<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:34, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 14 Medi, fe ymateboch i gwestiwn ynglŷn â rheoliadau ffermio, gan ddweud eich bod yn bwriadu cryfhau rheoliadau mewn rhai meysydd wrth ystyried gofynion sy’n benodol i Gymru yn y dyfodol. A allwch egluro beth a olygwch wrth ‘cryfhau’ a dweud wrthym pa reoliadau penodol rydych yn bwriadu eu cyflwyno yn y dyfodol agos iawn mewn gwirionedd?