1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet, ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 14 Medi, fe ymateboch i gwestiwn ynglŷn â rheoliadau ffermio, gan ddweud eich bod yn bwriadu cryfhau rheoliadau mewn rhai meysydd wrth ystyried gofynion sy’n benodol i Gymru yn y dyfodol. A allwch egluro beth a olygwch wrth ‘cryfhau’ a dweud wrthym pa reoliadau penodol rydych yn bwriadu eu cyflwyno yn y dyfodol agos iawn mewn gwirionedd?
Wel, nid oeddwn yn bod yn arbennig o benodol. Credaf mai’r hyn a ddywedais oedd pan fyddwn yn edrych, a phan fyddwn yn ymdrin—credaf i mi grybwyll bod 5,000 darn o ddeddfwriaeth yn fy mhortffolio yn ymwneud ag amaethyddiaeth a physgodfeydd—pan fyddwn yn ymdrin â hwy ac yn ystyried yr hyn sy’n benodol i Gymru ar gyfer y dyfodol, efallai y byddem yn atgyfnerthu peth o’r ddeddfwriaeth neu’r rheoliadau.
Diolch am yr eglurhad hwnnw. Wrth gwrs, mae un set o reoliadau y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arni yn ymwneud â pharthau perygl nitradau. Nawr, ni fyddwch yn synnu fy mod wedi cael cryn ohebiaeth ar y mater hwn, a bod pryderon difrifol ynglŷn â’r cynigion hyn a allai osod beichiau enfawr ar ffermwyr ac a allai, o ganlyniad i hynny, orfodi llawer ohonynt allan o fusnes oherwydd y goblygiadau ariannol, a bydd ffermwyr yn ystyried hyn yn ergyd arall i’r gymuned amaethyddol. Rwy’n sylweddoli bod y cynigion hyn ar gam ymgynghori ar hyn o bryd, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r ffermwyr yr effeithir arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn deall cost ac effaith y rheoliadau hyn ar eu busnesau, ac a wnewch chi gadarnhau pa un a fydd unrhyw gymorth ariannol ar gael i ffermwyr a fydd yn wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i gydymffurfio ag unrhyw reoliadau newydd?
Mae’r Aelod yn gywir—rydym yn amlwg yn ymgynghori ar hyn o bryd. Yn wir, ddydd Llun diwethaf, 10 Hydref, cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Sir Benfro i drafod hyn, gyda ffermwyr lleol o Sir Benfro hefyd, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi clywed ei fod yn gyfarfod cadarnhaol iawn. Credaf fod ffermwyr yn awyddus iawn i ystyried y ffordd orau o atal gormod o lygredd nitrad mewn dyfrffyrdd, ac roeddent yn hapus iawn i gyflwyno eu barn. Yn amlwg, bydd yr holl safbwyntiau yn cael eu hystyried. Felly, rwy’n falch iawn eich bod wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth, a byddwn yn annog eich etholwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Rwy’n ddiolchgar i chi am yr ateb hwnnw, ond rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi y gall rheoliadau, mewn rhai achosion, fod yn rhwystr i arferion ffermio effeithlon a thwf busnes. Felly, yng ngoleuni adroddiad ‘Hwyluso’r Drefn’ y Llywodraeth flaenorol, a wnewch chi ymrwymo i werthuso’r costau sydd ynghlwm wrth reoliadau ffermio yng Nghymru ac edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru leddfu’r rheoliadau, a thrwy hynny ostwng eu cost i ffermwyr, cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd?
Rwy’n derbyn y gallai fod mwy o gostau i rai rhannau o’r gymuned ffermio. Bydd yn rhaid eu hystyried pan fyddwn yn edrych ar yr asesiad effaith llawn a fyddai’n gysylltiedig ag unrhyw reoliadau newydd. A chredaf fod yn rhaid i ni edrych ar unrhyw gynnydd yn y costau sy’n rhaid eu pwyso a’u mesur ochr yn ochr â’r manteision i’r amgylchedd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn gwbl briodol y dylai ffermwyr gael taliadau am gyflawni tasgau amgylcheddol gyfrifol. Mae hynny’n bwysig i bob un ohonom, pa un a ydym yn ffermwyr ai peidio. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynlluniau Glastir Sylfaenol a Glastir - Tir Comin yn gynlluniau amaeth-amgylcheddol pwysig, ac mae hynny’n hollbwysig i lawer o ffermwyr mynydd fel cymorth incwm ar adeg pan fo incwm ffermydd yn gostwng. Gan fod y Trysorlys bellach wedi rhoi rhyw led-eglurhad, o leiaf, ynglŷn â chyllid wedi gadael yr UE, a fydd hi’n barod i ystyried agor cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer ceisiadau Glastir Sylfaenol a Glastir - Tir Comin, a chaniatáu i’r rhai sydd yn Glastir Sylfaenol eisoes ymestyn eu contractau y tu hwnt i bum mlynedd?
Yn sicr, rydym yn ystyried pa gyfnodau ymgeisio y gallwn eu hagor. Rwyf am sicrhau bod cymaint o gyfnodau ymgeisio ar agor cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni allu sicrhau cymaint o arian â phosibl.
Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Fel y bydd yn gwybod, bydd oddeutu 1,600 o ffermwyr yn cael eu gadael ar y clwt o fis Rhagfyr ymlaen os nad yw’r cynllun yn cael ei ymestyn, ac os nad yw’r polisi’n newid, bydd oddeutu 3,000 arall yn cael eu heffeithio yn y dyfodol. Mae llawer o bobl yn ystyried y cynllun hwn yn olynydd i’r cynllun Tir Mynydd ar ôl iddo ddod i ben, a throsglwyddwyd £25 miliwn o un gyllideb i’r llall yn rhan o hyn. Cred llawer o ffermwyr fod y ffaith fod y cyfnod ymgeisio wedi bod ar gau ers peth amser yn eu bradychu braidd, ac felly, a fyddai’n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig ei fod yn cael ei ailagor?
Rwyf wedi cael y trafodaethau hynny gyda’r ffermwyr fy hun, yn sicr mewn sioeau amaethyddol yr ymwelais â hwy yn ystod yr haf, a chyda ffermwyr unigol, ac rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod cyllid yn eu cyrraedd cyn gynted â phosibl.
Diolch. Gan symud at gynllun amgylcheddol arall—cytundebau adran 15 ar gyfer safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Ar gyfartaledd, mae ffermwyr yn cael oddeutu £2,175 y flwyddyn mewn taliadau o dan y cytundebau hyn, ac maent yn gwbl hanfodol ar gyfer diogelu tirwedd, bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Torrwyd oddeutu chwarter y gyllideb yn 2011. Ym mis Awst, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai oddeutu 118 yn unig o’r 172 cytundeb rheoli unigol sydd i’w hadnewyddu eleni sy’n debygol o gael contract newydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw wybodaeth bellach i ni ynglŷn â hyn ac a fyddai’n cytuno y byddai’n sicr yn fanteisiol iawn pe baent yn cael eu hadnewyddu, nid yn unig i’r ffermwyr eu hunain, ond hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwledig, yn enwedig yn yr ucheldir?
Nid oes gennyf y wybodaeth honno wrth law ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda’r wybodaeth honno.
Plaid Cymru spokesperson, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich cyfeirio at Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n nodi fframwaith statudol ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd? Ond ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, fframwaith yn unig ydyw, heb unrhyw dargedau tymor byr na chynllun cyflawni. A allwch amlinellu pa bryd a sut y byddwch yn cyflwyno’r targedau hyn a chynllun i leihau allyriadau, ac a allwch gadarnhau bod targed y Llywodraeth flaenorol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 40 y cant erbyn 2020 yn parhau i fod yn darged i’r Llywodraeth hon?
Yn sicr, gallaf gadarnhau bod y targed i leihau 40 y cant erbyn 2020 yn bendant yn dal i sefyll ar gyfer y Llywodraeth hon hefyd. Rwy’n edrych ar weithrediad Deddf yr amgylchedd wrth symud ymlaen, ond unwaith eto, nid yw’r dyddiad hwnnw gennyf wrth law, ond byddwn yn fwy na pharod i roi gwybod i chi.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, am gofnodi ei chadarnhâd o leiaf fod y targed 40 y cant yn dal yno, gan nad oedd yn rhan o’r rhaglen lywodraethu. Ond fe fydd hi’n gwybod bod adroddiad diweddar Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dweud ein bod, yn anffodus, yn annhebygol iawn o gyrraedd ein targed i leihau 40 y cant, ac nid wyf yn siŵr sut y gallwn wneud hynny o dan Ddeddf yr amgylchedd gan nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer pennu cyllidebau carbon dros dro, a fydd yn ddull pwysig o gyrraedd y targed hwnnw, i fod i ddod i ben tan 2018. Felly, o ystyried nad oes gennym unrhyw fath o gynllun i leihau allyriadau ac o ystyried ei bod hi newydd ddweud wrthyf nad oes ganddi unrhyw fanylion o’i blaen, sut y gallwn fod yn ffyddiog y bydd y targed hwnnw ar gyfer 2020 yn cael ei gyflawni?
Wel, nid yw popeth yn y rhaglen lywodraethu, dylwn ddweud hynny, ond mae’r targed hwnnw’n parhau. Ond mae’n anhygoel o anodd, ni fyddwn yn oedi rhag dweud hynny. O ran y gyllideb garbon, rwy’n cyfarfod â fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet ar hyn o bryd i drafod sut y mae pob un o’u portffolios, ar draws y Llywodraeth, yn helpu i leihau ein hallyriadau. Mae’r broses o gyllidebu carbon yn bwysig iawn, ac rydym yn amlwg wedi dechrau ar y gyntaf o’r cyllidebau hynny, ond mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo ac rwyf am dawelu meddwl yr Aelod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, credaf ein bod wedi sylwi bod y rhaglen lywodraethu braidd yn denau, ac felly mae’n werth gofyn beth sy’n rhan o raglen y Llywodraeth ar hyn o bryd. Rwy’n sicr yn edrych ymlaen at archwilio sut y gall cyllidebu carbon weithio o fewn y Cynulliad a’r effaith a gaiff ar broses gyllidebu’r Llywodraeth ei hun.
Ond a gaf fi droi yn awr at Ddeddf arall a gyflwynwyd gan y Llywodraeth flaenorol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae nod 7 o’r Ddeddf honno yn nodi ein bod ni yng Nghymru am fod yn
‘[G]enedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang’,
‘ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)’.
Yn y cyd-destun hwnnw, ar 4 Hydref, cadarnhaodd Senedd Ewrop gytundeb newid yn yr hinsawdd Paris yn ffurfiol ar ran yr UE. Yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, a ydych yn cytuno y byddai’n beth da yn awr i’r Cynulliad Cenedlaethol fod o ddifrif ynglŷn â’n cyfrifoldeb byd-eang, fel y nodir o dan nod 7 o ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac i ni fel Cynulliad hefyd ffurfioli a chadarnhau cytundeb Paris yn ffurfiol?
Wel, ymddengys na allwn ennill. Y tymor diwethaf, cawsom ein beirniadu am gael dogfen rhy fawr ar gyfer ein rhaglen lywodraethu, a’r tro hwn rydym yn cael ein beirniadu am ei bod yn rhy denau. Y tro nesaf, efallai y bydd gan Lywodraeth Lafur Cymru yr un gwbl berffaith. Credaf eich bod yn nodi mater pwysig ynglŷn â Pharis, a byddaf yn cynrychioli Cymru yn y COP22 ym Marrakech y mis nesaf, ond credaf fod hyn yn sicr yn rhywbeth y gallwn gael trafodaethau yn ei gylch gan ei bod yn bwysig iawn i ni ddangos ein bod yn fwy na pharod i chwarae ein rhan.