<p>Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:56, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Nododd yr Athro Harris yn ei adroddiad fod nifer fawr o anifeiliaid gwyllt caeth yn cael eu defnyddio, fel y dywedais, mewn adloniant corfforaethol ac mewn lleoliadau addysgol. I fod yn onest, mae’r maes hwnnw’n peri mwy o bryder i mi, am fy mod yn credu nad ydym yn gwybod faint ohonynt sy’n cael eu defnyddio nac unrhyw beth am eu lles. Fe fyddwch wedi gweld yr hyn sy’n cael ei wneud yn Lloegr. Cafwyd cyhoeddiad yn yr Alban yn ddiweddar eu bod yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth yn 2018. Nid oes gennym bwerau yn y maes hwn, felly rwyf wedi ysgrifennu at Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig er mwyn dechrau’r trafodaethau hynny i weld pa waith y gallwn fwrw ymlaen ag ef. Ac fel y dywedais, byddaf yn cyflwyno datganiad cyn y Nadolig.