<p>Risg o Lifogydd yng Ngorllewin Clwyd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:32, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau i ddiogelu cartrefi a busnesau rhag llifogydd yn fy etholaeth. Ond wrth gwrs, gall unigolion hefyd gymryd peth cyfrifoldeb dros amddiffyn eu heiddo eu hunain. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fod grantiau o hyd at £5,000 i berchnogion tai unigol, dros y ffin yn Lloegr, i’w helpu i wneud eu heiddo yn fwy gwydn, ond nad oes unrhyw grantiau o’r fath ar gael yma yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i rhoi i sicrhau bod grantiau o’r fath ar gael, fel y gall pobl ysgwyddo peth cyfrifoldeb i sicrhau bod eu heiddo eu hunain yn gallu gwrthsefyll llifogydd yn well?