i’r grŵp troseddau casineb anabledd er mwyn iddynt weithio gyda chymunedau i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb; a sicrhau bod dulliau adrodd hyblyg a hygyrch ar gyfer rhoi gwybod am droseddau casineb.

I gloi, gydweithwyr, a gaf i eich annog chi nid yn unig i gefnogi'r cynnig hwn, ond a gaf i ofyn i bob un ohonoch, fel Aelodau etholedig y Cynulliad hwn, sicrhau bod darparu’r cynllun cyflawni arloesol a blaengar hwn yn realiti yng Nghymru benbaladr?

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 5:49, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu mesurau effeithiol o fynd i'r afael â throseddau casineb a rhagfarn o bob math. Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n seiliedig ar ragfarn a chulni. Rwyf bob amser wedi dilyn yr egwyddor y dylech fyw yn y modd yr ydych yn dewis, a chredu’r hyn a fynnwch ar yr amod nad ydych yn niweidio unrhyw un. Yn anffodus, mae llawer o bobl nad ydynt yn dilyn yr egwyddor honno. Mae yna bobl sydd eisiau cael gwared ar ymddygiadau y maent yn eu hystyried yn anarferol, sydd am gael gwared ar bobl y maent yn eu hystyried yn wahanol, sy'n awyddus i dawelu’r rhai hynny sydd â gwahanol gredoau neu safbwyntiau gwleidyddol, a byddant yn defnyddio trais a brawychu i wneud hynny. Ceir continwwm o ragfarn, gydag anwybodaeth ar un pen a throseddau casineb ar y pen arall. Mae pobl ragfarnllyd a chiaidd yn eistedd ar y dde a’r chwith o wleidyddiaeth. Rhagfarn a ddywedodd bod pleidleisio ‘gadael’ yn ymwneud ag anwybodaeth, diffyg addysg ac ofn, pan oedd mewn gwirionedd yn ymwneud â phobl yn deall nad oedd yr UE yn gweithio ar eu cyfer nhw. Rydym ni yn y gogledd-ddwyrain wedi gweld sut y mae’r Blaid Lafur leol yn cynnal ei hun ac yn rheoli pobl giaidd mewn cyfrif etholiadol. Mae rhagfarn yn erbyn y Saeson neu bobl sy'n byw yn Lloegr yr un mor gas â rhagfarn yn erbyn unrhyw fewnfudwr sy'n dod i Gymru.

Fel gydag ystadegau troseddau eraill, nid yw cynnydd yn nifer y troseddau casineb yr adroddir amdanynt o reidrwydd yn arwydd bod mwy o'r troseddau hynny yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Mae cynnydd mewn troseddau a gofnodwyd felly yn fwy o brawf o effeithiolrwydd y peiriant cyhoeddusrwydd ynghylch troseddau casineb na thystiolaeth bod ein cymdeithas yn fwy anoddefgar. Mae'r ystadegau a wnaeth esgor ar y ddadl hon ymhell o fod yn arwydd o'r hyn sy'n digwydd ar y strydoedd ac mewn mannau eraill. Mae angen ymchwiliad go iawn arnom i nifer yr achosion gwirioneddol o droseddau casineb yn ein cymdeithas, a pheidio â defnyddio ryw ddata annibynadwy oherwydd ei fod yn gweddu agendâu gwleidyddol rhai pobl.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:50, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, yn enwedig yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth hon, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ac am gydnabod bod ffordd bell i fynd o hyd. Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae troseddau casineb yn dal i fod yn realiti dyddiol i lawer o bobl yng Nghymru, yn difetha bywydau pobl, ac mae pobl yn byw mewn ofn o ddioddef troseddau casineb. Mae'n adlewyrchiad ofnadwy o’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, ac mae’n cwmpasu cymaint o feysydd. Heddiw, roeddwn i’n awyddus i ganolbwyntio yn arbennig ar driniaeth aelodau o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sydd yn aml iawn yn darged troseddau casineb a gwahaniaethu yma yng Nghymru. Nid yw targedu’r gymuned hon yn ddim byd newydd; mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer.

Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, gwn y bydd grŵp o bobl ifanc o'r gymuned yn y de-ddwyrain yn cyfarfod â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent i siarad am fynd i'r afael â bwlio a throseddau casineb yn erbyn y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rwy’n meddwl bod croeso mawr i hynny, er mwyn i’r materion gael eu hystyried gan y comisiynydd, oherwydd, yn anffodus, mae'r gymuned yn dioddef o wahaniaethu ac mae angen mynd i'r afael ag agweddau negyddol tuag at y gymuned hon. Mae pobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a oedd yn ymwneud â'r prosiect Teithio Ymlaen yn teimlo'n gryf iawn bod angen o hyd i hyfforddi athrawon, swyddogion yr heddlu a gweithwyr proffesiynol eraill, oherwydd eu bod yn parhau yn dargedau ar gyfer gwahaniaethu a throseddau casineb, ac maent wedi cydgasglu a chreu nifer o adnoddau i fynd i'r afael â hyn. Er enghraifft, maen nhw wedi gwneud rhai ffilmiau byrion, wedi ysgrifennu cerddi ac wedi gwneud cyflwyniadau, a fydd ar gael er mwyn hyfforddi athrawon, yr heddlu, cynghorwyr a phobl ifanc eraill.

Ac mae hynny'n fy arwain ymlaen at bwynt arall, sef pan fo troseddau casineb yn cael eu hadrodd, mae'n ymddangos bod problem yn parhau gyda'r modd yr ymdrinnir â’r troseddau hynny a sut y maent yn cael eu cofnodi. Gwnaeth prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan gydgasglu nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2011-12, ac roedd y mwyafrif helaeth o'r rhain, 82 y cant, yn droseddau casineb hiliol, ond dim ond 45 y cant o'r rheini a oedd wedi dioddef trosedd casineb a oedd o’r farn bod yr heddlu wedi rhoi ystyriaeth mor ddifrifol ag y dylent fod wedi ei rhoi i’r mater, ac mae hyn yn cyd-fynd â phrofiadau Sipsiwn a Theithwyr a oedd yn rhan o'r prosiect Teithio Ymlaen. Maen nhw o’r farn nad yw’r heddlu yn gwrando arnynt o hyd. Gwn fod hyfforddi ar waith yn yr heddlu, ond canfyddiad y bobl ifanc yw nad ydynt yn gwrando arnynt.

Rwy'n credu bod problem hefyd ynglŷn â'r modd y mae heddluoedd yn casglu ystadegau am droseddau casineb a bod y data statws ethnig yn eithaf anodd ei ddadansoddi. Felly, mae'n eithaf anodd, mewn gwirionedd, i gael dadansoddiad o nifer y troseddau casineb a gyfeirir yn benodol yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr, oherwydd eu bod wedi eu cynnwys yn y ffigurau troseddu ethnig cyffredinol. Rwy'n credu y byddai’n welliant mawr pe bai modd i ni rannu’r ffigurau hynny, oherwydd, yn enwedig gyda Sipsiwn a Theithwyr, mae angen inni wybod beth yw’r ffigurau hynny a pha mor fawr yw’r dioddefaint hyn.

Yn olaf hoffwn i, mewn gwirionedd, gloi gyda syniadau un o'r bobl ifanc o'r grŵp Teithio Ymlaen, Tyrone Price. Gofynnodd gwestiwn sy’n peri i rywun feddwl, yn fy marn i, ac rwy'n credu ei fod yn gwestiwn dilys iawn: a ydym ni wedi gwella’r modd o fynd i'r afael â hiliaeth mewn gwirionedd, neu a yw pobl yn gwneud dim ond esgus eu bod yn derbyn y cysyniad hwn o gydraddoldeb? Rwy'n credu bod hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae’r person ifanc hwn ei deimlo i’r byw, sef bod llawer o'r cynnydd a wnaed gennym tuag at gydraddoldeb, yn arwynebol neu’n symbolaidd efallai, a bod yn rhaid i ni fynd ati o ddifrif i wneud cydraddoldeb hiliol yn realiti llwyr, yn enwedig ar gyfer y bobl ifanc sy'n dioddef o ragfarn a throseddau casineb. Fel y dywedais, mae fy sylwadau heddiw yn ymwneud mewn gwirionedd â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:55, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn dymuno’n siarad yn gryno yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd yr amser i fyfyrio ar yr anoddefgarwch sydd weithiau'n bodoli yn y gymdeithas yma yng Nghymru. Gwyddom fod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru, ar y cyfan, yn bobl oddefgar iawn, ac mae ein cymunedau, ar y cyfan, yn tynnu ymlaen yn dda iawn â’i gilydd. Ond, fel mab fewnfudwr o Iwerddon, rwyf hefyd yn gwybod am y casineb sydd wedi bodoli tuag at boblogaethau llai yng Nghymru, ac yn wir yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Yn sicr, nid wyf am weld hynny'n amlygu ei hun yma ar garreg ein drws yn ein cymunedau ni.

Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog, ac yn wir Llywodraeth Cymru, yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater hwn, a'u bod wedi bod yn gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio gwneud yr hyn a allant i ymdrin â throseddau casineb a mynd i'r afael â'r achosion sy’n bodoli yma yng Nghymru.

Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf i gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, a bu modd i nifer o Aelodau'r Cynulliad fod yn bresennol hefyd. Yn y cyfarfod hwnnw clywsom rai ystadegau diddorol iawn, yn siarad am y cynnydd sydyn yn nifer y troseddau casineb a ddigwyddodd ar ôl Brexit, ac roeddem yn falch iawn o glywed bod y cynnydd sydyn yn nifer y troseddau a adroddwyd wedi gostegi mewn gwirionedd. Rwy’n gobeithio y bydd yn rhywbeth sy'n parhau i ostwng, wrth gwrs, yn y dyfodol. Ond tybed, Weinidog, yn eich ymateb i'r ddadl heddiw, p'un allwch chi efallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith y fforwm cymunedau ffydd y mae’r Prif Weinidog yn eu cynnal yn rheolaidd? Oherwydd rwy’n gwybod pa mor bwysig y mae’r fforwm hwnnw wedi bod er mwyn gwella'r berthynas rhwng gwahanol gymunedau ffydd yma yng Nghymru, ac yn wir i helpu arweinwyr y cymunedau ffydd yng Nghymru i rannu gwybodaeth â’u cymunedau ffydd am yr angen i fod yn oddefgar ac, yn wir, i wella cydberthnasau yn fwy cyffredinol. A wnewch chi hefyd ymuno â mi, Weinidog, pan fyddwch yn cloi'r ddadl, i longyfarch aelodau'r fforwm cymunedau ffydd, Cytûn, Cyngor Mwslimiaid Cymru, y Cynghrair Efengylaidd a llawer o rai eraill, sydd wedi cyfrannu at y ddealltwriaeth ragorol a’r gwaith ar y cyd ar draws y gwahanol gymunedau ffydd, sydd wedi cyflawni cymaint, mewn gwirionedd, yma yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf?

Sylwaf yn ogystal bod yr adroddiad yn sôn yn gryno am bwysigrwydd addysg grefyddol wrth helpu i gyfleu’r negeseuon hyn am oddefgarwch a dealltwriaeth o gredoau ac agweddau gwahanol bobl yn y gymdeithas i'r genhedlaeth nesaf. Rwy’n credu o ddifrif calon bod y gwaith o ailwampio'r cwricwlwm sy'n digwydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i wella addysg grefyddol er mwyn ymdrin, os mynnwch chi, ag unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg y gallai fodoli ymhlith ein pobl ifanc, yn enwedig pan fyddant wedi gweld rhai o adroddiadau yn y cyfryngau yn ystod y ddadl Brexit, a sut y gallai hynny fod wedi dylanwadu ar eu hagweddau tuag at ei gilydd. Rwyf yn credu bod gan addysg grefyddol swyddogaeth allweddol iawn wrth helpu i fynd i'r afael â throseddau casineb yn y dyfodol ar gyfer ein cenedl. Felly, tybed, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â sicrhau bod y gwaith o ddatblygu ein cwricwlwm yn cynnwys pwyslais ar droseddau casineb yn y cwricwlwm addysg grefyddol. Diolch.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:59, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy’n meddwl ei bod yn amlwg iawn—yn wir rwy’n credu y byddai pob Aelod yma, gobeithio, yn cytuno â hyn—fod camddealltwriaeth yn aml yn digwydd ac yn achosi problemau pan nad oes gennym y lefel o integreiddio y gallai fod gennym yn ein cymunedau, ac nid ydym yn ddigon effeithiol wrth ddod â gwahanol rannau o'r gymuned at ei gilydd. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, o gael fy ngeni a'm magu yn y Pil yng Nghasnewydd, cymuned amlethnig iawn, mae'n ychwanegu llawer iawn i brofiad bywyd, tyfu i fyny mewn cymuned o'r fath, oherwydd mae amrywiaeth mor fawr o ddiwylliant, cerddoriaeth, dawns, bwyd, ac mae'n wirioneddol addysgiadol a diddorol i siarad â phobl eraill am eu cefndiroedd, eu cefndiroedd teuluol a rhannau o'r byd y maent yn gwybod llawer amdanynt. Felly, rwy’n credu bod dwyn pobl at ei gilydd o wahanol rannau o'r gymuned yn cyfoethogi bywyd yn fawr, dyna yw eu barn nhw, yn gyffredinol, ond efallai na wneir digon i geisio cyflawni’r integreiddio hynny a dod â gwahanol rannau o'n cymdeithas at ei gilydd.

Pan fo gennym ddulliau effeithiol o wneud hynny, rwy’n credu y dylem eu dathlu a’u datblygu. Yn hynny o beth, hoffwn sôn am ŵyl Maendy yng Nghasnewydd, sydd ers nifer o flynyddoedd, wedi gwneud gwaith da iawn wrth ddod â gwahanol rannau o gymuned amlethnig Maendy at ei gilydd. Mae cymunedau Asiaidd sylweddol ym Maendy, llawer o newydd-ddyfodiaid o'r Undeb Ewropeaidd, dwyrain Ewrop a thu hwnt, cymunedau o India’r Gorllewin, a llawer o rai eraill. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n ychwanegol at bobl o Iwerddon—a fy mam fy hun, fel y perthynas a grybwyllwyd gan Darren Millar, a ddaeth draw i Gasnewydd o Iwerddon. Felly, mae llawer iawn o bobl o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd, ac mae Gŵyl Maendy wir yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd ac i’r integreiddio hwnnw ddigwydd.

Felly, hoffwn dalu teyrnged i drefnwyr Gŵyl Maendy. Ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, maen nhw wedi datblygu ar y digwyddiad cychwynnol. Mae gorymdaith bob blwyddyn, bob haf, ac mae gŵyl yn dilyn. Mae'n gyfuniad o gerddoriaeth, dawns, bwyd a diod, celf a diwylliant yn gyffredinol, ac mae'n llwyddiannus iawn, iawn. Wrth gwrs, nid yw'n digwydd heb lawer o waith, ac mae'r gwaith o drefnu digwyddiad y flwyddyn nesaf yn dechrau yn syth ar ôl i’r ŵyl ddod i ben, yn ystod yr haf. Felly, tybed a allai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y mae’n gweithio, nid yn unig gyda Gŵyl Maendy, ond gyda sefydliadau tebyg ar hyd a lled Cymru sy'n trefnu digwyddiadau o’r fath, fel y gellir eu datblygu ymhellach a'u gwneud yn fwy effeithiol fyth. A hoffwn wahodd y Gweinidog i Ŵyl Maendy yr haf nesaf yng Nghasnewydd. Byddwn yn falch iawn pe byddai’n derbyn y gwahoddiad hwnnw wrth iddo gyfrannu ar y ddadl hon yn nes ymlaen.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:02, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae UKIP yn cefnogi’r cynnig a'r gwelliannau, ond ar ddechrau fy nghyfraniad byr, hoffwn ymdrin â’r myth yr ydym wedi ei glywed sawl gwaith yn y ddadl heddiw ynghylch dylanwad Brexit ar nifer yr achosion o droseddau casineb. Wel, does dim pwynt mynd yn ôl dros y dadleuon ar y niferoedd yn syth ar ôl y refferendwm, oherwydd bod Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu wedi rhyddhau data ar gyfer y cyfnod ers y refferendwm, hyd at ddiwedd mis Awst. Mae Mark Hamilton—dim perthynas—prif gwnstabl cynorthwyol yn dweud,

‘Rydym wedi gweld gostyngiadau parhaus yn yr adroddiadau am droseddau casineb i heddluoedd ac mae’r adroddiadau hyn bellach wedi dychwelyd i lefelau a welwyd yn flaenorol yn 2016. Am y rheswm hwn, byddwn yn dychwelyd at ein gweithdrefnau adrodd blaenorol ac ni fyddwn bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddluoedd ddarparu diweddariadau wythnosol.’

Felly, os oedd cynnydd sydyn yn syth ar ôl y refferendwm, mae wedi diflannu.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:03, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roeddwn i'n mynd i ddweud nad ydych chi’n cyfeirio at ffigurau sy'n benodol i Gymru, rwy’n tybio. Un peth yr ydym yn ei wybod yw y bu cynnydd sydyn ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae pethau wedi arafu rhywfaint, fel y dywedais yn fy araith yn gynharach. Dyna’r wybodaeth a adroddwyd sy'n dod yn ôl atom ni. Ond, mae'n rhaid i chi dderbyn bod rhai pobl, nid llawer, wedi defnyddio sefyllfa Brexit i danio casineb rhwng cymunedau yng Nghymru, ac nid oedd hynny'n dderbyniol.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs nad yw'n dderbyniol, os digwyddodd, ond mae'r graddau y digwyddodd— [Torri ar draws.] Nid oes gennym unrhyw wybodaeth uniongyrchol; rydym yn tybio ei fod wedi digwydd. Rydych chi’n gwneud rhagdybiaethau ei fod wedi digwydd. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth uniongyrchol ynghylch yr hyn—. Yn wir, dyma'r pwynt yr oeddwn eisiau ei—[Torri ar draws.] Rwy'n ofni na allaf ildio, oherwydd nad oes llawer o amser.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Eich penderfyniad chi yw hynny, os nad ydych yn derbyn ymyriad.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:04, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf i am wneud pwynt yr wyf i o’r farn ei fod yn un pwysig, sef bod troseddau casineb, ar ba ffurf bynnag y maent yn bodoli, i’w ffieiddio ac na ddylid eu goddef ac, yn wir, y dylid eu cosbi, a’u cosbi’n ddifrifol. Ond, mae'n rhaid i ni gadw hyn mewn persbectif. Mae Prydain, a Chymru yn arbennig, yn wledydd goddefgar. Nid ydym yn rhagfarnllyd. Mae nifer y troseddau casineb a gofnodir mewn gwirionedd yn fach iawn, iawn. Mae'r ffigurau y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn adroddiad 2014-15 yn dangos cyfanswm o 2,259. Mae hynny’n 2,259 yn ormod, ond hyd yn oed os oes yna dangofnodi’n digwydd, fel yr ydym ni i gyd yn tybio sy’n digwydd, nid yw'n nifer uchel dros flwyddyn gyfan. Gwnaeth Dawn Bowden y pwynt y gallai’r cynnydd fod yn ganlyniad rhannol i fwy o ymwybyddiaeth o'r dulliau adrodd ac o'r angen i adrodd. Felly, nid wyf yn credu bod hwn yn epidemig, o bell ffordd.

Rydym wedi gweld, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, diflaniad Plaid Genedlaethol Prydain, nid yw Cynghrair Amddiffyn Lloegr ond cysgod o’r hyn oedd, ac mae fy mhlaid i, ers blynyddoedd, wedi bod â pholisi o wahardd pleidiau gwleidyddol a pheidio â chaniatáu ffoaduriaid oddi wrthynt i’n rhengoedd ni. Felly, os yw unrhyw un yn ceisio ein henllibio ni drwy ddweud ein bod yn croesawu pobl hiliol, maent i’w ffieiddio eu hunain. Yn wir, cefais fy nghyhuddo gan Joyce Watson y diwrnod o'r blaen yn y Siambr hon o sefyll ar lwyfan o gasineb. Mae hynny ynddo'i hun yn fath o drosedd casineb, am wn i, ac anoddefgarwch. Felly, rwy’n credu y dylai Aelodau ar bob ochr i'r tŷ drin ei gilydd â pharch, fel y dywedodd Bethan Jenkins yn ei sylwadau agoriadol. Yr hyn yr wyf am i’r Siambr hon ei dderbyn yw bod troseddau casineb, ie, wrth gwrs, i’w ffieiddio, ond nid yw'n epidemig ac nid yw'n edrych fel pe bai’n mynd i fod felly.

Mae'r ffigurau sy'n cael eu cofnodi yn yr adroddiad y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn dod o wefan True Vision. Nid yw pob un o'r adroddiadau yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu, oherwydd mae modd gwneud adroddiadau yn ddienw ac, felly, byddai'n amhosibl i fynd â nhw ddim pellach. Felly, mae hynny'n atgyfnerthu'r pwynt yr oeddwn i wedi dechrau ei wneud ar ddechrau fy araith. Mae hefyd yn hunanddewisol, a dyfynnaf—oherwydd dyma sy’n cyfiawnhau troseddau casineb o ran y ffigurau sy'n cael eu cofnodi:

Nid oes angen tystiolaeth o elyniaeth i ddigwyddiad neu drosedd gael ei gofnodi yn drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb... canfyddiad y dioddefwr, neu unrhyw berson arall... yw'r ffactor diffiniol... Nid oes yn rhaid i'r dioddefwr gyfiawnhau na darparu tystiolaeth o'u cred, ac ni ddylai swyddogion yr heddlu na’r staff herio’r canfyddiad hwn yn uniongyrchol.

Felly, mae'n rhaid ystyried y ffigurau sydd gennym yng ngoleuni’r rheolau hunanddewisol hynny. Mewn difrif calon, mae 1 y cant o'r ffigyrau yn cynnwys achosion o ddwyn beic, er enghraifft. Nid wyf yn gwybod beth yw lladrad beic â chymhelliad hiliol, ond rwy’n credu y dylai hynny ein hysbrydoli i fod yn ofalus wrth drin y ffigurau fel pe baent yn Ysgrythur Lân.

Mae'n wir sarhad ar y miliynau a miliynau o bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit oherwydd eu hofnau am effeithiau mewnfudo torfol rhy gyflym ar y gymdeithas i ddweud bod eu cymhellion yn rhai hiliol. Yn wir, mae’r Blaid Lafur, wrth honni hynny, yn ymosod ar eu cefnogwyr eu hunain a’u cyn-gefnogwyr, oherwydd roedd y nifer uchaf o bleidleisiau o blaid Brexit yng Nghymru, wrth gwrs, fel y gwyddom, wedi digwydd mewn mannau fel Torfaen, Merthyr, Glynebwy, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn gamgymeriad i ni i ganiatáu i'r ddadl ar droseddau casineb grwydro i gilffyrdd gwleidyddiaeth oherwydd, ydyn’, mae troseddau casineb yn rhywbeth i'w ffieiddio ac, i'r graddau y gallwn wneud hynny, i gael gwared arnynt, ond ni fyddwn yn gwneud hynny drwy sarhau pobl nad ydynt yn casáu ac nad ydynt yn bobl hiliol. Felly, mae angen i ni gadw hynny mewn persbectif.

Ydym, rydym yn cefnogi'r cynnig ac rydym yn cefnogi amcanion y Llywodraeth, ac mae'r modd pwyllog y cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon heddiw i'w ganmol. O fy rhan i a rhan fy mhlaid, byddwn yn cefnogi'r mentrau y mae'r Llywodraeth wedi eu cychwyn. Ond, os gwelwch yn dda, peidiwch â’n sarhau ni â chyhuddiadau o hiliaeth ac anoddefgarwch.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 6:08, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â throseddau casineb, a pharhau i arddel ymagwedd dim goddefgarwch, fel y dylai pob un ohonom, tuag at droseddau casineb. Mae'n briodol bod y fframwaith mynd i’r afael â throseddau a digwyddiadau casineb yn cwmpasu troseddau casineb o bob math, gan gynnwys hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd ac oedran. Ni all fod unrhyw hierarchaeth o gasineb ac mae’n rhaid i ni fod yn gwbl benderfynol wrth fynd i'r afael â’r holl droseddau o'r math hwn. Yr her i ni yw sicrhau bod y bwriadau a'r canllawiau yn y fframwaith yn trosi’n gamau gweithredu cadarnhaol a newid mewn bywyd go iawn i bobl yn ein cymunedau ledled Cymru. Mae gan bob un ohonom mewn bywyd etholedig a chyhoeddus gyfrifoldeb a dyletswydd gofal o ran sut yr ydym yn cynnal ein hunain a'r ffordd yr ydym yn dewis cyfathrebu. Mae gan yr hyn sy’n eiriau’n unig i un person y potensial i achosi poen ac, mewn rhai achosion, ysgogi casineb mewn un arall.

Cefais fy nychryn, ond yn anffodus nid fy synnu, i gael gwybod dros y penwythnos am gynnydd mewn ymosodiadau homoffobaidd ers pleidlais refferendwm yr UE ym mis Mai. Mae ffigurau a ryddhawyd gan yr elusen Galop yn dangos bod ymosodiadau homoffobaidd wedi cynyddu 147 y ymhlith y bobl a holwyd yn yr un cyfnod o dri mis yn dilyn pleidlais Brexit eleni o'i gymharu â'r un adeg y llynedd. A dim ond y bobl a holwyd yw hyn, y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. Gallai'r gwir ffigurau fod hyd yn uwch fyth—

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:10, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Mae hi'n codi'r cwestiwn o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. A fyddai hi'n cydnabod bod nifer yr achosion o droseddau casineb trawsffobaidd a adroddir yn sylweddol is na’r rhai sy’n digwydd mewn gwirionedd, sef tua 1 y cant o'r holl droseddau casineb? Ac, a fyddai hi'n cytuno bod pwyslais ar waith cymunedol rhwng sefydliadau trawsrywiol a'r heddlu, er enghraifft, partneriaeth digwyddiad Sparkle Abertawe â Heddlu De Cymru, yn gallu helpu i gefnogi pobl i adrodd am droseddau y maent wedi’u dioddef?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Yn hollol, ydw. Mae'n bwysig bod pobl drawsrywiol a’u lleisiau'n cael eu clywed wrth lunio strategaethau a gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi, a’u bod yn rhan allweddol ohonynt. Mae angen gweithredu, partneriaeth a gwyliadwriaeth barhaus gan bawb, ac mae mynd i'r afael â throseddau casineb ac ymddygiad a thosturi cynrychiolwyr gwleidyddol yn rhan annatod o hyn.

Efallai ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, ond heddiw yw Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan, ac i ddefnyddio cyfatebiaeth y mae Aelodau efallai yn fwy cyfarwydd â hi, gall dod allan, fel datganoli, fod yn broses, nid yn ddigwyddiad. I lawer ohonom, nid yw dod allan yn brofiad unigol, yn hytrach mae’n rhywbeth yr ydych yn ei wneud dro ar ôl tro, gan fod rhagdybiaeth heterorywiol yn y gymdeithas o hyd sy’n cael ei hatgyfnerthu gan ystrydebau anhyblyg a rolau rhywedd. Rydym wedi dod yn bell, ond mae dod allan yn dal i fod yn foment hynod bersonol i’r rhan fwyaf o bobl LGBT. Mae ein dewis i ddatgelu’r rhan hon o'n hunaniaeth yn cynnwys ofn am sut y bydd pobl eraill yn ymateb, ofn cael eich gwrthod, ofn rhagfarn a hyd yn oed ofn casineb. Roeddwn i’n teimlo rhywfaint o’r petruster hwn ac ychydig o ofn pan sefais am y tro cyntaf mewn etholiad, fel menyw sydd wedi dod allan. Ond roeddwn i’n ffodus; roeddwn i’n gwybod bod gen i gefnogaeth fy nheulu, ffrindiau, cydweithwyr ac ymgyrchwyr Llafur Cymru anhygoel, a gobeithiaf y gall pob person lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ddod o hyd i rwydwaith o gyfeillgarwch a chefnogaeth sy'n eu caniatáu i fod yn hwy eu hunain ac, yn ei dro, i herio arwahanrwydd a chasineb.

Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar droseddau casineb yn nodi'r camau i atal troseddau casineb ac i roi cymorth i ddioddefwyr ar draws y Llywodraeth. Yn awr, mae’n rhaid i ni i gyd weithio i sicrhau bod hyn gyfystyr â chamau gweithredu cadarnhaol mewn bywyd, ar ein strydoedd, yn ein gweithleoedd ac yn ein cymunedau.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:12, 11 Hydref 2016

Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon a groesawyd yn eang gan lawer. Mae’r llwyddiannau o ran mynd i’r afael â throseddau casineb wedi canolbwyntio ar ddull partneriaeth annatod gydag ystod o bartneriaid statudol a phartneriaid trydydd sector ledled Cymru. Mae'r dull hwn wedi talu ar ei ganfed wrth i ni fwrw ymlaen â chyflawni canlyniadau gwell i ddioddefwyr.

Rhannwyd llawer o sylwadau ar draws y Siambr yr wyf yn eu cefnogi yn gyson, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau gan lawer o Aelodau, gan gynnwys y sylwadau agoriadol gan Bethan Jenkins yn ei barn hi ar faterion lleol yr oedd hi’n ymwybodol ohonynt hefyd, sy'n digwydd yn ddyddiol, ac fel plentyn.

Mae'r pwyntiau a godwyd gan Darren Millar am y fforwm ffydd yn bwysig. Mae'r fforwm ffydd wedi ei ddefnyddio fel arf defnyddiol ac effeithiol i rannu gwahanol grefyddau a dealltwriaethau mewn ffordd resymegol â phobl a all helpu ei gilydd i ddeall anawsterau esbonio ffydd a dileu tensiynau. Mae'n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog a minnau erbyn hyn, fel cadeirydd, yn gweithio'n agos iawn â sefydliadau ledled Cymru arno. Rwyf eisoes wedi cael neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn dweud wrthym am y cwricwlwm newydd a sut y bydd ffydd yn ymddangos ynddo. Efallai y bydd yr Aelod am barhau â’r drafodaeth hon.

A gaf i ddweud, heblaw am y cyfraniadau gan Aelodau UKIP, rwy’n croesawu’n fawr iawn yr ystyriaeth gan yr Aelodau? Ond does gennyf ddim geiriau—dim geiriau—am gyfraniadau Michelle Brown a Neil Hamilton heddiw. Defnyddiodd Bethan Jenkins y dyfyniad am drin pobl eraill fel yr hoffem ni gael ein trin—yn gyfartal—a chredaf fod hynny’n bwynt pwysig y gofynnaf i’r Aelodau hynny fyfyrio arno. Wrth gwrs, mae awgrym UKIP o ‘ffigyrau amheus’, ‘Dim ond rhai ffigurau oeddent... dim ond ychydig bach o droseddau casineb... 1 y cant ... nid oes llawer o ots wedyn, nac oes?’ Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae gan y bobl hynny—

Neil Hamilton a gododd—

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:14, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Na. Mi ildiaf mewn eiliad.

[Yn parhau.] —mae gan y bobl hynny sy'n dioddef o droseddau casineb yr hawl i gydraddoldeb yma yng Nghymru. A pha un a yw'r Aelod yn byw yn Wiltshire neu le bynnag, y ffaith yw, ein bod ni yma, yn wlad groesawgar yng Nghymru— [Torri ar draws.] Cymeraf ymyriad gan yr Aelod os yw am geisio gwaethygu’r sefyllfa i’w hun.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i’n siŵr pa un a fydd gwerth gwneud, Lywydd, ond, serch hynny, dywedais yn fy araith nad yw troseddau casineb i gael eu cymeradwyo na’u goddef o gwbl ac y dylid cosbi’r rhai sy’n gyfrifol yn ddifrifol. Y cyfan y gwnes i oedd cyfeirio at y ffigyrau yn yr adroddiad, y cyfeiriodd y Gweinidog ei hun ato yn ei araith, a’u gwneud yn destun craffu ystadegol. Beth sydd o'i le ar hynny?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:15, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ie, wel rwy’n ddiolchgar am yr ymyriad gan yr Aelod. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod o'r ystadegau hyn: roedd 1,574 yn ymwneud â hil; 319 yn ymwneud â rhywioldeb; 240 ag anabledd; 90 â chrefydd; a 25 â thrawsrywedd. Dyma’r niferoedd ‘bach’ y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt o ran u gyfran fach o droseddau casineb. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod hefyd am y refferendwm, gan ei fod hefyd yn diystyru’r posibilrwydd bod y refferendwm wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar droseddau casineb. Yn wyneb y cynnydd diweddar mewn hiliaeth yn dilyn canlyniadau refferendwm yr UE, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i fynd i'r afael â’r anoddefgarwch hwn. Yn y mis yn dilyn refferendwm yr UE—ni all yr Aelod wadu’r rhain; maen nhw’n ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref—bu cynnydd o 72 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau i’r ganolfan genedlaethol ar gyfer adrodd a rhoi cymorth ar droseddau casineb a ariennir gan Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r atgyfeiriadau yn 2015. Yr unig beth cyffredin a ddigwyddodd oedd refferendwm yr UE. Ni allwch ddadlau â’r rhaglen honno.

Gan fod yr Aelod bellach yn arweinydd ar raglen UKIP, efallai yr hoffai, pan soniodd am bobl sy'n awgrymu bod UKIP yn denu pobl hiliol i’w rengoedd ac ati—efallai yr hoffai’r arweinydd yn awr gyfeirio yn ôl at adroddiad yn y cyfryngau lle mae un o'i Aelodau ef, aelod presennol, yn beio lleiafrifoedd ethnig am y problemau sbwriel a hylendid yma yng Nghaerdydd. Nawr, beth y mae’r Aelod am ei wneud ynglŷn â hynny yn ei ddatganiad ar droseddau casineb?

Gadewch i mi atgoffa Aelodau—mae hon yn ddadl bwysig i’w chael yn ystod wythnos troseddau casineb cenedlaethol, a dylem ni i gyd ddod at ein gilydd i sicrhau gwlad groesawgar i bawb. Rwy'n gobeithio y bydd Neil Hamilton a Michelle Brown yn myfyrio ar eu sylwadau heddiw ac yn ystyried eu goblygiadau ar gyfer y cymunedau ehangach y maen nhw’n eu cynrychioli yma yn awr. Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad ynglŷn â’r materion hyn yn ystod wythnos troseddau casineb ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau o bob plaid i fynd i'r afael â chasineb o bob math, ni waeth ble y mae’n digwydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 11 Hydref 2016

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 11 Hydref 2016

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd?

Cynnig NDM6113 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb.

2. Cydnabod, yn sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau casineb.

3. Yn nodi argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys:

a) bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r ‘peth iawn i'w wneud’; a

b) dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 11 Hydref 2016

A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6113 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.