Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 12 Hydref 2016.
Gallai cynyddu mynediad i gefn gwlad sicrhau manteision sylweddol o ran gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon y gallai mynediad digyfyngiad i gefn gwlad achosi difrod amgylcheddol ac economaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hyn, a sut y mae am sicrhau y bydd y broses o ehangu mynediad yn ystyried yr angen i gynnal cefn gwlad gweithredol a hyfyw yng Nghymru?