Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Fel y bydd yn gwybod, bydd oddeutu 1,600 o ffermwyr yn cael eu gadael ar y clwt o fis Rhagfyr ymlaen os nad yw’r cynllun yn cael ei ymestyn, ac os nad yw’r polisi’n newid, bydd oddeutu 3,000 arall yn cael eu heffeithio yn y dyfodol. Mae llawer o bobl yn ystyried y cynllun hwn yn olynydd i’r cynllun Tir Mynydd ar ôl iddo ddod i ben, a throsglwyddwyd £25 miliwn o un gyllideb i’r llall yn rhan o hyn. Cred llawer o ffermwyr fod y ffaith fod y cyfnod ymgeisio wedi bod ar gau ers peth amser yn eu bradychu braidd, ac felly, a fyddai’n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig ei fod yn cael ei ailagor?