Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai deddfau sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, boed yn anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm neu fywyd gwyllt, yn elwa o gael eu cyfuno’n un Ddeddf Cynulliad er mwyn sicrhau mwy o ddiogelwch a gorfodaeth yng Nghymru?