Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich cyfeirio at Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n nodi fframwaith statudol ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd? Ond ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, fframwaith yn unig ydyw, heb unrhyw dargedau tymor byr na chynllun cyflawni. A allwch amlinellu pa bryd a sut y byddwch yn cyflwyno’r targedau hyn a chynllun i leihau allyriadau, ac a allwch gadarnhau bod targed y Llywodraeth flaenorol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 40 y cant erbyn 2020 yn parhau i fod yn darged i’r Llywodraeth hon?