Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Hydref 2016.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb yn flaenorol ar hyn? Mae’r cynllun teithio llesol, y cyfeiriais ato ddoe, mewn gwirionedd, mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd o gwmpas ysgolion, hefyd yn disgwyl i awdurdodau lleol yng Nghymru ddechrau llunio mapiau o rwydweithiau newydd arfaethedig ar gyfer llwybrau cerdded a beicio. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, fel y gwyddoch mae’n debyg, ceir cyfleusterau rhagorol eisoes megis afon Taf, afon Bargoed a BikePark Wales sy’n hybu cerdded a beicio yn yr ardal honno. Ond a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a yw’n credu bod gofynion y cynllun teithio llesol yn darparu cyfle ardderchog i awdurdodau lleol edrych ar y posibilrwydd o ehangu mynediad i awyr agored gwych Cymru, mewn ymgynghoriad â’r rhai sydd eisoes yn darparu gweithgareddau o’r fath?