– Senedd Cymru am 6:17 pm ar 11 Hydref 2016.
Yr eitem olaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar arllwysiad olew yn Nantycaws, Caerfyrddin. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ar 4 Hydref, rhoddwyd gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am arllwysiad cerosin o'r biblinell wrth ochr yr A48 ger Nantycaws.
Yn syth ar ôl y digwyddiad, defnyddiodd y gwasanaeth tân ac achub freichiau cyfyngu arllwysiad olew mewn argyfwng ar Nant Pibwr a sefydlodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfan gydgysylltu aml-asiantaethol. Roedd contractwyr glanhau arbenigol a gyflogir gan y gweithredwr, Valero, ar y safle erbyn prynhawn dydd Mawrth i ddechrau ar y gwaith o gael gwared ar yr olew o’r nant. Yn ôl Valero, amcangyfrifwyd bod 140,000 litr wedi dianc o biblinell y brif linell. Fodd bynnag, mae dros ddwy ran o dair o hyn wedi ei glirio erbyn hyn gan gontractwyr arbenigol Valero. Mae cyfres o freichiau cyfyngu arllwysiad olew yn parhau i fod ar waith wrth gael gwared ar yr olew. Mae Valero a'i gontractwyr yn cynnal yr ymateb glanhau gyda chyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â monitro’r effeithiau amgylcheddol posibl, ynghyd â Dŵr Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Mae pobl wrth gwrs yn pryderu am eu dŵr yfed. Mewn erthygl ddoe yn y ‘Western Mail’ am yr arllwysiad cerosin yn Nantycaws, dywedwyd yn anghywir bod Dŵr Cymru wedi cadarnhau ddydd Gwener bod effaith ar gyflenwadau dŵr, pryd y dylai fod wedi dweud eu bod wedi cadarnhau nad oedd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr cyhoeddus. Camgymeriad oedd hwn, a chysylltodd Dŵr Cymru â’r golygydd ddoe i gywiro hyn cyn gynted ag y bo modd, ac argraffwyd y cywiriad yn rhifyn heddiw o’r papur newydd. Rwyf ar ddeall bod yr holl gyfryngau perthnasol eraill wedi cael gwybod mai camgymeriad ar ran y papur newydd oedd hwn a rhoddodd Dŵr Cymru neges hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn lliniaru unrhyw lefelau pryder diangen.
Nid yw pedwar o'r 12 eiddo lleol sy'n tynnu dŵr o gyflenwadau preifat yn yr ardal gyfagos yn defnyddio eu cyflenwadau am y tro fel rhagofal. Mae Dŵr Cymru wedi darparu dŵr potel a bydd yn parhau i wneud hynny ar gais. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cynnig cysylltu’r eiddo hynny dros dro i'r rhwydwaith cyflenwad dŵr cyhoeddus. Mae un eiddo wedi derbyn y cynnig hwn. Cynghorwyd lleill i gysylltu â swyddog cyswllt Valero a fydd wedyn yn cydgysylltu â Dŵr Cymru ar eu rhan os byddant yn dymuno cae eu cysylltu â’r cyflenwad dŵr.
Cynhaliwyd arolygon ecolegol cychwynnol ar yr afon i asesu arwyddocâd niwed lleol i ecoleg yr afon a chynhaliwyd asesiad o farwolaeth pysgod hefyd. Ymddengys bod yr effeithiau ecolegol wedi eu cyfyngu i adran fach o Nant Pibwr ac nid oes unrhyw arwydd o effaith arwyddocaol i lawr yr afon ar Afon Tywi.
Bydd gwaith ar y safle i fonitro ac adfer yr effaith tymor hwy bosibl yn parhau, a bydd nifer o dyllau turio yn cael eu drilio o amgylch y pwynt rhyddhau er mwyn gallu monitro'r effeithiau ar ddŵr daear. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ar y tywydd a hydroleg ac yn goruchwylio'r cynigion ar gyfer adfer a gyflwynwyd gan y gweithredwr.
Ddydd Sadwrn ymwelais â Nantycaws i weld y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau effeithiau'r arllwysiad olew fy hun. Cyfarfûm ag Emyr Roberts, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i dîm lleol, a diolchais i staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y ganolfan digwyddiadau yn Cross Hands am eu gwaith o gydgysylltu'r ymateb. Cyfarfûm hefyd ag uwch gynrychiolwyr a chontractwyr y gweithredwr, Valero, i weld y gwaith adfer yr oedden nhw wedi ei roi ar waith.
Er y dylai digwyddiad o'r fath gael ei atal yn y lle cyntaf, wrth gwrs, rwyf yn fodlon ar yr ymateb a’r ymdriniaeth o’r digwyddiad. Mae cyflymder yr ymateb wedi cyfyngu lledaeniad y cerosin ac wedi osgoi effeithiau ehangach. Rwyf yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa a byddaf yn parhau i fonitro cynnydd.
Er mwyn i Valero osod piblinell newydd, bydd yn anffodus yn angenrheidiol cau’r A48 i'r ddau gyfeiriad o fin nos 14 Hydref tan yn gynnar dydd Llun 17 Hydref. Bydd yr holl draffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y ffordd dargyfeirio traffig swyddogol trwy Langynnwr. Er fy mod yn cydnabod y bydd hyn yn peri anghyfleustra i bobl a busnesau yn y gorllewin, dylai cau’r ffordd ar y penwythnos leihau'r effaith ar y cyhoedd sy'n teithio a chaniatáu i’r gwaith angenrheidiol gael ei gwblhau yn gyflym i adfer y biblinell a selio’r rhan dan sylw.
Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddwyr perthnasol, yn ymchwilio i achos y toriad i’r biblinell a'r digwyddiad o lygredd yn y drefn honno, ac yn cymryd camau priodol o dan eu pwerau.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw, a hefyd am y sgwrs ffôn a gawsom ni yn gynnar bore ddydd Gwener a’i pharodrwydd hi i ymweld â’r ardal brynhawn ddydd Sadwrn. Fe soniodd hi ei bod yn fodlon gyda pha mor gyflym oedd yr ymateb, ond a gaf i ofyn am ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â’r amserlen? Yn union pryd hysbyswyd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y cwmni am y lleihad yn y pwysedd o fewn y biben? Pryd ymwelodd staff NRW â’r safle yn gyntaf? Pryd y gwnaethant ddyfarnu bod yr arllwysiad yn un mwy difrifol? Pryd y caewyd y biben? A phryd gorffennodd y gwaddod o olew a oedd yn yr adran yma o’r biben rhag gollwng ymhellach?
Fe gaewyd falfiau ynysu—‘isolation valves’—yn ôl y wybodaeth sydd gen i, yn ardal Llandeilo a Llangain. A all yr Ysgrifennydd esbonio pam na chaewyd y falf sydd, mae’n debyg, yn nes at yr ardal yn Nantgaredig, a fyddai o bosib wedi arbed degau o filoedd o litrau o olew rhag cael ei ollwng?
A ydy’r Ysgrifennydd yn cytuno bod angen ymchwiliad llawn i’r hyn a achosodd yr anffawd yma? A all hi gadarnhau hefyd fod pwerau NRW yn cynnwys yr hawl i ddod ag erlyniadau gerbron os oes tystiolaeth o esgeulustra? Pryd oedd y tro olaf, er enghraifft, i’r biben yma gael ei harchwilio? Ac, wrth gwrs, mae’r cwmni yma yn gwmni proffidiol, gyda £4 biliwn o incwm y flwyddyn, felly a allwn ni gael sicrhad y byddan nhw yn talu iawndal i’r trigolion a’r ffermwyr lleol sydd wedi cael eu heffeithio?
A ydy’r biben wedi cael ei chofrestru o dan Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996, ac os nad ydy, pam?
And finally, on the matter of the A48, she will appreciate and has already referred to, of course, the effect that this will have locally on residents who are already having to cope, on Friday night, for example, with the closure in one direction—a severe impact. Have all the alternatives not been looked at here in terms of the remedial work that needs to happen on the pipeline? We've heard, for instance, that work is not ongoing round the clock. Surely, we should be looking at that before closing what is, after all, the main arterial route for the whole of west Wales in both directions. So, is she satisfied that all other alternatives were looked at, and can she confirm that at least one of the relevant agencies actually opposed the proposal to close the route in both directions when it was first put to them?
Diolch, Adam Price, am y cwestiynau yna. O ran y llinell amser, gallaf ddweud wrth yr Aelodau, ddydd Mawrth diwethaf—felly, 4 Hydref—cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr alwad ffôn gyntaf gan Valero am 10:46 pan ddywedodd Valero eu bod yn rhoi gwybod eu hunain am ddifrod i biblinell cerosin a’i lleoliad. Roedd maint yr arllwysiad yn anhysbys ar y pryd, ac roedden nhw wedi cymeradwyo contractwyr yn—. Roedden nhw’n defnyddio contractwyr cymeradwy i ymchwilio a phrosesu gwaith atgyweirio a glanhau. Am 11am, felly yn gyflym iawn ar ôl hynny, ffoniodd Valero Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto a chadarnhau y bu gollyngiad, ond eu bod yn ansicr pa un a oedd unrhyw olew—. Nid oeddent yn credu bod unrhyw olew wedi cyrraedd dyfrffordd, ond eu bod wedi cysylltu â’r contractwyr rhag ofn. Aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i ymweld â'r safle eu hunain wedyn—. Wyddoch chi, roedden nhw’n awyddus i weld y sefyllfa drostynt eu hunain, felly aethant i ymweld â'r safle. Felly, fel y dywedais, roeddwn i’n fodlon iawn â'r ymateb a chredaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydgysylltu’r ymateb mewn modd proffesiynol iawn.
O ran y cwestiynau ynglŷn â'r falfiau, rwyf wedi cael gwybod bod y falfiau wedi eu cau, fel y dywedwch, i gyfyngu’r olew a oedd yn y biblinell. Gwnaethoch ofyn am iawndal i drigolion lleol, ac nid wyf yn credu bod hwn yn fater y gallaf roi sylwadau arno hyn o bryd. Soniais y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gallu ymchwilio i achos y toriad, pan fydd y digwyddiad wedi dod i ben. Byddant yn cymryd y camau priodol o dan eu pwerau, ac nid wyf, mewn gwirionedd, yn credu y byddai'n iawn i mi roi sylwadau eraill cyn i’r gwaith gael ei wneud. A chredaf fod angen i ni aros nes bod yr holl ymchwiliadau wedi eu gwneud.
Ynghylch effaith cau’r A48 fel y bwriedir ei wneud, bydd yr Aelodau yn gwerthfawrogi, Lywydd, mai mater i fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yw hwn, ond, yn amlwg, nid yw yma heddiw. Felly, gallaf ymateb i rai pryderon a, wyddoch chi, rwyf eisiau i Aelodau sylweddoli nad ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn a bydd cau’r ffordd i’r ddau gyfeiriad dros y penwythnos, mi wn, yn peri anghyfleustra, ond, rwy’n credu, oherwydd ei bod yn benwythnos, y dylai hyn leihau'r effaith ar y cyhoedd sy'n teithio a chaniatáu ar gyfer cwblhau’r gwaith angenrheidiol yn gyflym i adfer y biblinell a selio’r rhan dan sylw.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi siarad ag uwch lefarydd o Valero ynghylch y gollyngiad cerosin yn Nantycaws, a chefais fy sicrhau, oherwydd gofynnais lawer iawn o’r cwestiynau a ofynnwyd i chithau eisoes, eu bod, yn syth ar ôl sylweddoli bod gostyngiad i’r gwasgedd yn y biblinell—oherwydd dyna sut yr oedden nhw’n gwybod—wedi rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill oddi mewn. Ac rwy’n credu nad yw ond yn iawn ac yn deg ar y pwynt hwn, cyn i mi symud ymlaen, i gydnabod y gwaith caled a wnaed gan y staff hynny —a wneir gan y staff yn barhaus—y tu allan i'w horiau gwaith arferol er mwyn gwneud eu gorau i ddiogelu’r cyhoedd rhag yr holl faterion eraill y credaf iddynt gael eu datgan yn deg gan Adam Price. Ac rwy’n credu ei bod hefyd yn deg i sôn am y gwasanaethau brys, oherwydd bod yr awdurdod tân hefyd wedi dod yno ac ymateb mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Felly, rwyf am nodi’r pethau hynny ar y cofnod.
Fe wnes i yrru drwy’r ardal hon ddydd Sul, mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych ei bod yn daith tri chwarter awr o un pen o Gaerfyrddin i’r llall, a hynny am 4 o'r gloch ar brynhawn dydd Sul. Felly, wyddoch chi, mae'n debyg ei bod yn ddoeth dweud, er efallai mai ar benwythnos oedd hyn, serch hynny, bydd yn achosi anghyfleustra sylweddol. Roeddwn i, mae'n debyg yn annoeth yn dewis teithio am 4 o'r gloch, heb feddwl, gan nad oeddwn yn siopa, bod y siopau efallai yn cau bryd hynny, felly mae'n debyg ei bod yn deg ychwanegu hynny. Ond, serch hynny, dyna pa mor hir a gymerodd i mi i fynd o un pen o Gaerfyrddin i fynd yn ôl ar yr A48.
Felly, beth bynnag, wrth symud ymlaen, rwyf ar ddeall bod pedwar safle o lygredd a bod cyfanswm o dri o'r rhain wedi eu clirio erbyn hyn, ond bod un yn dal i gael ei adfer. Fe wnes i ofyn y cwestiwn, wrth gwrs, am unrhyw effaith i lawr yr afon ac ar afon Tywi a rhoddwyd sicrwydd i mi, ar y pwynt hwn, fod honno yn sefyllfa annhebygol. Serch hynny, tra bod hynny’n wir, ac rwy’n cydnabod y gallai pobl gael eu heffeithio am rai dyddiau drwy orfod mynd o amgylch y ffordd, yr hyn sy’n fy mhoeni i’n fawr yw’r effaith honno ar y ddyfrffordd honno a sut yr ydym yn bwriadu monitro unrhyw effeithiau a gafwyd ar y ddyfrffordd honno—y mae wedi ei dinistrio, gadewch i ni fod yn glir: os ydych yn gwenwyno afon, rydych wedi ei ddinistrio—a sut y bydd yn cael ei monitro a’i hadfywio.
Cefais fy ethol yn fuan ar ôl achos y Sea Empress; rwy’n gwybod pa mor ddinistriol yw’r pethau hyn, ac nid wyf yn awgrymu bod hyn ar yr un raddfa o gwbl. Rwyf yn diolch, fodd bynnag, i Valero am fod yn onest pan ofynnais gwestiynau ac maen nhw hefyd, hyd y gwn i, wedi bod ar y safle ac maen nhw wedi ymddiheuro’n llaes am y llygredd, a oedd yn ddigamsyniol, oherwydd fe wnes i ei arogli fy hun ddydd Sul, yn yr aer. Ar hyn o bryd, rwyf i ar ddeall ac mae eraill ar ddeall, nad oedd y mygdarth yn wenwynig. Ond fe wnaeth rhai teuluoedd ddewis symud oddi yno.
Felly, rwy’n credu, am y tro, y gwnaed yr hyn y gellid ei wneud, ond, wrth symud ymlaen, credaf mai’r hyn sy'n bwysig i mi wybod, fel rhywun sy'n cynrychioli'r ardal honno, yw y bydd y gwaith o fonitro’r safle yn ddiwyd, yn hirdymor, ac yn cael ei adrodd yn ôl i ni.
Diolch i chi, Joyce Watson, am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cwrdd â Valero a dylwn i fod wedi dweud bod Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod o'r Cynulliad i drafod y mater hwn. Rydych chi'n hollol iawn, dylem hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu presenoldeb.
O ran yr A48, fe wnes i ddweud fy mod i’n derbyn y bydd anghyfleustra, ond mae adran fy nghyd-Aelod Ken Skates yn dymuno osgoi wythnos hanner tymor. Mae'n ymwneud â lleihau'r effaith, ond wrth gwrs nid oes unrhyw amser da. Fel yr wyf wedi’i ddweud, ni wnaethom y penderfyniad yn ddifeddwl ac mae’n flin iawn gennym bod yn rhaid i ni ei wneud ac rydym yn siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y camau hyn, ond credaf y bydd yr Aelodau yn cytuno mai dyma’r unig ffordd ymlaen.
Roeddwn i’n falch iawn hefyd bod Valero wedi sefydlu llinell gymorth, ac yn amlwg mae un gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwn y cafwyd rhai galwadau. Dywedwyd wrthyf y cafwyd dwy alwad, hyd yn oed ar y dydd Gwener, gan dai lleol ac ymwelwyd â’r preswylwyr hyn ar unwaith, gan fy mod i’n credu ei bod yn hynod bwysig ac mae'n flaenoriaeth lwyr i mi bod pryderon pobl yn cael sylw, yn enwedig o ran iechyd cyhoeddus.
Soniais mai 140,000 litr yw'r ffigur yr ydym wedi ei gael gan Valero o ran yr arllwysiad. A heddiw, dywedwyd wrthyf—diweddariad heddiw yw bod 100,000 litr wedi eu hadennill, sy’n swm sylweddol yn fy marn i. O ran monitro, mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod allan yn monitro'r afon yn ddyddiol. Maen nhw wedi cynnal asesiad ecolegol ac wedi cyfrif carcasau pysgod, a deallaf fod hyn wedi aros ar 100. Mae gan y cwmni cysylltiedig gontractwyr arbenigol yn asesu'r effaith ar y tir. Maent yn cysylltu â thîm geowyddoniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadeirio'r grŵp technegol tactegol, lle mae'r holl asiantaethau partner perthnasol a Valero yn canolbwyntio ar liniaru effaith yr arllwysiad olew. Ond, rydych chi'n iawn, camau hirdymor yw’r rhain, ac rwyf yn dymuno rhoi sicrwydd i'r Aelodau fy mod i’n monitro hyn yn ofalus iawn. Rwyf yn cael diweddariadau niferus bob dydd ac rwyf, wrth gwrs, yn hapus iawn i adrodd yn ôl i'r Aelodau.
Weinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Credaf fod eich ymateb a'r ymateb gan Valero wedi bod yn gwbl resymol, o dan yr amgylchiadau—nid oedd unrhyw un yn dymuno i hyn ddigwydd, nid oedd unrhyw un yn disgwyl iddo ddigwydd, ac mae'n hynod, hynod anffodus, a dweud y lleiaf.
Credaf fod Adam Price wedi codi pwyntiau ardderchog yn ei sylwadau a hoffwn innau, mewn gwirionedd, gysylltu fy hun â nhw. Er yr hoffwn i ychwanegu fy mod i’n credu y dylai unrhyw ymchwiliad gael ei gynnal gan y cyrff statudol ac y dylai unrhyw gosbau ddod o ganlyniad i'r ymchwiliadau hynny gan y cyrff statudol. Nid wyf yn credu ei fod yn ddyletswydd ar unrhyw un ohonom i ragfynegi yr hyn a ddigwyddodd nac i osod yr hyn yr ydym yn credu y dylai unrhyw gosb fod.
Mae gennyf un pryder, fodd bynnag: yn eich llythyr ar 7 Hydref cyfeiriasoch at y ffaith bod y biblinell hon 12m o dan y ddaear ac na allwch chi fod yn sicr o gyflwr y biblinell nac o achos y gollyngiad. Rwyf hefyd wedi bod yn trafod hyn â Valero, sydd—a chytunaf â Joyce Watson—wedi bod yn eglur iawn ac wedi siarad yn blaen iawn am y cyfan, ac nid ydynt hwythau’n gwybod ychwaith. Felly, a oes gennych chi unrhyw gynllun wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd yr A48 ar gau am fwy na’r penwythnos? Oherwydd, pan fyddant o’r diwedd yn cloddio i lawr at y bibell, rwyf ar ddeall eu bod yn bwriadu mynd i mewn o'r ochr a chnocio drwy’r tarmac, ond os bydd, mewn gwirionedd, yn waeth yn y pen draw ac y bydd yn rhaid iddyn nhw godi rhan o’r ffordd er mwyn gwneud y gwaith angenrheidiol—felly, mewn gwirionedd, a oes gennym ni gynllun wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd y ffordd ar gau am gyfnod llawer hirach na’r disgwyl?
Hoffwn ofyn i chi hefyd gysylltu â'ch cydweithiwr, Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros fusnes, i siarad ag ef ynghylch pa un a allwn gyflymu holl fater yr A48. Fy mhryder yw bod hanner tymor yn dechrau y penwythnos ar ôl y nesaf. Fel y dywedodd Joyce Watson, mae’r ffordd honno yn orlawn o draffig. Mae gennym y twristiaid yn cyrraedd; mae’n hanfodol bwysig bod yr wythïen honno ar agor ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Nid wyf yn credu bod unrhyw ardaloedd yn bellach i'r gorllewin o’r fan honno, ond mae angen i ni wneud yn siŵr y gall twristiaid ddod yma–mae'n rhan hanfodol o'n diwydiant. Felly, a fyddech cystal â dweud wrthyf pa yn a ydych chi’n meddwl y gallem geisio eu perswadio i weithio ddydd a nos i drin y ffordd honno cyn gynted â phosibl?
Yn olaf, hoffwn ddweud cymaint o argraff a wnaed arnaf gan ymateb y tîm trefn rheoli arian wrth iddynt fwrw iddi, ac wrth i’r holl sefydliadau ddod at ei gilydd, ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn fynegi ein diolch iddyn nhw, oherwydd maen nhw wedi profi o ddifrif mai dyma beth yw hanfod y gwasanaethau brys, ac maent wedi gwneud yn arbennig o dda o dan yr amgylchiadau.
Er gwybodaeth, mae Ceredigion i’r gorllewin o Gaerfyrddin.
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, ond nid i'r gorllewin o Sir Benfro. [Chwerthin.]
Diolch i chi, Lywydd, ac rwy’n diolch i Angela Burns am y sylwadau yna ac yn sicr am y sylwadau am y tîm trefn rheoli arian. Rydych chi yn llygad eich lle: roedd yn dda iawn gweld pa mor dda y llwyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gydgysylltu’r ymateb amlasiantaethol hwnnw, ac mae’r tîm trefn rheoli arian wedi cyfarfod yn ddyddiol ac maent wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi.
Rwy'n hapus iawn i siarad â swyddogion Ken Skates yn ei absenoldeb. Fel y soniais—yn fy ymateb i Joyce Watson rwy’n credu—rydym yn ymwybodol iawn bod hanner tymor yn dechrau y penwythnos ar ôl y nesaf a dyna pam yr ydym wedi dewis y penwythnos hwn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol y trefnwyd bod un ochr o’r A48 yn cael ei chau wrth i Valero weithio ar y bibell honno.
O ran y ffaith ei fod yn 12 metr i lawr, fel y dywedasoch, mae’r brif bibell y mae’r gollyngiad yn deillio oddi wrthi wedi ei throi i ffwrdd ac erbyn hyn ychydig iawn o olew sy’n casglu yn y nant, ac rydym yn gobeithio bod hyn yn golygu nad yw’n gollwng. Yn anffodus, ni all Valero gyrraedd y bibell sydd wedi’i difrodi gan fod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cau’r mynediad ati. Felly, mae Valero yn mynd i adeiladu pibell newydd ochr yn ochr â'r bibell a’i hailgysylltu, pan fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dweud bod hynny’n bosibl, ac yna byddant yn gallu edrych ar yr hen bibell. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n cael y sgyrsiau hynny gyda swyddogion i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymdrin â phob posibilrwydd ar hyd y ffordd. Ond, fel y dywedais, bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i’r gwaith hwn gael ei wneud ac rwy'n gobeithio y bydd modd ei wneud dros y pedwar diwrnod hynny.
O ran y gwaith dydd a nos, fel y dywedais, byddaf yn siarad â swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet.
Ac, yn olaf, Simon Thomas.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad a jest gofyn cwpwl o bethau iddi yn sgil yr hyn sydd wedi cael ei drafod y prynhawn yma? Yn gyntaf oll, rwy’n deall nad oes eto eglurhad neu reswm am y digwyddiad hwn, ond mae’n dal i fod yn ddigwyddiad llygredd o bwys ar y tir mawr, un o’r rhai mwyaf rydym ni wedi ei gael mewn blynyddoedd diweddar. Bydd pobl leol yn sicr yn gofyn a oes cysylltiad rhwng y digwyddiad yma o ollyngiad olew, neu cerosin, a'r ffaith bod y biben yn cael gwaith wedi’i wneud arno yn gyffredinol. Felly, pa fath o eiriau y mae’r Gweinidog yn gallu eu cael ynglŷn ag ymchwiliad o unrhyw fath ar yr adeg hon i sicrhau nad yw’r gwaith sy’n digwydd ar y biben mewn llefydd eraill yn mynd i arwain at unrhyw ddigwyddiad tebyg, a pha waith sy’n digwydd yn y cyd-destun hwnnw?
Mae’r ail gwestiwn sydd gennyf ynglŷn â’r effaith ar yr amgylchfyd. Rwy’n deall nad yw’r tanwydd wedi cyrraedd Afon Tywi, a gobeithio na fydd hynny’n digwydd. Serch hynny, mae yna effaith ddifrifol ar Nant Pibwr ei hunan, a bydd pawb, efallai, wedi gweld y lluniau o bysgod meirw, sy’n awgrymu eu bod nhw wedi marw yn y nant oherwydd llygredd. A fydd yna gamau nawr gan Gyfoeth Naturiol Cymru—wedi eu talu amdano gan y cwmni, gobeithio—i adfer y nant ac i wneud yn siŵr bod rhyw fath o ailstocio yn digwydd o bysgod er mwyn dod â bywyd yn ôl i’r nant, fel petai, fel ei fod yn un byw unwaith eto? A’r pwynt olaf yw y bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y biben yma yn mynd trwy’r rhan fwyaf o’r rhanbarth rwy’n ei chynrychioli, a dweud y gwir. Ar ei ffordd i orllewin y midlands, mae’n rhedeg drwy de canolbarth Cymru, a thrwy nifer o lefydd diarffordd iawn, iawn. Pa drafodaethau y mae hi yn eu cael, neu y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cael, gyda Valero ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod yna ryw archwiliad a sicrwydd diogelwch yn digwydd am weddill y biben i wneud yn siŵr nad oes—gallwn ni ddim gwneud yn siŵr, ond i geisio gwneud yn siŵr, nad oes unrhyw wendid mewn llefydd eraill ar hyd y biben hirfaith yma?
Diolch i Simon Thomas am ei gwestiynau. Rwyf wedi dweud eisoes fy mod o’r farn na allwn ddyfalu ynghylch beth achosodd hyn. Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd yn fuan iawn, dyna fydd yr amser, wedyn, i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad llawn. Hoffwn sicrhau yr Aelodau fy mod wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru os ydynt yn teimlo, ar hyn o bryd, bod ganddynt yr adnoddau ychwanegol i reoli'r digwyddiad hwn, ac fe wnaethant fy sicrhau bod ganddynt yr adnoddau hynny.
O ran y bibell, rydych chi'n iawn, mae hi'n cario tanwydd, olew, i ganolbarth Lloegr, i Fanceinion ac i Heathrow hefyd. Felly, rwyf wedi cael y trafodaethau hynny ac rwyf wedi cael sicrwydd o ran y materion a godwyd gan yr Aelod.
Unwaith eto, yr effaith ar yr amgylchedd: rydym yn gobeithio’n fawr iawn na fydd yn cyrraedd Afon Tywi ac, fel y dywedais, mae’r olew sy'n cael ei gasglu yn lleihau erbyn hyn, ac rwy’n credu y gall hynny fod—mae’n rhywbeth cadarnhaol iawn, wrth i ni symud ymlaen. Ac, unwaith eto, yn y tymor hir, mae'n rhy gynnar i sôn am hynny, ond, yn amlwg, mae’r rheiny yn drafodaethau y byddaf yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Fe ddaw hynny â’n trafodion ni am heddiw i ben.