Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon a groesawyd yn eang gan lawer. Mae’r llwyddiannau o ran mynd i’r afael â throseddau casineb wedi canolbwyntio ar ddull partneriaeth annatod gydag ystod o bartneriaid statudol a phartneriaid trydydd sector ledled Cymru. Mae'r dull hwn wedi talu ar ei ganfed wrth i ni fwrw ymlaen â chyflawni canlyniadau gwell i ddioddefwyr.
Rhannwyd llawer o sylwadau ar draws y Siambr yr wyf yn eu cefnogi yn gyson, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau gan lawer o Aelodau, gan gynnwys y sylwadau agoriadol gan Bethan Jenkins yn ei barn hi ar faterion lleol yr oedd hi’n ymwybodol ohonynt hefyd, sy'n digwydd yn ddyddiol, ac fel plentyn.
Mae'r pwyntiau a godwyd gan Darren Millar am y fforwm ffydd yn bwysig. Mae'r fforwm ffydd wedi ei ddefnyddio fel arf defnyddiol ac effeithiol i rannu gwahanol grefyddau a dealltwriaethau mewn ffordd resymegol â phobl a all helpu ei gilydd i ddeall anawsterau esbonio ffydd a dileu tensiynau. Mae'n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog a minnau erbyn hyn, fel cadeirydd, yn gweithio'n agos iawn â sefydliadau ledled Cymru arno. Rwyf eisoes wedi cael neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn dweud wrthym am y cwricwlwm newydd a sut y bydd ffydd yn ymddangos ynddo. Efallai y bydd yr Aelod am barhau â’r drafodaeth hon.
A gaf i ddweud, heblaw am y cyfraniadau gan Aelodau UKIP, rwy’n croesawu’n fawr iawn yr ystyriaeth gan yr Aelodau? Ond does gennyf ddim geiriau—dim geiriau—am gyfraniadau Michelle Brown a Neil Hamilton heddiw. Defnyddiodd Bethan Jenkins y dyfyniad am drin pobl eraill fel yr hoffem ni gael ein trin—yn gyfartal—a chredaf fod hynny’n bwynt pwysig y gofynnaf i’r Aelodau hynny fyfyrio arno. Wrth gwrs, mae awgrym UKIP o ‘ffigyrau amheus’, ‘Dim ond rhai ffigurau oeddent... dim ond ychydig bach o droseddau casineb... 1 y cant ... nid oes llawer o ots wedyn, nac oes?’ Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae gan y bobl hynny—