Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae hi'n codi'r cwestiwn o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. A fyddai hi'n cydnabod bod nifer yr achosion o droseddau casineb trawsffobaidd a adroddir yn sylweddol is na’r rhai sy’n digwydd mewn gwirionedd, sef tua 1 y cant o'r holl droseddau casineb? Ac, a fyddai hi'n cytuno bod pwyslais ar waith cymunedol rhwng sefydliadau trawsrywiol a'r heddlu, er enghraifft, partneriaeth digwyddiad Sparkle Abertawe â Heddlu De Cymru, yn gallu helpu i gefnogi pobl i adrodd am droseddau y maent wedi’u dioddef?