<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:39, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gan symud at gynllun amgylcheddol arall—cytundebau adran 15 ar gyfer safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Ar gyfartaledd, mae ffermwyr yn cael oddeutu £2,175 y flwyddyn mewn taliadau o dan y cytundebau hyn, ac maent yn gwbl hanfodol ar gyfer diogelu tirwedd, bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Torrwyd oddeutu chwarter y gyllideb yn 2011. Ym mis Awst, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai oddeutu 118 yn unig o’r 172 cytundeb rheoli unigol sydd i’w hadnewyddu eleni sy’n debygol o gael contract newydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw wybodaeth bellach i ni ynglŷn â hyn ac a fyddai’n cytuno y byddai’n sicr yn fanteisiol iawn pe baent yn cael eu hadnewyddu, nid yn unig i’r ffermwyr eu hunain, ond hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwledig, yn enwedig yn yr ucheldir?