Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 11 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad a jest gofyn cwpwl o bethau iddi yn sgil yr hyn sydd wedi cael ei drafod y prynhawn yma? Yn gyntaf oll, rwy’n deall nad oes eto eglurhad neu reswm am y digwyddiad hwn, ond mae’n dal i fod yn ddigwyddiad llygredd o bwys ar y tir mawr, un o’r rhai mwyaf rydym ni wedi ei gael mewn blynyddoedd diweddar. Bydd pobl leol yn sicr yn gofyn a oes cysylltiad rhwng y digwyddiad yma o ollyngiad olew, neu cerosin, a'r ffaith bod y biben yn cael gwaith wedi’i wneud arno yn gyffredinol. Felly, pa fath o eiriau y mae’r Gweinidog yn gallu eu cael ynglŷn ag ymchwiliad o unrhyw fath ar yr adeg hon i sicrhau nad yw’r gwaith sy’n digwydd ar y biben mewn llefydd eraill yn mynd i arwain at unrhyw ddigwyddiad tebyg, a pha waith sy’n digwydd yn y cyd-destun hwnnw?
Mae’r ail gwestiwn sydd gennyf ynglŷn â’r effaith ar yr amgylchfyd. Rwy’n deall nad yw’r tanwydd wedi cyrraedd Afon Tywi, a gobeithio na fydd hynny’n digwydd. Serch hynny, mae yna effaith ddifrifol ar Nant Pibwr ei hunan, a bydd pawb, efallai, wedi gweld y lluniau o bysgod meirw, sy’n awgrymu eu bod nhw wedi marw yn y nant oherwydd llygredd. A fydd yna gamau nawr gan Gyfoeth Naturiol Cymru—wedi eu talu amdano gan y cwmni, gobeithio—i adfer y nant ac i wneud yn siŵr bod rhyw fath o ailstocio yn digwydd o bysgod er mwyn dod â bywyd yn ôl i’r nant, fel petai, fel ei fod yn un byw unwaith eto? A’r pwynt olaf yw y bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y biben yma yn mynd trwy’r rhan fwyaf o’r rhanbarth rwy’n ei chynrychioli, a dweud y gwir. Ar ei ffordd i orllewin y midlands, mae’n rhedeg drwy de canolbarth Cymru, a thrwy nifer o lefydd diarffordd iawn, iawn. Pa drafodaethau y mae hi yn eu cael, neu y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cael, gyda Valero ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod yna ryw archwiliad a sicrwydd diogelwch yn digwydd am weddill y biben i wneud yn siŵr nad oes—gallwn ni ddim gwneud yn siŵr, ond i geisio gwneud yn siŵr, nad oes unrhyw wendid mewn llefydd eraill ar hyd y biben hirfaith yma?