Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 12 Hydref 2016.
Yn bendant. Credaf fod Dr Lloyd yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fe wyddoch ein bod wedi cynnal asesiad o fanteision iechyd cerdded ar lwybr arfordir Cymru yn ôl yn 2014, a daeth hwnnw i’r casgliad fod y gwerth economaidd a oedd yn gysylltiedig ag iechyd gwell drwy gerdded ar lwybr yr arfordir yn £18.3 miliwn bryd hynny. Felly, yn bendant, gallwn dderbyn bod hynny’n wir. Ac unwaith eto, rydym yn gwneud gwaith arwyddocaol ac yn rhyddhau cyllid sylweddol tuag at y mater hwn.