Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Hydref 2016.
Wel, nid ydym yn darparu’r mathau hynny o grantiau i berchnogion tai unigol; yn hytrach, rydym yn canolbwyntio ar ariannu cynlluniau llawer mwy er budd grwpiau o eiddo neu gymunedau. Rydym yn cefnogi gwydnwch ar lefel eiddo, pan gaiff ei gyflwyno fel ateb addas gan awdurdodau lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym yn darparu cyllid grant at y diben hwnnw. Credaf mai’r hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd yw dyrannu cyllidebau ar gyfer cynlluniau lliniaru ar draws y gymuned, sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn sicrhau gwell costau a manteision yn ogystal â lefel uwch o ddiogelwch.