<p>Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:57, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu ymagwedd sy’n fwy seiliedig ar ddeddfwriaeth o ran lles anifeiliaid yn y Cynulliad hwn. Cofiaf yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau, ein bod wedi cael deiseb yn galw am gofrestr cam-drin anifeiliaid, a fyddai’n cynnwys anifeiliaid mewn syrcasau, pe bai gofyn wrth gwrs. Ysgrifennodd y Gweinidog ar y pryd at y pwyllgor i ddweud nad oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny ar y pryd, ond tybed a fyddech o leiaf yn ymrwymo i archwilio’r syniad, o ystyried y manteision y gallai eu sicrhau, nid yn unig o ran lles anifeiliaid, ond o ran proffilio tramgwyddwyr mewn amgylchiadau eraill. Os ydych yn cam-drin anifail, gwyddom y gallech o bosibl fynd ymlaen i gam-drin pobl yn y dyfodol. Credaf ei fod yn rhywbeth y dylem ei ystyried yn fater pwysig iawn.